Croesawu cyfle newydd i Ysgolion Gwynedd

Cadwn Ein Hysgolion.JPGMae Cymdeithas yr Iaith wedi croesawu'r cyhoeddiad heddiw gan y Cyng. Dyfed Edwards (cynghorydd gyda phortffolio addysg Cyngor Gwynedd) y bydd y cynllun i ad-drefnu a ffedereiddio degau o ysgolion yng Ngwynedd y cael ei ohirio am flwyddyn hyd nes bod canllawiau newydd y Cynulliad ar ffedereiddio a chlystyru ysgolion yn glir. Mae'r Gymdeithas yn galw am ddefnyddio'r flwyddyn trwy ddychwelyd at bob ardal gan geisio atebion 'o'r gwaelod i fyny'. Mae'r Gymdeithas hefyd yn tynnu sylw at y ffaith fod y bygythiad i gau 7 ysgol bentrefol Gymraeg yng Ngwynedd yn ystod y flwyddyn nesaf yn parhau.

Dywedodd Osian Jones - trefnydd y Gymdeithas yn y Gogledd - mewn ymateb:"Croesawn y datblygiad hwn a chredwn mai arwydd o gryfder, nid gwendid, yw parodrwydd i wrando a newid safbwynt. Llongyfarchwn hefyd bawb sydd wedi bod yn ymgyrchu. Yr ydym wedi dadlau o'r cychwyn mai cwbl anymarferol oedd ceisio mynd trwy'r broses fanwl o benderfynu ar ddyfodol dau ddwsin o ysgolion y flwyddyn nesaf a'i bod yn wirion i geisio gwneud hynny cyn i ni wybod am yr holl bosibiliadau newydd o ran cydweithio rhwng ysgolion a ddaw o ganllawiau newydd y Cynulliad."Yr ydym yn cydnabod fod Cyngor Gwynedd wed dangos parodrwydd i gynnal cyfarfodydd anffurfiol i drafod gyda chymunedau lleol ddyfodol addysg yn yr ardal - yn wahanol i siroedd fel Caerfyrddin sy'n benderfynol o wthio'i agenda trwodd. Galwn am ddefnyddio'r flwyddyn hon yn awr trwy gynnal cyfarfodydd cwbl agored ym mhob ardal i geisio cytundeb am atebion o'r gwaelod i fyny sy'n addas i'r ardaloedd unigol.""Tynnwn sylw, fodd bynnag, at y ffaith fod bygythiad o hyd i ddyfodol 7 o ysgolion pentrefol Cymraeg yn y sir a bwriad i fynd trwy'r broses statudol i benderfynu ar eu dyfodol yn ystod 4 wythnos olaf tymor yr haf. Gan fod y rhan fwyaf o raglen ymgynghori'r flwyddyn nesaf wedi'i gohirio, gwell o lawer fyddai rhoi cyfle teg i edrych ar ddyfodol y 7 ysgol hyn yr Hydref nesaf."