Amdanom

Beth yw Cymdeithas yr Iaith?

Cymdeithas o bobl sy'n gweithredu'n ddi-drais dros y Gymraeg a chymunedau Cymru fel rhan o'r chwyldro rhyngwladol dros hawliau a rhyddid.

  • Ydych chi erioed wedi profi anhawster wrth geisio cael gwasanaeth Gymraeg?
  • Cael eich trin yn amharchus wrth siarad Cymraeg?
  • Cael trafferth cael mynediad i addysg Gymraeg i chi neu’ch plant?

Mae Cymdeithas yr Iaith eisiau sicrhau cyfle cyfartal i’r Gymraeg, ac mae’n ymgyrchu trwy ddulliau di-drais  dros hawliau i bobl Cymru ddefnyddio’r iaith ym mhob agwedd o'u bywydau.

Yn 1962 yn narlith Tynged yr Iaith nodwyd fod angen chwyldro er mwyn achub yr iaith Gymraeg. Am dros hanner canrif, bu Cymdeithas yr Iaith ar flaen y gad yn arwain y chwyldro hwnnw.

1960au – Arwyddion Ffyrdd Dwyieithog
1970au – Ymgyrchu am sianel Deledu Cymraeg
1982 – Sefydlu S4C, unig sianel deledu Cymraeg y byd
1980au – Ymgyrch am Ddeddf Eiddo er mwyn cynnal cymunedau Cymraeg
1993 – Deddf Iaith a roddai ddyletswydd ar gyrff cyhoeddus i gynnig gwasanaeth Cymraeg cyfyngedig
2000au – Ymgyrchu dros gadw ein ysgolion pentrefol; Ymgyrchu dros Ddeddf Iaith Newydd
2010 – Statws Swyddogol i'r Gymraeg, y Mesur Iaith Gymraeg
2011 – Sefydlu Coleg Cymraeg Cenedlaethol

Rydym yn credu fod gan bob cymuned botensial i fod yn gymuned Gymraeg. Mae gan y mudiad bolisïau blaengar mewn pedwar maes sy’n effeithio’r Gymraeg er mwyn hyrwyddo’r iaith.

Hawliau Ieithyddol

Er fod y Gymraeg yn iaith swyddogol erbyn hyn mae’r mesur iaith presennol yn rhoi mwy o hawliau i sefydliadau i beidio â gweithredu drwy’r Gymraeg nag yw’n rhoi'r hawl i bobl Cymru ddefnyddio’r iaith. Byddwn felly yn parhau i frwydro dros Fesur Iaith cryf sy'n cynnwys hawliau i bobl weld, clywed a defnyddio'r Gymraeg ym mhob agwedd o fywyd.

Addysg

Credwn fod y Gymraeg yn sgil addysgol hanfodol i bob plentyn ac y dylai fod gan bawb yr hawl i dderbyn addysg Gymraeg gynradd ac uwchradd yn lleol, ac y dylai addysg Gymraeg gyflawn fod ar gael hyd at lefel prifysgol a thu hwnt. Ymhellach dylai'r system addysg arfogi pobl ifanc i ddeall gweithdrefnau a systemau gwleidyddol a sut i wneud gwahaniaeth.

Cymunedau Cynaliadwy

Mae'r farchnad dai yn aml y tu hwnt i gyrraedd bobl leol. Dylai system gynllunio adlewyrchu a gweithio er lles y gymuned leol drwy asesu'r angen lleol am dai a datblygu'r farchnad dai yn ôl hynny gan sicrhau stoc digonol o dai fforddiadwy i'w prynu a'u rhentu a sicrhau cymorth i brynwyr tro cyntaf ac i bobl leol.

Cyfryngau

Cred Cymdeithas yr Iaith fod y cyfryngau modern yn holl bwysig er mwyn sicrhau dyfodol llewyrchus i’r Gymraeg. Er mwyn rhoi hygrededd i’r iaith a hyder i’w siaradwyr ymgyrchwn dros wasanaeth Cymraeg ar orsafoedd radio lleol; ac annibyniaeth a chyllid teg i’n sianel deledu Gymraeg.

Ond mae’r Gymraeg yn ddiogel erbyn hyn...

Mae sefyllfa’r iaith wedi cryfhau dros y blynyddoedd mae’n wir, ond mae nifer o ffactorau fel effaith globaleiddio a dirywiad cymunedau Cymraeg yn dal i'w bygwth. Er mwyn iddi fod yn iaith fyw rhaid i ni ei defnyddio ym mhob rhan o’n bywydau – yn iaith naturiol yn ein cymunedau, ar y we, yn y siop, cyfrwng i’n haddysg, radio a theledu.

Dydw i ddim yn un i brotestio...

Beth yw'r dewis arall – derbyn popeth yn ddi-gwestiwn? Sut mae hynny'n mynd i ddiogelu'n cymunedau, ein gwlad a'r Gymraeg? Hanfod y Gymdeithas yw gweithredu yn ôl y dull di-drais; gall hyn fod yn unrhyw beth o ysgrifennu llythyr am ddiffyg gwasanaeth Gymraeg neu gasglu llofnodion ar ddeiseb, hyd at brotestio neu hyd yn oed baentio sloganau. Does neb o fewn y Gymdeithas yn cael ei orfodi i wneud unrhyw beth a rhoddir pwyslais ar annog a chynorthwyo ein haelodau i gyfrannu a datblygu eu sgiliau er budd y gymuned. Mae angen pobl sy'n gallu ysgrifennu, darlunio, cyfathrebu, creu pethau, pobl gydag arbenigedd mewn addysg, cyfraith, adloniant, cyfrifiaduron, yn wir, beth bynnag eich talentau, mae yna le i chi yng ngwaith y Gymdeithas.

Beth alla i wneud?

Ymaelodwch! Ymunwch â chell (cangen leol o’r Gymdeithas) – neu sefydlwch gell os nad oes un yn bodoli. Cliciwch yma am wybodaeth bellach.

Cysylltwch gyda ni i gael manylion pellach am ein hymgyrchoedd a sut gallwch chi fod yn rhan o chwyldro Cymdeithas yr Iaith.

Cofiwch, cymdeithas o bobl yw Gymdeithas yr Iaith, hynny yw, chi!

Mae’ch cyfraniad yn holl bwysig a gyda’n gilydd rydym yn arwain y frwydr dros sicrhau dyfodol i’r iaith Gymraeg

Ymunwch â’r chwyldro!

01970 624501 swyddfa@cymdeithas.cymru