Gair o'r Gadair

Mae chwe mis bellach ers cyhoeddi canlyniadau cyfrifiad 2011. Ers chwe mis felly, mae wedi bod yn amlwg bod angen ymateb brys er mwyn gwyrdroi’r dirywiad yn sefyllfa’r Gymraeg, ymateb brys fel yr hyn rydym yn ei awgrymu yn y Maniffesto Byw a gyhoeddon ni gyntaf fis Rhagfyr. Yn anffodus, nid yw’r Llywodraeth wedi newid polisïau cynllunio ac addysg er lles y Gymraeg, defnyddio’r Safonau Iaith i sicrhau hawl i wasanaethau Cymraeg, na chreu swyddi lle mae eu hangen yn ein cymunedau. Yn hytrach, maent wedi creu pwyllgorau di-ri er mwyn edrych yn brysur, tra bo’r dirywiad yn parhau.

 
Ond er nad yw’r gwleidyddion yn dangos arweiniad, ni ddylem anobeithio. Mae gobaith yn eich ymateb chi, aelodau Cymdeithas yr Iaith – wrth gymryd rhan mewn ralïau ac ymgyrchoedd, wrth ysgrifennu llythyrau ac wrth siarad â phobl ymhob rhan o’r wlad. Mae’r pethau hyn yn dwyn pwysau ar y Llywodraeth, ac yn cael effaith uniongyrchol – cynyddu ein hyder a’n gallu i fyw yn Gymraeg. Ac nid yw Cymdeithas yr Iaith ar ei phen ei hun – mae pobl a mudiadau eraill yn brwydro dros y Gymraeg yn ein cymunedau hefyd, nifer ohonynt yn rhan o Gynghrair Cymunedau Cymraeg a Mudiadau Dathlu’r Gymraeg.
 
Mae’r Maniffesto Byw wedi esgor ar un llwyddiant yn barod: pan gwrddon ni â Carwyn Jones fis Chwefror eleni, cytunodd y byddai adolygiad o’r effaith mae holl wariant y Llywodraeth – ar draws pob un adran – yn ei gael ar y Gymraeg. Rydym yn credu bydd hyn yn amlygu nifer o feysydd lle mae gwendidau ar hyn o bryd (megis dysgu yn y gymuned – mae 99.9% o’r miliynau a warir ar hyn yn mynd ar gyrsiau uniaith Saesneg!), ac yn cryfhau’r ddadl dros gynyddu’r buddsoddiad yn y Gymraeg.
 
Ond os yw pethau am newid, mae’n rhaid i ni barhau i weithredu – mae manylion sawl peth fedrwch eu gwneud yn rhifyn yma’r Tafod. Un peth y gallwch ei wneud yw cyfrannu at y Maniffesto Byw: anfonwch eich awgrymiadau atom, a dewch i Rydaman ar Fehefin yr 8fed, lle bydd cyfarfod arbennig er mwyn i holl  aelodau’r Gymdeithas gael bleidleisio ar newidiadau a chreu fersiwn diwygiedig o’r Maniffesto. Ond yn bwysicaf oll, gan mai dogfen ymgyrchu yw’r Maniffesto Byw, byddem yn dechrau yn y fan a’r lle ar y gwaith o sicrhau bod cymaint â phosib o’r polisïau ynddo yn cael eu gweithredu. 
 
Gwela’i chi yno!