Ni allwn aros dros 800 mlynedd

Ar Ddydd Sadwrn Chwefror 13eg, bydd cyfle mwya’r ddegawd i ni ddangos bod yr iaith Gymraeg yn bwysig i ni. Cyfle hanesyddol i ddod at ein gilydd a mynnu bod Llywodraeth nesaf Cymru yn gweithredu gyda gweledigaeth a gwireddu ewyllys y Cymry i weld ein hiaith yn ffynnu. Cyfle i bwyso a chyfle i ddathlu ein hymrwymiad i'r Gymraeg fel rhan greiddiol ac anhepgor o gymunedau’r Gymru fodern.

Ar drothwy etholiadau'r Cynulliad, un o alwadau'r rali fydd addysg Gymraeg i bawb.

Mae'r Llywodraeth yn honni ei fod eisiau creu Cymru gwbl ddwyieithog – ond ni fydd y drefn addysg bresennol yn llwyddo i wneud hynny. Yn ôl ffigyrau'r Llywodraeth ei hun, mae twf addysg Gymraeg yn rhyfeddol o araf. Os yw'r twf yn dal ar yr un raddfa, llai na 0.1 pwynt canran bob blwyddyn, bydd dros 800 mlynedd* nes i bob plentyn 7 mlwydd oed fynd i ysgol lle bydd yn dysgu siarad Cymraeg. Does bosibl y gall unrhyw un ddadlau nad yw hynny'n rhy hir. Ni allwn aros dros 800 mlynedd.

Mae angen sicrhau addysg Gymraeg i Bawb o fewn amserlen gall – ac mae hynny'n bosib os bydd ymrwymiad i gamau megis:

1) Dileu Cymraeg Ail Iaith a sefydlu un continwwm dysgu Cymraeg ac un cwricwlwm Cymraeg yn ei le    2) Peth addysg cyfrwng Cymraeg i bob disgybl ac ym mhob ysgol yng Nghymru   3) I'r Gymraeg fod yn bwnc craidd i bob disgybl    4) I bob sefydliad addysg gynyddu'r canran o bynciau sy'n cael eu dysgu drwy'r Gymraeg

Wrth gwrs, mae angen gweithredu mewn meysydd eraill hefyd – gwaith, cymunedau, hawliau, tai, darlledu – gallwch ddarllen mwy am ein gweledigaeth trwy fynd i http://cymdeithas.cymru/2016ymlaen

Mae angen gweledigaeth newydd ar y Gymraeg yn 2016 – ymunwch yn yr ymgyrch i sicrhau hynny! Rhowch yr 13eg Chwefror 2016 yn eich dyddiaduron yn barod. Cysylltwch â'n swyddogion i weld sut allwch chi gynorthwyo yn eich ardal chi gyda'r trefniadau ar gyfer y diwrnod.

Dyma'r manylion:

Rali Miliwn o Siaradwyr Cymraeg - Addysg Gymraeg i Bawb!
1pm, Dydd Sadwrn, 13eg Chwefror 2016
Neuadd y Ddinas, Parc Cathays, Caerdydd

Bydd bysiau'n cael eu trefnu, o Gaernarfon, Wrecsam, Machynlleth, Aberystwyth, Caerfyrddin, Abertawe a lleoliadau eraill - cysylltwch gyda ni am ragor o wybodaeth: post@cymdeithas.cymru 01970 624501

Beth arall allaf i wneud?

Bydd gennym ni fws yn teithio Cymru cyn etholiadau'r cynulliad. Hoffech chi drefnu i'r bws ddod i'ch ardal chi? Cysylltwch â ni neu dewch i'r cyfarfod Cyngor ar Ionawr 9fed lle bydden ni'n trafod llwybr y bws. Mae adnoddau a mwy o syniadau am sut allwch chi ddylanwadu ar ymgeiswyr cynulliad a bod yn rhan o'r ymgyrch yma: http://cymdeithas.cymru/2016ymlaen

Edrychwn ymlaen at ymgyrchu gyda chi yn 2016 - blwyddyn newydd dda i chi i gyd!

Jamie Bevan

Cadeirydd, Cymdeithas yr Iaith Gymraeg

* 22.2% o blant 7 oed oedd yn cael eu haddysgu drwy gyfrwng y Gymraeg yn 2014, a 0.091% yw'r twf blynyddol yng nghanran y plant 7 mlwydd oed sy'n derbyn addysg Cymraeg ers 2011, sy'n cyfateb i 853 o flynyddoedd er mwyn cyrraedd addysg Gymraeg i Bawb.

http://gov.wales/docs/dcells/publications/150715-welsh-medium-annual-rep...