Pwy sydd eisiau darparwr cyfryngol newydd i Gymru?

Fe fyddai unrhyw ddyfodol sydd yn cynnwys bywyd ffyniannus i’r Gymraeg yn cynnwys cyfryngau amrywiol cryf. Rydym yn byw mewn oes lle mae cyfryngau ar-lein trwy’r Gymraeg yn hanfodol yn ogystal â radio, teledu a phrint. Ond mae ymchwil gan y BBC yn dangos bod siaradwyr Cymraeg yn treulio dim ond 1% o’u hamser ar-lein ar gynnwys yn Gymraeg o unrhyw fath (Ffynhonnell: Siân Gwynedd, Cynhadledd NPLD, mis Rhagfyr 2011). Mae sawl rheswm pam bod pobl yn troi at gynnwys yn Saesneg ond un prif ffactor yw’r diffyg darpariaeth o gynnwys perthnasol cyfredol ac amrywiol yn Gymraeg ar- lein.

Mae llwyth o ystadegau sydd yn dangos nad ydy buddsoddiad mewn radio a theledu Cymraeg wedi cynyddu yn ddigonol ers degawdau. Er enghraifft, rhwng 1990 a 2002 fe wnaeth y BBC fwy na dyblu nifer y gorsafoedd radio Saesneg sy'n darlledu yng Nghymru heb unrhyw fuddsoddiad cyfartal mewn radio yn Gymraeg. Mae sicrhau arian teg i Radio Cymru a’r sianel deledu Gymraeg yn hollbwysig. Mae angen dal tir o ran y cyfryngau prif ffrwd felly ond mae hefyd eisiau edrych at fuddsoddiad newydd mewn darpariaeth ehangach. Nid yw diffiniad ‘plwraliaeth’ yr Adran Ddiwylliant yn San Steffan a’i weinyddwyr Ofcom Cymru ym Mae Caerdydd yn cynnwys unrhyw ystyriaeth o gryfder y Gymraeg ar draws platfformau. Mewn gwirionedd nid oes plwraliaeth go iawn yn y cyfryngau Cymraeg ar hyn o bryd. Mae angen amrywiaeth o ddarparwyr er mwyn datblygu democratiaeth, dinasyddiaeth, cymunedau a chreadigrwydd trwy gyfrwng priod iaith ein cenedl.

Fel arbrawf mae Sianel62 wedi rhoi wedi manteisio ar ffafr y wladwriaeth i osgoi treth. Fe fyddai’r darparwr newydd sbon yn genedlaethol ac amlgyfrwng. Fel corff sy’n annibynnol o’r BBC byddai’n gallu cynnig safbwyntiau amgen a gwella cynrychioliaeth o Gymru. Ar hyn o bryd mae Grŵp Digidol y Gymdeithas yn trafod y camau nesaf. Ymunwch â’r trafodaethau cyffrous yma i ddatblygu tirlun cyfryngol ehangach yn Gymraeg.

E-bostiwch greg@cymdeithas.org am ragor o wybodaeth.

Carl Morris yw Cadeirydd Cell Caerdydd