Sut i ymateb i ymgynghoriad y "Gynhadledd Fawr"

Annwyl Aelodau,

Yng nghyfarfod cyffredinol arbennig y Gymdeithas yn Rhydaman dros y Sul, cytunon ni bod angen i bawb godi’r pwyntiau yma ar bob cyfle posib dros yr wythnosau nesaf:

  • Os nad yw Llywodraeth Cymru yn fodlon newid eu polisïau, bydd dim pwynt i'r arolygon maent yn cynnal ar hyn o bryd na'r “Gynhadledd fawr”. Mae angen arweiniad clir a chadarn, yn hytrach na hel esgusion a gwadu'r problemau.

  • Mae datblygiadau tai Penybanc (Sir Gaerfyrddin), Bodelwyddan (Dinbych) a Choetmor (Gwynedd) yn dangos bod y system gynllunio yn peryglu’r Gymraeg. Rhaid sicrhau nad yw datblygiadau tai anaddas yn cael eu caniatáu eto - gall y Llywodraeth wneud hyn drwy:

    • Gyhoeddi TAN 20 newydd, a sicrhau ei fod mor gryf â phosib. Canllawiau cynllunio ar effaith datblygiadau ar y Gymraeg yw TAN 20. Daeth yr ymgynghoriad arno i ben 2 flynedd yn ôl.

    • Atal pob cynllun datblygu unedol tan fydd asesiad wedi ei wneud o effaith adeiladu'r tai ar y Gymraeg.

    • Sicrhau bod cynghorwyr yn gallu gwrthod cais cynllunio ar sail yr effaith ar y Gymraeg, gwneud asesiadau effaith iaith yn ofyniad statudol, a gosod TAN 20 ar sail statudol.

  • Mae angen hawliau iaith clir yn y “safonau iaith” newydd, pethau fel yr hawl i wersi nofio i blant yn y Gymraeg, yr hawl i ddysgu'r Gymraeg a'i defnyddio yn y gweithle, a'r hawl i gleifion dderbyn gofal iechyd yn yr iaith.

  • Cynyddu gwariant ar y Gymraeg - o ddilyn enghraifft gwlad y Basg byddai'r Llywodraeth yn gwario 4 gwaith yn fwy ar brosiectau penodol Cymraeg.

  • Mae angen dileu “Cymraeg ail iaith” fel pwnc - dylai’r Llywodraeth ddangos fod y Gymraeg yn perthyn i bawb yng Nghymru trwy ddatgan yn syth ei fod am sicrhau bod pob disgybl yn astudio Cymraeg, gyda system continiwym.

Hoffwn i chi godi’r pwyntiau yma yn y “Fforymau Trafod” sy’n cael eu cynnal dros yr wythnosau nesaf, wrth ymateb i arolwg y Llywodraeth, yma: https://www.surveymonkey.com/s/XGFSTXJ  ac yn y Gynhadledd Fawr ei hun.

Diolch i bawb a gyfrannodd i’r Maniffesto Byw - mae’r holl ymdrech yn golygu gall bawb ddefnyddio’r Maniffesto wrth fynnu bod y Llywodraeth yn gweithredu o ddifrif. Mae’r Maniffesto yn berchen i bob un ohonoch, ac fe fydd ar gael ar ei newydd wedd o yfory ymlaen ar http://cymdeithas.org/maniffestobyw. Pob lwc!

Robin

Cynhaliwyd cyfarfod cyffredinol arbennig i drafod gwelliannau i'r Maniffesto Byw yn Rhydaman ar yr 8fed o Fehefin