Caerfyrddin Penfro

Llongyfarch Cyngor Sir Gâr am roi ysgolion ar lwybr i fod yn ysgolion Cymraeg

Wrth ymateb i gyhoeddiad Cyngor Sir Gâr eu bod yn dechrau cyfnod o ymgynghori i newid darpariaeth Cyfnod Sylfaen ysgolion Y Ddwylan, Griffith Jones, Llangynnwr a Llys Hywel i fod yn Gymraeg a newid  Ysgol Rhys Pritchard o fod yn ddwy ffrwd i fod yn ysgol Gymraeg dywedodd Sioned Elin ar ran Cymdeithas yr Iaith yn Sir Gaerfyrddin:

"Rydyn ni'n llongyfarch y cyngor am ddechrau ymgynghoriad er mwyn gosod pump o ysgolion y sir ar lwybr tuag at addysg Gymraeg, a hyderwn y bydd cefnogaeth eang i hynny."

Cyfarfod Cell Rhydaman

21/05/2019 - 19:00

Cyfarfod Cell Rhydaman - 21ain o Fai am 7yh yng Nghlwb yr Aman, Glanaman 

Dewch i wneud gwahaniaeth i'r Iaith yn Rhydaman! 

cymdeithas 12_8.png

Cyfarfod Cell Penfro

23/05/2019 - 20:00

Cyfarfod Cell Penfro ar nos iau y 23ain o Fai yn y Pembroke Yeoman, Hwlffordd am 8yh

Dewch i gefnogi ac i frwydro dros y Gymraeg yn y Sir!j_0.jpg

Cyfarfod Cell Rhydaman

24/04/2019 - 19:00
Dewch i gyfarfod Cell Rhydaman am 7:00yh yng Nghlwb yr Aman, yng Nglanaman. 
 
Mi fyddwn ni'n trafod y materion pwysig sy'n effeithio ar y Gymraeg yn Rhydaman!

Cyfarfod Rhanbarth Sir Gâr a Phenfro

20/03/2019 - 19:00
Dewch yn llu i gyfarfod Rhanbarth Sir Gâr a Phenfro fydd yn cael ei gynnal yn Nhafarn y Cwins Caerfyrddin ar Ddydd Mercher yr 20fed o Fawrth am 7:00.
 
Mi fyddwn ni'n trafod sut y byddwn ni'n datblygu ymgyrch hamdden Dyfed, ac yn edrych ar bethau fel y cynllun datblygu lleol!

cymdeithas 12_5.png

Cell Newydd i Rydaman a Llanelli

29/03/2019 - 19:00

Datblygiad cyffrous newydd yn Rhydaman a Llanelli!! Trafodaeth i sefydlu cell newydd yn y rhan yma o Sir Gâr. Dewch yn llu!

Lleoliad i'w gadarnhau. 

 

logo_0.png

Cymraeg - Iaith Hamdden Sir Gâr

Mae Cymdeithas yr Iaith wedi trefnu ar y cyd gyda Chlwb Rygbi Castell Newydd Emlyn lansiad ymgyrch newydd i wneud y Gymraeg yn brif iaith gweithgareddau hamdden yn Sir Gâr a Cheredigion.

Siaradwr Cymraeg i fod yn Brif Weithredwr newydd Cyngor Sir Gâr

Mae Cymdeithas yr Iaith wedi llongyfarch cynghorwyr Sir Gâr ar eu penderfyniad y dylai eu Prif Weithredwr nesaf fod yn ddwyieithog.   

Dywedodd Bethan Williams o Gymdeithas yr Iaith:  

"Rhaid Cynllunio'n Awr ar Gyfer y Gymraeg" medd Cymdeithas yr Iaith

Mae Cymdeithas yr Iaith wedi beirniadu Cyngor Sir Caerfyrddin am beidio cynnal asesiad o effaith eu strategaeth gynllunio am y blynyddoedd nesaf ar yr iaith ac ar gymunedau Cymraeg. Daw cyfnod ymgynghori ar y "Strategaeth a ffefrir" gan y Cyngor i ben Ddydd Gwener nesaf, yr 8ed o

Galw ar Gyngor Sir Gâr i ddilyn esiampl Ceredigion

Mae Cymdeithas yr Iaith yn Sir Gaerfyrddin wedi galw ar y Cyngor Sir i ddilyn esiampl Cyngor Ceredigion a mynnu fod y Prif Swyddog Gweithredol newydd yn gallu cyflawni ei waith yn Gymraeg yn ogystal â Saesneg.