Caerfyrddin Penfro

Cyfarfod Rhanbarth Sir Gâr - Penfro

10/01/2019 - 19:00
Queen's, Caerfyrddin
 
Dewch yn llu i gyfarfod Rhanbarth Cymdeithas yr Iaith Sir Gâr - Penfro!
Paratoi ymgyrch "Cymraeg - Iaith Hamdden Sir Gâr", fydd yn cael ei lansio'n fuan, fydd y brif drafodaeth.
 
Mwy o wybodaeth - dyfed@cymdeithas.cymru
 
 
 
 

Noson yng Nghwmni'r Welsh Whisperer

11/01/2019 - 19:30

Clwb Rygbi Llandeilo

7.30, Nos Wener, 11 Ionawr

Cyfarfod Cell Penfro

17/01/2019 - 19:00

Cyfarfod Cell Penfro yn digwydd ar y 17eg o Ionawr am 7 yn y Pembroke Yeoman, Hwlffordd! 

Dewch i ni gael adeiladu ar y drafodaeth wych cawsom ni tro diwethaf! Rhowch wybod i bawb sydd hefo diddordeb!

cymdeithas 12_1.png

Cyfarfod Cell Penfro

04/12/2018 - 19:00

Mi fydd Cyfarfod Cell Cymdeithas yr Iaith Penfro'n cael ei gynnal yn Nhafarn y Pembroke Yeoman, Hwlffordd. Mi fyddwn yn trafod sut fedrwn ddatblygu'r Iaith ym Mhenfro, a'n paratoi am ymgyrchoedd gwahanol ! Dewch yn llu i ni gael trafod a gwneud lles i'r Gymraeg ym Mhenfro!

 

cymdeithas 12_0.png

Gweinidog sy'n gyfrifol am S4C heb ei gwylio - angen datganoli darlledu i Gymru

Heddiw, wrth agor pencadlys newydd S4C yng Nghaerfyrddin cyhoeddodd Jeremy Wright, Ysgrifennydd Gwladol San Steffan dros Ddigidol, Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon nad oedd erioed wedi gwylio'r sianel.

Cymdeithas yr Iaith yn Trefnu Priodas yn Sir Gâr

Wrth agor fforwm cyhoeddus "Gwaith i gynnal yr Iaith" heddiw, ddydd
Sadwrn 15/9, yn Llyfrgell Caerfyrddin, croesawodd Ffred Ffransis ar ran
Cymdeithas yr iaith yn Sir Gâr bawb at "dderbyniad priodas". Esboniodd wrth gynrychiolwyr cynghorau cymuned a mudiadau addysgol
a gwirfoddol -

"Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, bu dwy drafodaeth gyfangwbl ar wahân
yn Sir Gâr. Bu llawer o drafod ar ddatblygu economaidd i greu swyddi, a

Cyfarfod Blynyddol Rhanbarth Caerfyrddin - Penfro

10/09/2018 - 19:00
Mi fydd Cyfarfod blynyddol Rhanbarth Caerfyrddin - Penfro yn cael ei gynnal yng Ngwesty'r Cwins, Caerfyrddin ar ddydd llun y 10fed am 19:00 o'r gloch.
 

Gwaith i gynnal yr Iaith

15/09/2018 - 10:00

Cyfarfod Cyhoeddus dydd sadwrn y 15fed o Fedi am 10 y bore i drafod "Gwaith i gynnal yr Iaith" yn Llyfrgell Caerfyrddin. Mi fydd gwahanol grwpiau yn trafod prif faterion ein cymunedau gwledig. 

Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â dyfed@cymdeithas.cymru neu 01559 384378

*Gohiriwyd* Fforwm Gwaith i Gynnal yr Iaith

19/05/2018 - 10:00

Yn anffodus bu raid gohirio fforwm agored Tynged yr Iaith Sir Gâr: Gwaith i Gynnal yr Iaith am y tro. Byddwn yn ail-drefnu ar gyfer dechrau'r Hydref.