Ceredigion

Dirwyon i ymgyrchwyr iaith - “Llygedyn o obaith” yng ngeiriau’r Prif Weinidog

Mae protestio Cymdeithas yr Iaith dros newidiadau polisi yn sgil canlyniadau’r Cyfrifiad wedi dwyn ffrwyth, dyna oedd neges Cadeirydd y mudiad wrth iddo gael ei ddirwyo gan Lys Ynadon Aberystwyth heddiw (10yb, Dydd Gwener, Awst 1af).

Achos Llys Bethan a Robin

01/08/2014 - 10:00

Dewch i gefnogi Bethan Williams a Robin Farrar a'r ymgyrch dros chwe newid polisi i gryfhau'r Gymraeg wrth i'r ddau fynd gerbron y llys yn dilyn eu protest yn erbyn diffyg gweithredu Llywodraeth Cymru yn sgil canlyniadau argyfyngus y Cyfrifiad.

10yb, Dydd Gwener, Awst 1af

Llys Ynadon Aberystwyth - Y Lanfa, Trefechan, SY23 1AS

#6pheth 

cymdeithas.org/6pheth

 

"ENOUGH IS ENOUGH" - Cymdeithas tell Council

Cymdeithas yr Iaith has sent a message to every councillor in Ceredigion ahead of a key Council meeting next Wednesday (18/6) which will decide the fate of a number of Welsh-medium village schools in the county.

"DIGON YW DIGON" - Neges Cymdeithas yr Iaith i Gyngor Ceredigion

Achos Llys Robin a Bethan - Dewch i'w cefnogi

11/06/2014 - 09:00

9yb, Dydd Mercher, Mehefin 11, Llys Ynadon Aberystwyth - Y Lanfa, Trefechan, SY23 1AS

Dewch i gefnogi Robin a Bethan a'r ymgyrch dros chwe newid polisi i gryfhau'r Gymraeg wrth i'r ddau fynd gerbon y llys yn dilyn eu protest yn erbyn diffyg gweithredu Llywodraeth Cymru yn sgil canlyniadau argyfyngus y Cyfrifiad. 

Noder mai achos pledio fydd hwn, yn hytrach nag achos llys llawn.

#6pheth 

cymdeithas.org/6pheth

 

Paentio swyddfa oherwydd difaterwch Carwyn Jones

Mae tri ymgyrchydd wedi chwistrellu paent ar swyddfeydd Llywodraeth Cymru yn Aberystwyth y bore yma gan ddweud bod diffyg gweithredu’r Prif Weinidog mewn ymateb i ganlyniadau’r Cyfrifiad wedi eu hysgogi i weithredu.

Diolch i fyfyrwyr Pantycelyn

Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi ymateb i’r newyddion bod Neuadd Pantycelyn yn cael ei chadw ar agor.

Dywedodd Ffred Ffransis, llefarydd addysg Cymdeithas yr Iaith Gymraeg:

"Mae Cymdeithas yr Iaith yn diolch i fyfyrwyr Pantycelyn am ennill buddugoliaeth a fydd yn rhoi hwb i bawb sy'n brwydro dros ddyfodol eu cymunedau Cymraeg. Dyfodol yr iaith yw dyfodol ein cymunedau - yn eu holl amrywiaeth."

Mwy o wybodaeth:

Cau swyddfa'r Llywodraeth yn Aberystwyth

"Llond bol” gyda diffyg gweithredu, medd ymgyrchwyr

Fe wnaeth dwsin o ymgyrchwyr iaith gadwyno eu hunain i gatiau swyddfeydd Llywodraeth Cymru yn Aberystwyth y bore yma gan ddweud eu bod wedi ‘cael llond bol’ gyda diffyg ymateb Carwyn Jones i ganlyniadau argyfyngus y Cyfrifiad.

Mae'r weithred yn rhan o gyfres bydd ymgyrchwyr iaith yn eu trefnu dros y gwanwyn, er mwyn pwyso ar Lywodraeth Cymru i fynd i'r afael â'r argyfwng sy'n wynebu'r Gymraeg trwy weithredu chwe phwynt polisi.

Gig Swnami, Tymbal, Y Banditos, Nofa

21/03/2014 - 20:00

Sŵnami
Tymbal
Y Banditos
Nofa

8pm, Nos Wener, Mawrth 21ain
Clwb Rygbi, Aberystwyth

£7 neu £6 i fyfyrwyr ysgol/prifysgol.

Mwy o wybodaeth: https://www.facebook.com/events/1429722127267515 neu bethan@cymdeithas.org

Anufudd-dod dinesig: “sbardun i’r Llywodraeth weithredu”

Bu ymgyrchwyr yn nodi dechrau cyfnod o brotestio dros y Gymraeg er mwyn pwyso ar Lywodraeth Cymru i newid ei bolisïau er mwyn sicrhau twf yn y Gymraeg yn Aberystwyth heddiw.

Bydd ymgyrchwyr yn dadorchuddio baneri ar bontydd ar hyd a lled Cymru dros y penwythnos - o Bont Menai i Bont Hafren - gan gychwyn ar Bont Trefechan yn Aberystwyth. Daw’r gyfres o ymgyrchoedd symbolaidd yma mewn adwaith i’r argyfwng sy’n wynebu’r Gymraeg a amlygwyd gan ganlyniadau’r Cyfrifiad dros flwyddyn yn ôl.