Clwyd

Sir Ddinbych yn cytuno i Gomisiynydd y Gymraeg adolygu eu Cynllun Datblygu Lleol

Mewn cyfarfod â Chymdeithas yr Iaith prynhawn 4ydd o Fehefin, cytunodd Arweinydd Cyngor Sir Ddinbych i wahodd Comisiynydd y Gymraeg i asesu effaith eu Cynllun Datblygu Lleol ar y Gymraeg.

Mae’r Gymdeithas yn galw arnynt i oedi eu Cynllun Datblygu Lleol tan y bydd TAN20 sy’n mesur effaith cynllunio ar y Gymraeg wedi ei gyhoeddi, hefyd i gyhoeddi adroddiad pwnc ar y Gymraeg ac i greu targedau i gynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg yn y sir fesul cymuned.

Steddfod Dinbych 2013

03/08/2013 - 20:00

Gigs Eisteddfod Dinbych 2013

Map o ardal yr Eisteddfod

Noson Gomedi a Gŵyl Ffilmiau yn rhan o arlwy adloniant Steddfod Dinbych 2013

Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi cyhoeddi manylion ynglŷn â’u harlwy adloniant yn ystod wythnos yr Eisteddfod Genedlaethol yn Ninbych eleni.

Mae’r Gymdeithas wedi bod yn rhoi llwyfan i gerddoriaeth Gymraeg yn ardal yr Eisteddfod ers degawdau, a bydd hynny’n parhau eleni eto ond wedi ei gyfuno ag amrywiaeth o ddigwyddiadau amgen yn ogystal. Dywedodd Gwion Schiavone ar ran y Pwyllgor sydd yn trefnu'r digwyddiadau.

Gweithredu yn erbyn Cyngor Sir Ddinbych achos ‘tai diangen’

Mae aelodau o Gymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi peintio sloganau ar swyddfeydd Cyngor Sir Dinbych oherwydd cynlluniau i ganiatáu adeiladu miloedd o dai diangen yn y sir.

Cyfarfod Cell Wrecsam

10/12/2012 - 19:00

Tafarn y Saith Seren Wrecsam.

gwybodaeth - gogledd@cymdeithas.org

01286 662908

Cyfarfod Rhanbarth Clwyd

19/11/2012 - 19:00

Y Saith Seren, Wrecsam

Cyfle i ni ddod at ein gilydd i drafod gwaith y Gymdeithas yn y rhanbarth yn ystod y misoedd nesaf.

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch ag Osian - gogledd@cymdeithas.org

Cyfarfod Rhanbarth Clwyd, Dinbych

19/08/2012 - 19:30

Cyfarfod o aelodau rhanbarth Clwyd

Tafarn y Dref (Y Guildhall), Dinbych

7:30yh, Nos Sul Awst 19

Fe fydd trafodaeth am gigs, cynigion i'r Cyfarfod Cyffredinol ac ethol swyddogion y rhanbarth.

Rhanbarth Glyndŵr

Cadeirydd: i'w benodi

Gelli di helpu?

Mae'r Rhanbarth yn chwilio am aelodau newydd a phobl i fod yn weithgar er mwyn sicrhau bod yr iaith yn ffynnu yn yr ardal..

Cysylltwch os gallwch chi helpu mewn unrhyw ffordd: post@cymdeithas.cymru

Digwyddiadau Glyndŵr