Clwyd

Tarfu ar agoriad siop Iceland yn y Rhyl o achos diffyg Cymraeg

Mae grŵp o ymgyrchwyr wedi tarfu ar agoriad swyddogol siop newydd Iceland yn y Rhyl heddiw (dydd Mawrth, 31ain Gorffennaf) gan gwyno am y diffyg darpariaeth Gymraeg.  

Ar fore agoriad swyddogol y siop newydd, mae pymtheg o aelodau Cymdeithas yr Iaith ynghyd â'r Cynghorydd lleol Arwel Roberts wedi gwrthdystio tu allan a thu fewn i'r siop gan gwyno i reolwyr am y diffyg arwyddion Cymraeg. 

Parti Croesawu Iceland Cymreig yn y Rhyl

31/07/2018 - 08:00

Pryd?

8yb wrth i'r Siop Newydd agor ar ddydd Mawrth y 31ain o Orffennaf

Lle?

Parc Manwerthu Clwyd (Clwyd Retail Park) Rhuddlan, Rhyl LL18 2TJ

Ond pam parti?

Mae'n rhaid eich bod chi wedi bod mewn parti rywbryd pryd y mae'r teulu wedi anghofio dod ag anrhegion i wahoddedigion.

Wel, dyna sy gyda ni heddiw - mae Iceland wedi eich gwahodd chi i gyd draw, ond wedi anghofio dod ag arwyddion Cymraeg i ni i ddangos parch at Gymru!

Cyfarfod Cell Wrecsam

03/09/2018 - 19:00

Bydd Cell Wrecsam yn cyfarfod am 7yh yn Saith Seren, Wrecsam, LL13 8BG, ar nos lun y 3ydd o Fedi. Croeso i bawb!

Cyfarfod Rhanbarth Glyndŵr

13/09/2018 - 19:00

Bydd cyfarfod nesaf Rhanbarth Glyndŵr ar nos iau, mis Medi yr 13fed am 7yh yng Nghapel Bethesda, Stryd Newydd, Yr Wyddgrug, CH7 1UL  33.

Mae'r mynediad yr un ochr a'r Co-Op - mae'r drws yn y maes parcio bach tu allan i'r Capel.

Croeso i bawb! 

Cludiant Ysgol Sir y Fflint – croesawu penderfyniad

Mae Cymdeithas yr Iaith wedi croesawu penderfyniad cabinet Cyngor Sir Fflint i beidio â bwrw ymlaen gydag ymgynghoriad i ddileu’r ddarpariaeth gludiant am ddim i ysgolion cyfrwng Cymraeg.   

Cyfarfod Rhanbarth Glyndwr

05/07/2018 - 19:00

Croeso i bawb!

Byddwn yn trafod ymgyrchoedd yn ardal y Wyddgrug yn ogystal a'r rhanbarth yn ehangach am 7 yn Tafarndy'r Wyddgrug (Mold Alehouse), Yr Wyddgrug, CH7 1AL

Cyfarfod Cell Wrecsam

02/07/2018 - 19:00

Croseo i bawb i gyfarfod Cell Wrecsam am 7yh yn Saith Seren (LL13 8BG), Wrecsam.

Cyfarfod Cell Wrecsam

21/12/2017 - 19:00

Oherwydd gŵyl y banc a hanner tymor ar y bedwerydd dydd Llun, mi fydd cyfarfod nesaf Cell Wrecsam am 19:00 dydd Llun 21ain o Fai yng Nghanolfan Gymraeg Wrecsam, Saith Seren.

31ain o Fai yw dyddiad cau ymateb i ymgynghoriad Cyngor Wrecsam ar eu cynllun datblygu lleol. Rydym yn bwriadu cael drafft o'n hymateb at ei gilydd i'w drafod ar 21ain o Fai, felly mi fydd yn gyfarfod pwysig.

Addysg Gymraeg i Bawb – pam amddifadu 80% o blant o'n hiaith?

24/03/2018 - 12:30

Lleoliad: Pafiliwn Llangollen,
Llangollen LL20 8SW

Amser: 12:30pm, dydd Sadwrn, 24ain Mawrth 2018

Llŷr Gruffydd AC (Ysgrifennydd Cabinet yr Wrthblaid dros Addysg), Elaine Edwards (Ysgrifennydd Cyffredinol, UCAC), Mirain Roberts (Cymdeithas yr Iaith) a'r Cynghorydd Mair Rowlands (Dirprwy Arweinydd, Cyngor Gwynedd)  

Cyfarfod Cell Wrecsam

22/01/2018 - 19:00

Croeso i bawb - byddwn yn Saith Seren am 7yh ar ns Lun y 22ain o Ionawr i drafod trefnu penwythnos dysgwyr yn yr ardal, ein ymgyrchoedd lleol a llawer mwy!