Gwynedd Mon

Beth Winter AS a Mabon ap Gwynfor AoS i ymuno â’r alwad am “Ddeddf Eiddo - Dim Llai” mewn rali ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Gweithwyr

Bydd Beth Winter, Aelod Seneddol Llafur dros Gwm Cynon, a Mabon ap Gwynfor, Aelod Plaid Cymru o’r Senedd dros Ddwyfor Meirionnydd, ymysg siaradwyr rali Nid yw Cymru ar Werth ym Mlaenau Ffestiniog ar 4 Mai.

Bydd y rali, sy’n cymryd lle ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Gweithwyr, yn pwysleisio’r angen am Ddeddf Eiddo i sicrhau bod tai yn cael eu trin yn bennaf fel angen cymunedol, nid asedau masnachol, fel bod pobl yn gallu parhau i fyw a gweithio yn eu cymunedau.

Cyfarfod Rhanbarth Gwynedd-Môn

28/02/2024 - 19:00

7.00, nos Fercher, 28 Chwefror 28

Llety Arall, Caernarfon ac arlein

Dewch i gyfarfod Rhanbarth Gwynedd-Môn i drafod Rali Nid yw Cymru ar Werth, Blaenau Ffestiniog ar 4 Mai ynghyd â chyfraniad y rhanbarth i'r ymgyrch dros Ddeddf Eiddo.

Gallwch fynychu mewn person neu ar-lein. Croeso cynnes i bawb.

Cysylltwch am ddolen i ymuno.

Cymdeithas yr Iaith am i drigolion Sir Fôn holi eu Cyngor am ei ymrwymiad i ysgolion a chymunedau gwledig yr ynys

Mae Cymdeithas yr Iaith yn annog trigolion lleol i ymweld ag uned Cyngor Sir Môn yn Sioe Môn (Dydd Mawrth, 15 Awst a Dydd Mercher, 16 Awst) i'w holi a ydy'r Cyngor unwaith eto am geisio cau ysgolion gwledig yr ynys. Mae dogfen fewnol gan y Cyngor Sir wedi dod i feddiant y Gymdeithas sydd, fe ymddengys, yn argymell cau 14 o ysgolion cynradd cyn diwedd y ddegawd, a chreu tair ysgol newydd i ganoli addysg.

Esboniodd Robat Idris, Cadeirydd Cenedlaethol y Gymdeithas:

Cyfarfod Rhanbarth Gwynedd-Môn

31/01/2024 - 19:00

Dewch i fod yn rhan o ymgyrchoedd dros y Gymraeg a'n cymunedau yng Ngwynedd a Môn!

Bydd rhanbarth Gwynedd-Môn yn cyfarfod nesaf am 7.00, nos Fercher, 31 Ionawr yn y Lle Arall, Caernarfon (gyferbyn â Palas Print). Bydd hwn yn gyfarfod hybrid felly fydd modd i chi ymuno ar-lein hefyd.

Mae pethau'n dechrau prysuro unwaith eto yn y rhanbarth felly dewch draw i glywed beth yw beth. Bydd cyfle hefyd i godi unrhyw faterion sy'n eich poeni chi.

Cyngor Môn yn parhau i ragdybio o blaid cau ysgolion pentre

Mae Cyngor Ynys Môn yn parhau i geisio rhagdybio o blaid cau ysgolion pentre - mae Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol y cyngor wedi cymeradwyo Adroddiad Ymgynghori ar y "Strategaeth Moderneiddio Cymunedau Dysgu a Datblygu’r Gymraeg".

Er bod y Cod Trefniadaeth Ysgolion yn gosod rhagdyb o blaid cadw ysgolion gwledig ar agor ac er gwaetha ymatebion yn pwysleisio'r angen i ystyried camau heblaw cau ysgolion gwledig, prin bod yr adroddiad yn cynnig unrhyw newidiadau i'r Strategaeth, sy'n dyfodol bygwth ysgolion.

Ynys Môn i drafod rhagdyb o blaid cau ysgolion pentre

Mae Adran Addysg Cyngor Ynys Môn yn ceisio rhagdybio o blaid cau ysgolion pentre wrth i Bwyllgor Sgriwtini Corfforaethol y cyngor drafod Adroddiad Ymgynghori ar y "Strategaeth Moderneiddio Cymunedau Dysgu a Datblygu’r Gymraeg".

Er bod y Côd Trefniadaeth Ysgolion yn gosod rhagdyb o blaid cadw ysgolion gwledig ar agor ac er gwaetha ymatebion yn pwysleisio'r angen i ystyried camau heblaw cynnal ysgolion gwledig prin bod newidiadau i'r Strategaeth.

Cyfarfod agored Nid yw Cymru ar Werth Caernarfon - Sut gallwn ni roi pwysau ar Lywodraeth Cymru am Ddeddf Eiddo

06/07/2023 - 19:00

Sut gallwn ni roi pwysau ar Lywodraeth Cymru am Ddeddf Eiddo?

nos Iau Gorffennaf 6 am 7pm
Lle Arall, Caernarfon (gyferbyn â Palas Print)

Sgwrs gyda
Walis George, Cymdeithas yr Iaith
Craig ab Iago, Cyngor Gwynedd

Ymgyrchwyr gwrth niwclear yn rhybuddio bod cynllun Porthladd Rhydd Ynys Môn yn cynrychioli cwmnïau niwclear

Mae ymgyrchwyr gwrth niwclear yn rhybuddio bod cyhoeddiad am Borthladd Rhydd newydd ar Ynys Môn yr wythnos hon yn ffordd i mewn ar gyfer datblygiadau niwclear newydd diangen ar yr ynys, gydag o leiaf chwech o gefnogwyr y cais â chysylltiadau uniongyrchol â'r diwydiant.

Cyhuddo Cyngor Môn o weithredu’n groes i’w Polisi Iaith

Mae Cymdeithas yr Iaith yn pryderu bod Cyngor Môn yn gweithredu’n groes i’r amcan o wneud y Gymraeg yn brif iaith weinyddol y Cyngor.

Neges Dydd Gŵyl Dewi i Gyngor Gwynedd – galw am arweiniad cadarn ar Addysg cyfrwng Cymraeg

Mewn datganiad ar y cyd ar drothwy Dydd Gŵyl Dewi mae Cymdeithas yr Iaith, Dyfodol i’r Iaith a Chylch yr Iaith wedi mynegi pryder ynglŷn â bwriadau Adran Addysg Gwynedd mewn perthynas ag addysg cyfrwng Cymraeg.