Gwynedd Mon

Gigs ‘Steddfod Môn - Bryn Fôn, Geraint Jarman, Kizzy a Tudur Owen

 

Bydd Bryn Fôn, Kizzy Crawford, Geraint Jarman a Tudur Owen ymysg y prif berfformwyr yn ystod wythnos o gigs amgen sy’n cael eu trefnu gan garedigion yr iaith ar Fferm Penrhos, Bodedern yn ystod yr Eisteddfod Genedlaethol Ynys Môn.

[Cliciwch yma i brynu tocynnau]

Noson Gwis Cymru Rydd

10/08/2017 - 19:30

Noson i Ddathlu Amrywiaeth

7:30, Nos Iau 10fed Awst 2017

Fferm Penrhos, Bodedern LL65 3TA

Nid oes cerddoriaeth fyw ‘na bar ar y Nos Iau am resymau trwydded, ond mae croeso i bobl ddod â’u diodydd eu hunain i’r cwis. Croeso i bawb - tâl yn ôl tîm.

Gallech brynu tocyn gostyngol ar gyfer holl adloniant y Gymdeithas yn yr wythnos a llefydd ar ein maes gwersylla yma

Taith Codi Arian Caernarfon

11/03/2017 - 10:00
Taith tywys chwedlonol 'Tyd am Dro Co' Emrys Llywelyn o amgylch Caernarfon i godi arian i Gymdeithas yr Iaith.
 
10:00 - 11:00
SADWRN 11.03.17 
Man cychwyn: Cerflun Lloyd George, Y Maes CAERNARFON
£7.50 y pen 
(£2.50 yn mynd i'r Gymdeithas)
 
Ebostiwch gogledd@cymdeithas.cymru am fwy o wybodaeth

Sianel Pedwar Pwy? Datganolwn Ddarlledu - Trafodaeth Caernarfon

02/02/2017 - 19:00

7pm, nos Iau, 2il Chwefror 2017

Y Galeri, Caernarfon

Sianel Pedwar Pwy? Datganolwn Ddarlledu - Lansiad Bangor

21/01/2017 - 14:00

2yp, dydd Sadwrn, 21ain Ionawr 2017   

Lawnsiad Cell y Cofis: Gig + Cwis gyda Dyl Mei

09/11/2016 - 19:00

Clwb Canol Dre, Caernarfon

Croeso i bawb i noson lawnsio Cell y Cofis!

Bydd drysau clwb canol dre yn agor am 19:00 a'r tocynnau yn £5 ar y drws.

Cwis i gychwyn tua 19:30.

Bydd adloniant gan fandiau Alffa a Diablo wedi cwis dan arweiniaeth Dyl Mei.

Dewch yn llu! Croeso i bawb!

Cyfarfod Blynyddol Rhanbarth Gwynedd a Mon

16/06/2016 - 18:00

Ystafell Gyfarfod uwchben Palas Print, Caernarfon

Darperir luniaeth ysgafn

6yh-8:30yh

Agenda:

Ymddiheuriadau

Cwrs Dysgu Cymraeg Amgen - Bethesda

09/09/2016 - 19:00

Cwrs Dysgu Cymraeg Amgen

9fed Medi - 11fed Medi 2016

Caban Cysgu, Bethesda, Gwynedd

£50 y pen

Ar gyfer dysgwyr lefel ganolradd neu'n uwch

Am ragor o fanylion, ffoniwch Bethan Ruth ar 01286 662908 neu ebostiwch hi ar gogledd@cymdeithas.cymru

[Prynwch docyn yma]