Gwynedd Mon

Cyhuddo Cyngor Gwynedd o fod yn "rhagweladwy" wrth gynnig cau Ysgol Gynradd Abersoch

Mae Cymdeithas yr Iaith wedi cyhuddo Cyngor Gwynedd o fod yn "ddi-fflach" ac yn "rhagweladwy" yn eu cynnig a fydd gerbron y Cabinet wythnos i heddiw (Dydd Mawrth 15/6) i gau Ysgol Gynradd Abersoch yn dilyn ymgynghoriad yn Ionawr a Chwefror eleni. Os caiff y cynnig ei basio, bydd cyfle i wrthwynebu'n ffurfiol Hysbysiad Statudol i gau'r ysgol ond, os bydd y Cyngor unwaith eto'n peidio â newid ei feddwl, gallai'r ysgol gau ar ddiwedd 2021, gan drosgwlyddo'r plant i Ysgol Sarn Bach.

Cyfarfod Rhanbarth Gwynedd-Môn

20/03/2024 - 19:00

Bydd cyfarfod nesaf Rhanbarth Gwynedd-Môn yn un hybrid – dewch i'r Lle Arall, Caernarfon (gyferbyn â Palas Print) os am gyfarfod wyneb-yn-wyneb ond mae croeso mawr i chi ymuno arlein hefyd.

Bydd ymgyrchoedd lleol yn cael eu trafod, gan gynnwys ymgyrch Nid yw Cymru ar Werth.

Am ragor o wybodaeth neu ddolen i ymuno cysylltwch â bethan@cymdeithas.cymru.

Cyfarfod Rhanbarth Gwynedd a Môn

15/02/2021 - 19:00

Cynhelir cyfarfod nesaf rhanbarth Gwynedd a Môn ar nos Lun 15fed Chwefror dros Zoom am 7:00yh.

Os hoffech ymuno, anofnwch ebost ar gogledd@cymdeithas.cymru

Croeso i bawb!

Is-ganghellor Prifysgol Bangor yn osgoi sgriwtini ar Ganolfan Bedwyr

Mae ymgyrchwyr iaith wedi beirniadu’n hallt benderfyniad is-ganghellor Prifysgol Bangor i “osgoi sgriwtini” ar fater dyfodol Canolfan Bedwyr drwy ganslo cyfarfodydd gyda Chymdeithas yr Iaith deirgwaith yn olynol. 

 

Cyfarfod Rhanbarth Gwynedd a Mon

18/01/2021 - 19:30

Cynhelir cyfarfod cynta'r flwyddyn Rhanbarth Gwynedd a Môn ar nos Lun 18fed Ionawr am 7:30 dros Zoom. Bydd digon i'w drafod megis ymgyrch 'Nid yw Cymru ar Werth' a camau nesa'r rhanbarth heb swyddog maes. 

Os hoffech ddolen, anfonwch ebost i gogledd@cymdeithas.cymru

Croeso i unrhyw un!

Gorymdeithio o Nefyn i Gaernarfon

Bu cynghorwyr Tref Nefyn yn gorymdeithio o Nefyn i Gaernarfon ddydd Sadwrn 26ain o Fedi i godi sylw am yr argyfwng dai. Roedden nhw'n cychwyn o Nefyn ac yn cerdded yr holl ffordd i Gaernarfon, gyda rhai yn ymuno ar hyd y ffordd, ar y cyd â'r ymgyrch 'Nid yw Cymru ar Werth'.

Cyfarfod Rhanbarth Gwynedd a Môn

12/10/2020 - 19:00

Cynhelir cyfarfod nesaf Rhanbarth Gwynedd a Môn ar nos Lun 12fed o Hydref dros Zoom am 7yh.

Os am ddolen i'r cyfarfod, cysylltwch â gogledd@cymdeithas.cymru

Dyma fydd cyfarfod ola'r rhanbarth cyn Cyfarfod Cyffredinol y Gymdeithas ym mis Tachwedd.

Croeso i bawb!

Cyfarfod Blynyddol Rhanbarth Gwynedd a Môn

24/08/2020 - 19:00

Cynhelir Cyfarfod Blynyddol Rhanbarth Gwynedd a Môn dros Zoom ar nos Lun, 24ain o Awst 7.00.

Cyfarfod Rhanbarth Gwynedd-Môn

13/07/2020 - 19:00
Bydd Rhanbarth Gwynedd-Môn yn cyfarfod dros Skype am 7.00, nos Lun, 13 Gorffennaf.
 
Croeso i unrhyw aelod yn y rhanbarth i ymuno – dewch i glywed beth sy'n digwydd yn yr ardal ac i drafod sut gall y Gymdeithas weithredu.
 
Rhowch wybod hefyd os oes unrhyw faterion penodol yr hoffech eu trafod.
 

Sgwrs Skype Gwynedd Môn

20/04/2020 - 18:00

Mi fydd Rhanbarth Gwynedd a Môn yn cynnal sgwrs anffurfiol trwy gyfrwng cyfrif Skype 'cymdeithasyriaith' am 6pm nos Lun 20fed o Ebrill. 

Mi fyddwn i dal i drafod materion yr ardal ond ar ffurf fwy anffurfiol ac yn cael sgwrs cyffredinol anffurfiol hefyd.