Morgannwg Gwent

Stondin Stryd Datganoli Darlledu - Caerdydd

22/02/2020 - 11:00

Cynhelir stondin stryd fel rhan o'r ymgyrch dros bwerau darlledu i Gymru am:

11yb, dydd Sadwrn, 22ain Chwefror

Tu allan i'r Co-op ar Stryd Pontcanna. Caerdydd, CF11 9HS

https://www.google.com/maps/dir//51.4886862,-3.2002622/@51.4885075,-3.2013807,18z/data=!4m2!4m1!3e1?hl=en

Am fwy o wybodaeth: de@cymdeithas.cymru / 02920 486469

Cyfarfod Rhanbarth Morgannwg-Gwent - ethol Cadeirydd

20/02/2020 - 19:00

Cynhelir cyfarfod nesaf Rhanbarth Morgannwg Gwent ar

Nos Iau 20fed Chwefror

19:00

Tŷ'r Cymry, 11 Heol Gordon, Y Rhath, Caerdydd

Mi fyddwn ni'n ethol Cadeirydd newydd i'r rhanbarth yn y cyfarfod.

Mae croeso cynnes i bawb yn ein cyfarfodydd.

Am fwy o wybodaeth, peidiwch ag oedi i gysylltu â ni ar: 02920486469 neu de@cymdeithas.cymru

Cyfarfod Cell Caerdydd

03/03/2020 - 19:00

Cynhelir cyfarfod nesaf Cell Caerdydd ar:

Nos Fawrth, 3ydd Mawrth 2020

19:00

Tafarn Y Cornwall, Stryd y Cornwall, Trelluest (Grangetown), Caerdydd

Mae croeso cynnes i bawb yn ein cyfarfodydd.

Am fwy o wybodaeth, peidiwch ag oedi i gysylltu ar: 02920486469 / de@cymdeithas.cymru

Heclo wrth i Gabinet Cyngor Caerdydd fwrw ymlaen gyda ffrwd Saesneg ym Mhlasdŵr

Mae ymgyrchwyr wedi torri ar draws cyfarfod cabinet Cyngor Caerdydd wrth iddynt benderfynu bwrw ymlaen gyda agor ffrwd Saesneg ar safle Plasdŵr heddiw.

Piced: Ysgolion Cymraeg i Blasdŵr

23/01/2020 - 13:00

Piced: Ysgolion Cymraeg i Blasdŵr

Dewch i bicedi'r cynghorwyr cyn cyfarfod y cabinet i benderfynu ar gyfrwng iaith yr ysgol gyntaf ym Mhlasdŵr yn y brifddinas:

Dim ond 8% sy’n cefnogi ysgol ddwyieithog ym Mhlasdŵr, Caerdydd

Dim ond 15 ymateb gefnogodd cynnig Cyngor Caerdydd i agor ysgol ddwyieithog ym Mhlasdŵr o gymharu â channoedd a alwodd am ysgol cyfrwng Cymraeg, yn ôl adroddiad swyddogion i gynghorwyr. 

Ym mis Medi 2018, dywedodd Arweinydd y Cyngor Huw Thomas “i fod yn glir - bydd ysgolion cyfrwng Cymraeg yn rhan ganolog o ddatblygiad Plasdŵr.” Fodd bynnag, penderfynodd cabinet Cyngor Caerdydd i ymgynghori ar gynnig i sefydlu ysgol gynradd ddwyieithog newydd gyda hanner y disgyblion mewn ffrwd Saesneg.

Cyfarfod Cell Caerdydd

04/02/2020 - 19:00

Cynhelir cyfarfod nesaf Cell Caerdydd ar:

Nos Fawrth, 4ydd Chwefror 2020

19:00

Tafarn Y Cornwall, Stryd y Cornwall, Trelluest (Grangetown), Caerdydd

Mae croeso cynnes i bawb yn ein cyfarfodydd.

Am fwy o wybodaeth, peidiwch ag oedi i gysylltu ar: 02920486469 / de@cymdeithas.cymru

Cwis Nadolig Cell Caerdydd

04/12/2019 - 20:00

cwis nadolig cell caerdydd.jpg

Cell Caerdydd yn cyflwyno Cwis Nadolig y Cornwall unwaith eto leni!

Y cwisfeistr pennigamp, Gwilym Dwyfor, fydd yn dychwelyd ato ni eto'r Nadolig yma.

Nos Fercher, 4 Rhagfyr
20:00
Tafarn y Cornwall, Grangetown

(Bydd raffl ganddon ni unwaith eto - cofiwch eich punnoedd!)

Rali dros enw uniaith Gymraeg i’r Senedd

Cynhaliodd ymgyrchwyr  rali ym Mae Caerdydd dros y penwythnos o blaid enw uniaith Gymraeg i’r Senedd, cyn pleidlais ar y mater yr wythnos nesaf.