Mae swyddfa Gweinidog ym Mlaenau Gwent wedi cael ei gau gan ymgyrchwyr iaith heddiw sy'n protestio yn erbyn cynlluniau i ddiddymu Comisiynydd y Gymraeg.
Gallai diffyg ymroddiad cynghorau i ehangu addysg Gymraeg danseilio ymdrechion cenedlaethol i gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn canol y ganrif, dyna oedd rhybudd ymgyrchwyr mewn rali yng Nghaerdydd heddiw.
Cynhelir cyfarfod Cell Blaenau Gwent a Chaerffili am 7yh ar 12 Hydref yn Nhafarn Y Sirhowy, Y Coed Duon (NP12 1BA).
Nid oes cyfarfod wedi bod yn yr ardal ers sbel. Felly, bydd yn gyfle i aelodau'r ardal ddod at ei gilydd i drafod materion yr ardal ac i rannu syniadau.
Cynhelir cyfarfod cyntaf Cell Tawe ers sbel ar 11 Hydref am 7yh yn y Schooner Inn, Abertawe (SA1 1RR). Bydd y cyfarfod yn gyfle i aelodau yn yr ardal ddod at ei gilydd er mwyn trafod syniadau am ddyfodol y gymdeithas yn yr ardal. Croeso cynnes i bawb!