Morgannwg Gwent

Hawliau i'r Miliwn - Bancio yn Gymraeg

02/08/2016 - 14:00
2pm, Dydd Mawrth, 2 Awst
Uned y Gymdeithas
Meryl Davies (Llywydd, Merched y Wawr), Sian Howys (Cymdeithas) ac eraill

Cyfarfod Cell Caerdydd

06/07/2016 - 18:00

Croeso i bawb - dewch i ymunno a'r frwydyr dros y Gymraeg yng Nghaerdydd.

Byddwn yn cwrdd am 18:00 yn y Mochyn Du i drafod, cynllunio yng Nghaerdydd yn ogystal ag addysg a'r digwyddiadau gennym ni ar y gweill.

 

Amrywiaeth a’r iaith yng Nghaerdydd (sesiwn trafod yn Ffair Tafwyl)

02/07/2016 - 13:30

Mae Caerdydd wedi bod yn ddinas amlddiwylliannol erioed, a’r Gymraeg yn cydblethu â nifer o gymunedau, diwylliannau ac ieithoedd eraill.

Bydd ein trafodaeth yn ystyried y sefyllfa heddiw.

- Ym mha ffyrdd gall diwylliannau amrywiol Caerdydd gyfoethogi ei gilydd?

- Oes modd i’r frwydr dros yr iaith gydweithio â brwydrau cymunedau lleiafrifol eraill?

Cyfarfod Celloedd Dwyrain Gwent - Cwmbrân

13/06/2016 - 18:30

Cynhelir cyfarfod cell am 6:30pm, nos Lun 13eg Mehefin yng gwesty'r Parkway, Cwmbrân.

Byddwn ni'n trafod Friars' Walk a materion eraill

Gwesty'r Parkway, Cwmbran Drive, Cwmbrân, NP44 3UW:

Cyfarfod Rhanbarth Morgannwg-Gwent

23/06/2016 - 20:00

Cynhelir y cyfarfod am 8yh yn nhafarn y Queens yng Nghasnewydd ar nos Iau, 23ain o Fehefin i drafod materion y Rhanbarth.

Dewch i drafod be allwn ni wneud i gyfrannu at gadwraeth a ffyniant y Gymraeg yn Morgannwg-Gwent yng ngwyneb y toriadau yn ogystal ag effaith y safonau a chynllunio a mwy ar ein hawl i fyw yn Gymraeg yn ein cymunedau.

Dyma'r lleoliad:

19 Stryd y Bont, Casnewydd, Gwent NP20 4AN

Protest: datblygiad uniaith Saesneg Caerdydd

Bu aelodau Cymdeithas yr Iaith yn protestio heddiw yn Sgwâr Canolog Caerdydd er mwyn galw ar Gyngor Caerdydd i fabwysiadu polisïau cynllunio sy'n sicrhau tegwch i'r Gymraeg yn y brifddinas.

Mae datblygwyr y Sgwâr Canolog yn cael eu beirniadu am mai enw uniaith Saesneg sydd ar y datblygiad - ‘Central Square’ - ac fod holl arwyddion yr ardal yn uniaith Saesneg.

Derbyn disgyblion i Ysgol Bro Edern, Caerdydd – ymateb

Mae Cymdeithas yr Iaith wedi ymateb i'r sefyllfa ynghylch derbyn disgyblion i Ysgol Bro Edern yng Nghaerdydd.

Cyfarfod Pwyllgor Gigs 'Steddfod y Fenni

13/04/2016 - 19:30
Cyfarfod i drefnu gigs 'Steddfod Cymdeithas yr Iaith Gymraeg. Croeso i bawb!
 
Byddwn yn cwrdd am 7.30 ar nos Fercher y 13eg o Ebrill yn yr Hen & Chickens, Stryd Flannel, Y Fenni, NP7 5EG

Cyfarfod Cell Caerffili a Blaenau Gwent

18/04/2016 - 19:00

Byddwn yn cwrdd am 7yh yn nhafarn y Malcom Uphill, 87–91 Stryd Caerdydd, Caerffili, CF83 1FQ. Croeso i bawb!

 

Cyfarfod Cell Caerdydd

11/05/2016 - 06:00

Cyfarfod Cell Cymdeithas yr Iaith am 6yh, yr 11fed o Fai yn y Mochyn Du, Caerdydd. Byddwn yn trafod yr ymgyrch yn erbyn datblygiadau Seisnig yn y ddinas a llawer mwy!