Morgannwg Gwent

Cyfarfod Cell Abertawe

16/07/2015 - 19:00

Bydd y gell newydd (enw'r gell i'w gadarnhau) yn cwrdd am 19:00 ar nos iau y 16ed o Orffennaf yn Nhafarn y Queens, Abertawe. Croeso i bawb!

Cyfarfod Rhanbarth Morgannwg-Gwent

02/07/2015 - 20:30

Pryd? Nos iau yr 2il o Orffennaf am 20:30 yn dilyn cyfarfod "Y Gymraeg ym Maes Iechyd" gyda dysgwraig y flwyddyn Joella Price.

Ble? Y Windsor Arms, Ffordd Windsor, Penarth, CF64 1JE

Y Gymraeg ym Maes Iechyd - Anerchiad gan Joella Price ym Mhenarth

02/07/2015 - 19:00

Noson yng Nghwmni Joella Price, Dysgwr y Flwyddyn 2014 i drafod dysgu Cymraeg ac hefyd maes iechyd

Joella Price: www.bbc.co.uk/cymrufyw/28680313

Pryd? Nos iau yr 2il o Orffennaf am 19:00

Ble? Y Windsor Arms, Ffordd Windsor, Penarth, CF64 1JE

Yn dilyn y cyfarfod yma bydd cyfarfod Rhanbarth Morgannwg-Gwent am 20:30 - Croeso i bawb!

 

 

Cyfarfod Celloedd Dwyrain Gwent yng Nagasnewydd

15/06/2015 - 18:00

Bydd Celloedd Dwyrain Gwent yn cwrdd yn Nhafarn Wetharspoon Y Cwîns yng Nghasnewydd ar y 15fed o Fehefin. Croeso i bawb!

Cyfarfod Cell Caerdydd

01/07/2015 - 18:00

Yn y Mochyn Du ar y Mercher cyntaf o bob mis am 6yh fel yr arfer. Croeso i bawb!

Ple personol eisteddfodwyr i ddileu addysgu'r Gymraeg fel ail iaith

Cafodd tystiolaeth ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru gan ymgyrchwyr sydd am weld 'addysg Gymraeg i bawb' ar faes Eisteddfod yr Urdd, wedi i'r Prif Weinidog awgrymu bod newid ym mholisi ei weinyddiaeth ar y gorwel. 
 

Galwad Arbenigwyr am Addysg Gymraeg i Bawb

Cyfarfod Cell Penarth

21/05/2015 - 20:00

Bydd cyfarfod Cell Penarth yn y Windsor Arms. Gadewch i ni fwynhau ein siwrnai tua Phenarth Cymraeg! Dilynnwch ni ar trydar hefyd! https://twitter.com/CYIGPenarth

Cyflwyno Llyfr WN21 i'r Llywodraeth yn Eisteddfod yr Urdd

30/05/2015 - 13:30
1.30pm Sadwrn 30 Mai

Ymgasglu yn Uned Cymdeithas yr Iaith,
Maes Eisteddfod yr Urdd

DEWCH GYDA NI O UNED Y GYMDEITHAS I GYFLWYNO "LLYFR WN21" I UNED Y LLYWODRAETH AR Y MAES fel rhan o'n galwad am sicrhau fod y cwricwlwm newydd yn rhoi i bob disgybl y sgil i fedru cyfathrebu a gweithio'r Gymraeg

AGOR LLYFR WELSH NOT 21ain ganrif

25/05/2015 - 13:30

Mae'r Welsh Not yn dal yn fyw ac yn iach ! Yn lle cosbi disgyblion am siarad Cymraeg yn yr ysgol fel y gwnaeth Welsh Not yr 19eg ganrif, y mae'r Welsh Not newydd yn amddifadu mwyafrif disgyblion Cymru o'r sgil i fedru cyfathrebu a gweithio'n Gymraeg. Yn aml iawn caiff disgyblion o gefndiroedd tlotaf eu rhoi tan anfantais bellach yn ddiwylliannol ac yn economaidd.

 Dyw hi ddim yn deg ac mae cyfle cael gwared a syniad dilornus "Cymraeg Ail Iaith" a sicrhau fod pawb yn gallu cyfathrebu'n Gymraeg trwy'r cwricwlwm newydd