Powys

Herio Cyngor Powys - ble mae'r arweiniad?

04/08/2015 - 14:00

Herio Cyngor Powys - ble mae'r arweiniad?
2 o'r gloch, Dydd Mawrth, 4ydd Awst
Uned Cymdeithas yr Iaith Gymraeg (Unedau 811-812)
Y Maes, Eisteddfod Genedlaethol Maldwyn

Yr Hawl i Gartref - Lansiad Ymgyrch dros Fil Cartrefi Fforddiadwy i Bawb

03/08/2015 - 14:00

Yr Hawl i Gartref - Lansiad Ymgyrch dros Fil Eiddo
2pm, Dydd Llun, 3ydd Awst
Uned Cymdeithas yr Iaith Gymraeg (Unedau 811-812)
Y Maes, Eisteddfod Genedlaethol Maldwyn

Lansiad ymgyrch dros deddfwriaeth newydd er mwyn atal allfudiad o'r wlad a sicrhau cartref fforddiadwy i bawb.

Siaradwyr: Mared Jones (Ble ti'n mynd i fyw), Tamsin Davies (Cymdeithas) a chynrychiolydd Shelter Cymru.

Rhanbarth Powys

Cadeirydd: Arwyn Groe
Swyddog Maes: Robin Farrar
Rhif Ffôn: 01970 624501

Mae gan Gymdeithas yr Iaith gangen weithgar ym Maldwyn - croeso i chi ymuno yn y gwaith wrth i ni:

  • Trefnu gigs a digwyddiadau eraill
  • Pwyso ar Gyngor Sir Powys i weithredu er lles y Gymraeg
  • Ymgyrchu y dylai tai cael caniatâu yn ôl yr angen lleol yma

A llawer mwy!

Digwyddiadau Powys

Angen ail-ystyried 6,000 o dai os yw Powys am weld y Gymraeg yn ffynnu

Wrth i Gyngor Sir Powys gyhoeddi Cynllun Datblygu drafft, rydym wedi croesawu ymrwymiad yn y cynllun i atal y dirywiad yng nghanran y siaradwyr Cymraeg yn y sir - ond yn rhybuddio bod yn rhaid ail-ystyried cynlluniau i adeiladu 6,000 o dai.

Meddai Llion Pughe, o Gemaes, ar ran cangen Maldwyn Cymdeithas yr Iaith Gymraeg:

Cyfarfod Rhanbarth Powys

16/06/2015 - 19:00

Cian Offis, Llangadfan

Gyda'r Eisteddfod ar y gorwel byddwn ni'n cwrdd i drafod beth gallwn ni wneud yn lleol i adeiladu at y Steddfod, yn ystod yr wythnos; a sut i ddefnyddio'r Eisteddfod i adeiladu ar waith y Gymdeithas yn yr ardal

Mwy o wybodaeth - post@cymdeithas.cymru / 01970 624501

Miliwn o siaradwyr Cymraeg - sut i gyrraedd y nod

06/08/2015 - 14:30

Miliwn o siaradwyr Cymraeg - sut i gyrraedd y nod
2.30pm, Dydd Iau, 6ed Awst
Pabell y Cymdeithasau 2, Maes Eisteddfod Maldwyn

Siaradwyr: Simon Thomas AC (Plaid Cymru), Suzy Davies AC (Ceidwadwyr), Aled Roberts AC (Democratiaid Rhyddfrydol), Jamie Bevan (Cymdeithas) a'r Athro Elin Haf Gruffydd Jones

Cyfarfod Rhanbarth Powys

14/04/2015 - 19:00

Nos Fawrth, Ebrill 14eg  7yh - cyfarfod Rhanbarth Powys yn nhafarn y Cian Offis, Llangadfan.

Mae'r cyfarfod yn gyfle i:

Croesawu sefydlu gweithgor Powys - ond angen amserlen gweithredu

Cyngor Sir Powys yn Llusgo Traed - angen gweledigaeth ar gyfer y Gymraeg

Yn ôl ymgyrchwyr iaith ym Maldwyn, mae Cyngor Sir Powys yn "llusgo'u traed," ac mae angen sefydlu gweithgor fydd yn mynd i'r afael â dirywiad nifer y siaradwyr Cymraeg yn y Sir.