Cyfansoddiad Cymdeithas yr Iaith Gymraeg

Cyfansoddiad Cymdeithas yr Iaith

Mabwysiadwyd 2006

Diweddarwyd 2011, 2012, 2013, 2016

1. Enw:

Enw’r Gymdeithas fydd “Cymdeithas yr Iaith Gymraeg” (“Cymdeithas yr Iaith” yn fyr)

2. Amcanion neu Nod:

Nod Cymdeithas yr iaith yw:

a. sicrhau fod y Gymraeg yn cael ei chydnabod fel priod iaith Cymru ac yn ennill ei lle fel iaith swyddogol yng Nghymru

b. sicrhau fod y Gymraeg yn perthyn i holl bobl Cymru a bod gan y bobl hynny yr hawl i fyw eu bywydau yn llawn drwy gyfrwng y Gymraeg; mae hyn yn cynnwys:

1. yr hawl i addysg drwy gyfrwng y Gymraeg

2. yr hawl i ddysgu Cymraeg

3. yr hawl i wasanaethau drwy gyfrwng y Gymraeg yn y sector preifat neu gyhoeddus

4. yr hawl i ddefnyddio’r Gymraeg yn y gweithle

5. yr hawl i ofal drwy gyfrwng y Gymraeg

c. gwarchod a hybu cymunedau Cymraeg a Chymreig drwy sicrhau fod modd i bobl leol fyw a gweithio yn y cymunedau hyn a sicrhau dyfodol hyfyw i’r cymunedau hyn.

3. Dulliau

a. Bydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn ymgyrraedd at yr amcanion hyn trwy weithgareddau di-drais, gan aelodau'r Gymdeithas yn cyfarfod yn ddemocrataidd.

b. Gall y gweithgareddau yma gynnwys cydweithio gyda sefydliadau a mudiadau di-drais eraill sydd yn gweithio dros heddwch, cydraddoldeb a chyfiawnder cymdeithasol lle bynnag y bônt.

c. Ni bydd Cymdeithas yr Iaith yn derbyn rhagfarnu ar sail iaith, rhyw, hunaniaeth rywiol, hil, anabledd na chrefydd.

4. Aelodaeth

Gall unrhyw un fod yn aelod o Gymdeithas yr Iaith sydd:

a. wedi llenwi ffurflen ymaelodi a drwy hynny datgan ei fwriad i ymuno â’r Gymdeithas

b. wedi talu'r tâl aelodaeth, fel y'i pennir gan Senedd Cymdeithas yr Iaith

c. yn fodlon hyrwyddo amcanion Cymdeithas yr Iaith

ch. yn cytuno i ufuddhau i gyfansoddiad Cymdeithas yr Iaith

5. Disgyblaeth

Mae Cymdeithas yr Iaith yn cydnabod y bydd safbwyntiau ei haelodau'n amrywio'n fawr a bod angen parchu a gwrando ar farn aelodau eraill, ond mae’r Gymdeithas yn cadw'r hawl i ddiarddel unrhyw aelod nad yw'n cyflawni'r amodau aelodaeth. Bydd penderfyniad o'r fath yn cael ei wneud gan y Senedd. Bydd y rhesymau dros weithredu trefniadau disgyblu fel a ganlyn:

a. Gweithredoedd neu ddatganiadau sy'n groes i amcanion y Gymdeithas;

b. Aelodaeth o fudiad sy'n mynd yn groes i amcanion y Gymdeithas;

c. Ymddygiad parhaus yng nghyfarfodydd y Gymdeithas sy'n fygythiol neu sy'n aflonyddu ar eraill;

Bydd y cosbau isod ar gael i'r Senedd yn unol â thelerau'r Rheolau hyn:

i. Ceryddu;

ii. Atal aelodaeth am gyfnod;

iii. Diarddel o'r Mudiad.

Bydd gan unigolyn a waharddwyd rhag bod yn aelod o'r Gymdeithas o ganlyniad i bennu cosb ddisgyblaethol yn unol â'r rheolau hyn hawl i wneud cais i ymaelodi â'r Gymdeithas o'r newydd ddim cynt na dwy flynedd ar ôl pennu'r gosb.

6. Y Senedd a’r Cyngor

a. Senedd Cymdeithas yr Iaith fydd yn rheoli'r Gymdeithas rhwng Cyfarfodydd Cyffredinol o'i haelodau oddi fewn i ganllawiau polisi a osodir gan Gyfarfodydd Cyffredinol.

b. Bydd y senedd yn cyfarfod yn fisol heblaw am y misoedd hynny pan fydd y Cyngor yn cyfarfod ac yn cynnwys yr aelodau canlynol. Dim ond yr aelodau hyn a fyddant a hawl pleidleisio, er y bydd hawl i unrhyw aelod fynychu cyfarfod o'r Senedd.

c. Aelodau’r Gymdeithas fydd yn gyfrifol am ethol aelodau i wasanaethu ar y Senedd am gyfnod o flwyddyn. Mae gan bob aelod o’r Gymdeithas yr hawl i enwebu unrhyw aelod arall ar gyfer unrhyw swydd trwy lenwi’r ffurflen enwebiadau a fydd yn cael ei ddanfon at yr holl aelodau yn y cyfnod yn arwain at y Cyfarfod Cyffredinol.

ch. Mae gan pob aelod o’r Gymdeithas yr hawl i bleidleisio dros unrhyw aelod arall sydd wedi derbyn enwebiad ar gyfer unrhyw swydd, trwy bleidlais gudd yn y Cyfarfod Cyffredinol, gyda phleidleisiau o bell ar gael ar gais i aelodau na allent fod yn bresennol yn y Cyfarfod Cyffredinol.

d. Bydd y buddugwyr yn cael eu henwi yn ystod y Cyfarfod Cyffredinol. Bydd unrhyw swyddi gwag yn cael eu llenwi trwy bleidlais yn ystod y Cyfarfod Cyffredinol.

dd. Gan y Cyfarfod Cyffredinol mae'r hawl i ychwanegu at, dileu neu newid natur unrhyw swydd ar y senedd. Os oes sefyllfa yn codi fod yn rhaid creu swydd newydd ar y senedd rhwng dau Gyfarfod Cyffredinol mae hawl gan Senedd y Gymdeithas i wneud hynny. Ond rhaid i'r swydd honno gael ei chadarnhau yn y Cyfarfod Cyffredinol dilynol. Caniatëir i'r Senedd gyfethol hyd at dri aelod heb bortffolio bob blwyddyn.

e. Os bydd un o’r swyddi a etholwyd gan y Cyfarfod Cyffredinol yn dod yn wag yn ystod y flwyddyn, mae gan y Senedd yr hawl i ethol unrhyw aelod o’r Gymdeithas i wasanaethu hyd y Cyfarfod Cyffredinol nesaf. Mae deiliaid y swyddi canlynol fel a etholwyd gan aelodau Cymdeithas yr Iaith yn aelodau llawn o’r Senedd:

  • Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith, a fydd yn gyfrifol am reoli'r Gymdeithas wedyn rhwng cyfarfodydd Senedd.

  • Is Gadeirydd Ymgyrchoedd,  a fydd yn gyfrifol am sicrhau fod y Grwpiau Ymgyrchu'n weithredol

  • Is Gadeirydd Cyfathrebu,  a fydd yn gyfrifol am beiriant cyfathrebu'r Gymdeithas ac yn ateb i'r senedd ar ran y Swyddog Gwefan a Dylunio, a Golygydd y Tafod.

  • Is Gadeirydd Gweinyddol,  a fydd yn gyfrifol am ein gweinyddiaeth ac yn ateb i'r senedd ar ran y Swyddog Aelodaeth, Swyddog Codi Arian, Swyddog Mentrau Masnachol

  • Swyddog Aelodaeth, a fydd yn gyfrifol am ein system aelodaeth a'n hymgyrchoedd aelodaeth

  • Swyddog Ymgyrchu ar y We, a fydd yn hyrwyddo ein hymgyrchoedd ar-lein

  • Swyddog Adloniant, a fydd yn creu bas-data o wybodaeth a chanllawiau ar gyfer Pwyllgorau Adloniant mewn rhanbarthau ar gyfer digwyddiadau arbennig

  • Swyddog Cymunedau Byw,

  • Cadeirydd Grŵp Hawl i’r Gymraeg

  • Is-gadeirydd Grŵp Hawl i’r Gymraeg

  • Cadeirydd Grŵp Cymunedau Cynaliadwy

  • Is-gadeirydd Grŵp Cymunedau Cynaliadwy

  • Cadeirdd Grŵp Addysg

  • Is-Gadeirydd Grŵp Addysg

  • Cadeirydd Grŵp Dyfodol Digidol

  • Is-Gadeirydd Grŵp Dyfodol Digidol

ff. Yn absenoldeb Cadeirydd neu Is-Gadeirydd unrhyw grŵp ymgyrch dylai grŵp ddewis cynrychiolydd arall.

g. Dylai un cynrychiolydd o bob rhanbarth fod yn bresennol yn y Senedd a bydd ganddynt hawl pleidleisio.

ng. Bydd holl swyddogion cyflogedig y Gymdeithas yn aelodau llawn o’r Senedd yn ddi-ofyn. Y Senedd fydd yn penodi Swyddogion Cyflogedig.

Y Cyngor

a. Bydd y Cyngor yn fforwm ehangach ac yn derbyn adroddiadau gan y Rhanbarthau am waith a wnaed, am gynlluniau'r dyfodol, ac yn cynnwys asesiad o adnoddau cyfredol y rhanbarth a pha gynnydd a wnaed. Bydd fforwm y Cyngor hefyd yn gyfle i Grwpiau Ymgyrchu canolog osod gerbron cynrychiolwyr o ranbarthau eu strategaeth am y 4 mis canlynol. Bydd cyfle hefyd ym mhob cyfarfod Cyngor i drafod pwnc traws ymgyrchol o ddiddordeb hanfodol i'r Gymdeithas. Bydd i benderfyniadau'r Cyngor yr un grym ag sydd i benderfyniadau senedd, a hawl pleidleisio i'r cynrychiolwyr rhanbarth yn ogystal ag i aelodau'r senedd.

b. Bydd aelodaeth Cyngor Cymdeithas yr Iaith fel a ganlyn:

  • Holl aelodau Senedd Cymdeithas yr Iaith, fel y’i rhestrir uchod

  • Bydd Cadeiryddion ac Is-Gadeiryddion Rhanbarthol, sydd hefyd yn aelodau llawn o’r Cyngor, yn cael eu hethol yng nghyfarfodydd blynyddol y rhanbarthau.

  • Y Trysorydd, a fydd yn gyfrifol am gyfrifon y Gymdeithas

  • Swyddog Codi Arian

  • Swyddog Aelodaeth

  • Swyddog Mentrau Masnachol

  • Golygydd y Tafod

  • Swyddog y Wefan a Dylunio

c. Etholir Y Trysorydd, Swyddog Codi Arian, Swyddog Mentrau Masnachol, Golygydd y Tafod, Swyddog y Wefan a Dylunio yn yr un modd ag aelodau’r Senedd, ond eu bod yn aelodau o’r Cyngor yn unig.

ch. Cyfarfodydd Rhanbarth wedi'u hysbysu i holl aelodau'r Rhanbarth a fyddant yn gyfrifol am ddewis cynrychiolwyr o'r rhanbarth i'r Cyngor. Bydd cadeirydd y rhanbarth yn hysbysu'r Senedd o fanylion y cynrychiolwyr (a fyddant fel arfer yn cynnwys y cadeirydd ei hun) a bydd cynrychiolwyr rhanbarth yn derbyn yn electronig copïau o bob dogfen a anfonir at aelodau'r Senedd, a chyda hawl i fynychu cyfarfodydd senedd, er na ddisgwylir iddynt ond dod at gyfarfodydd y Cyngor. Bydd hawl gan Gadeirydd Rhanbarth benodi dirprwy o gynrychiolydd os na bydd cynrychiolydd rhanbarthol yn gallu mynychu cyfarfod o'r Cyngor, a bydd yr un hawl pleidleisio gan y dirprwy.

d. Bydd y Cyngor yn cyfarfod deirgwaith y flwyddyn ar adegau i’w penodi gan y Senedd.

7. Rhanbarthau

a. Yn nhermau'r Gymdeithas, mae Cymru wedi ei rannu i chwe rhanbarth sef Gwynedd-Môn, Clwyd, Ceredigion, Caerfyrddin-Penfro, Powys a Morgannwg-Gwent.

b. Gall celloedd neu unigolion sefydlu 'Cyfarfod Rhanbarth' gyda chydsyniad y Senedd. Un pwyllgor swyddogol fydd yng ngofal unrhyw ranbarth. Gwaith y rhanbarth yw cydlynu gwaith y celloedd o fewn y rhanbarth a bod yn ddolen gyswllt rhwng y Senedd a'r celloedd. Yn ddelfrydol dylai fod Swyddog Maes cyflogedig yn gwasanaethu'r rhanbarth (neu grwp o ranbarthau) ar ran y Gymdeithas. Bydd Cadeirydd y Rhanbarth, a etholir yn ystod cyfarfod cyffredinol y rhanbarth, neu ei gynrychiolydd yn aelod o Senedd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg. Neilltuir dair Senedd bob blwyddyn i drafod materion rhanbarthol

c. Y Senedd hefyd a fydd yn rheoleiddio ffiniau a chyfansoddiad rhanbarthau.

8. Celloedd (Ysgol/Coleg/ardal)

a. Gwasanaethir Cymdeithas yr Iaith ar lefel leol/gymunedol gan gelloedd. Mae gan y gell hawl i ethol ei swyddogion ei hun a hawl i weithredu yn unol ag egwyddorion a pholisiau Cymdeithas yr Iaith Gymraeg.

b. Mae gan Senedd Cymdeithas yr Iaith hawl i ddiarddel unrhyw gell o'r mudiad (ac wedi ymgynghoriad â'r swyddogion rhanbarth perthnasol) os tybir fod y gell wedi canymddwyn, dwyn anfri neu weithredu'n groes i egwyddorion y Gymdeithas. Dylid rhoi rhybudd swyddogol i gell cyn ei diarddel.

c. Bydd y gell yn anfon cynrychiolydd i'r cyfarfod rhanbarth.

9. Y Cyfarfod Cyffredinol

Cynhelir Cyfarfod Cyffredinol Cymdeithas yr Iaith unwaith y flwyddyn fel arfer ym mis Mawrth neu mis Ebrill. Gellir galw Cyfarfod Cyffredinol arbennig yn ychwaanegol at y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol os yw 'r Senedd, 2 ranbarth, 5 Cell, neu 20 o aelodau cyffredin yn gwneud cais am hyn.

Rheolau Sefydlog y Cyfarfod Cyffredinol

a. Bydd gan bob aelod o Gymdeithas yr Iaith Gymraeg yr hawl i fynychu cyfarfodydd cyffredinol. Caniateir i'r wasg a sylwebyddion fod yn bresennol oni bai fod mwyafrif syml o'r aelodau yn penderfynu'n groes i hynny.

b. Gweithredir Rheolau Sefydlog y Cyfarfod Cyffredinol ar ddisgresiwn y Cadeirydd er mwyn hwyluso trafodaeth. Gyda mwyafrif syml o'r cyfarfod gellir gollwng y Rheolau Sefydlog.

c. Dim ond aelodau o Gymdeithas yr Iaith Gymraeg (h.y. y rhai sy'n dal cerdyn pleidleisio) all bleidleisio yn y cyfarfod.

ch.

(i) Rhaid i gynigion fod yn llaw un o aelodau'r Pwyllgor Llywio o flaen y cyfarfod ar ddyddiad ac amser i'w penodi gan y Senedd.

(ii) Derbynir cynigion brys rhwng y dyddiad olaf derbyn cynigion ac amser arbennig yn ystod y cyfarfod i'w benderfynu gan y Pwyllgor Llywio.

d. Ni all un aelod siarad mwy nag unwaith ar unrhyw gynnig neu welliant heb ganiatad y cyfarfod oni fydd yn siarad ar bwynt o drefn, gwybodaeth neu eglurhad, ond bydd gan gynigydd y cynnig gwreiddiol neu welliant yr hawl i ateb y drafodaeth.

dd.

(i) Ni fydd y Pwyllgor Llywio yn derbyn cynnig heb enw cynigydd ac eilydd.

(ii) Os na fydd y cynigydd a'r eliydd a enwir yn y cynnig yn bresennol, ni thrafodir y cynnig na gwelliant heb ganiatad y Cyfarfod Cyffedinol.

(iii) Ni ellir tynnu cynnig na gwelliant yn ôl heb ganiatad y cyfarfod.

(iv) Ar ôl y cynnig a'r eilio bydd y Cadeirydd yn datgan fod y cynnig gerbron y Cyfarfod a dyliai unrhyw aelod sy'n dymuno siarad geisio tynnu sylw'r Cadeirydd.

(v) Ar unrhyw adeg yn ystod y drafodaeth gellir cynnig gwelliant ysgrifenedig (os ydyw yn llaw un o'r ysgrifenyddion o flaen y cyfarfod ar ddyddiad ac amser i'w benodi gan y Senedd), a chaniateir gwelliant ar welliant os cyflwynir ef i'r Cadeirydd yn ysgrifenedig 3 chynnig ymlaen llaw.

(vi) Gall y cynigydd dderbyn unrhyw welliant os y dymuna, a'r cynnig fydd yn sefyll fydd y cynnig wedi'i wella.

(vii) Ni chymerir gwelliant ar y cynnig gwreiddiol fel araith yn erbyn y cynnig gwreiddiol.

(viii) Os nad yw cynigydd y cynnig gwreiddiol yn derbyn gwelliant bydd y cyfarfod yn mynd ymlaen i drafod y gwelliant.

(ix) Bydd hawl gan y cynigydd drosglwyddo'r hawl i grynhoi i gynigydd y gwelliant os dymuna.

e.

(i) Tra mae aelod arall yn siarad, gall aelod siarad â'r gadair ar bwynt o wybodaeth a godir yn unig i ofyn cwestiwn neu i gywiro'r gadair. Yn y naill achos a'r llall bydd gan y siaradwr neu'r Cadeirydd y dewis o ymdrin a'r pwynt neu beidio. Ni ellir codi pwyntiau o wybodaeth yn ystod araith grynhoi.

(ii) Os nad oes aelod yn siarad gall aelod siarad â'r gadair:

• ar bwynt o drefn, a gyfeirir i'r gadair ac a fydd yn ymdrin yn unig â threfn y cyfarfod.

• ar bwynt o eglurhad, a gyfeirir i'r gadair ac a fydd yn ymdrin yn unig ag egluro sylwadau a wnaed yn gynharach gan y gadair neu gan siaradwr arall. Ni fydd yn bwynt o wybodaeth.

f. Yn ystod trafodaeth ar gynnig neu welliant gellir cynnig y cynigion trefn canlynol i gwtogi ar neu ohirio trafodaeth. Ni ellir cynnig yr un cynnig trefn fwy nag unwaith mewn unrhyw gyfnod o ddeng munud.

(i) Gadael cynnig ar y bwrdd, a olyga os yw'n cael ei basio, ohirio trafodaeth ar y cynnig blaenorol hyd yn Cyfarfod Cyffredinol nesaf (os y dymuna'r cynigydd a'r eilydd ei ail gynnig).

(ii) Cyfeirio'r cynnig yn ôl, a olyga os yw'n cael ei basio, cyfeirio'r cynnig yn ôl i'r Senedd.

ff. Bydd pob pleidlais drwy ddangos cardiau pleidleisio. Ni chaniateir i neb bleidleisio dros eraill.

g. Bydd gan y Cadeirydd bleidlais fwrw'n unig.

ng.

(i) Gall y Cadeirydd o'i (d)dewis ei hun:

  • gyfyngu ar amser unrhyw ran o'r agenda

  • gyfyngu ar amser unrhyw drafodaeth ar gwestiwn neilltuol

(ii) Bydd penderfyniad y Cadeirydd ar unrhyw bwynt o drefn yn derfynol os nad yw mwyafrif llwyr o'r aelodau sy'n bresennol yn pleidleisio dros gynnig yn herio penderfyniad y Cadeirydd ar unrhyw fater.

(iii) Bydd penderfyniad o ddiffyg hyder yn y Cadeirydd fel cadeirydd angen mwyafrif syml cyn dod i rym. Yna bydd Cadeirydd arall yn cadeirio am weddill yn cyfarfod.

(iv) Yn yr achos uchod, bydd y Cadeirydd yn trosglwyddo'r gadair i gadeirydd arall yn ystod y drafodaeth ar y cynnig. Gellir cynnig hyn ar unrhyw bryd yn ystod y cyfarfod.

(v) Os y dymuna y Cadeirydd siarad at unrhyw bwnc ar wahân i'w ddyletswydd fel cadeirydd yna rhaid iddi/iddo adael y gadair. Cymerir ei (l)le gan gadeirydd arall am weddill y drafodaeth ar y pwnc.

h. Golyga mwyafrif llwyr bod dau draean o'r aelodau sy'n bresennol yn pleidleisio dros y cynnig. Ar gyfer y pwrpas yma anwybyddir rhanedau.

i. Penderfynir ar amselen y Cyfarfod Cyffredinol ac ar drefn y cynigion a materion trefnyddol eraill gan y Pwyllgor Llywio a gyfansoddir fel a ganlyn: Y Cadeirydd, Is-Gadeiryddion, Swyddogion Cyflogedig.

j. Disgwylir i Gadeiryddion Grwpiau Ymgyrchu gyflwyno adroddiadau blynyddol am eu gwaith, a bod yr adroddiadau hyn i'w hanfon allan ynghyd a phapurau enwebu swyddogion am y flwyddyn ganlynol.

10. Newid y Cyfansoddiad

Ni cheir newid y Cyfansoddiad hwn ond trwy bleidlais yr aelodau sy'n bresennol ac yn pleidleisio yn y Cyfarfod Cyffredinol.

11. Dehongliad

Os digwydd bod unrhyw gwestiwn yn codi ynglŷn â dehongliad y Cyfansoddiad, bydd cadeirydd y cyfarfod (neu rhwng cyfarfodydd, Cadeirydd y Gymdeithas) yn dyfarnu ar y mater a bydd ei d/ddyfarniad yn derfynol oni bai fod cynnig yn cael ei basio yn gofyn i'r person symud o'r Gadair. Byddir yn adrodd am unrhyw ddyfarniad o'r fath i'r Senedd, a fydd yn argymell gweithredu i ddileu unrhyw amwysedd.