Ysgol Undydd Dathlu Cymunedau

30/06/2017 - 10:00

Lleoliad: Senedd-dy Owain Glyndŵr, Machynlleth

Dyddiad: Dydd Gwener, 30 Mehefin 2017, 11 yb – 4.00 yp

Trefnir y diwrnod gan Gymdeithas yr Iaith gyda’r bwriad o dynnu pobl ynghyd er mwyn datblygu cynllun ymarferol i gymhathu dysgwyr a siaradwyr Cymraeg yn eu cymunedau.

Dyma brif ffocws y diwrnod:

  • Dathlu digwyddiadau diwylliannol sy'n bodoli’n barod.
  • Gwrando ar brofiadau unigolion sydd wedi dysgu’r iaith.
  • Codi hyder pobl i groesawu dysgwyr a mewnfudwyr i ddigwyddiadau sy'n cael eu cynnal drwy gyfrwng y Gymraeg.

Rhys Mwyn fydd siaradwr gwadd y diwrnod a bydd cynrychiolwyr o’r Mentrau Iaith, Y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol a Mudiad Dathlu’r Gymraeg yn bresennol.

Bydd bore’r Ysgol Undydd yn canolbwyntio ar brofiadau arweinwyr naturiol yn eu cymunedau sy'n cynnal ymarfer da o weithredu er mwyn gweld gweithgareddau'n datblygu'n naturiol gyda phwyslais ar gymhathu dysgwyr. Dau o’r siaradwyr fydd Marc Jones sy’n cynrychioli Canolfan Saith Seren Wrecsam a Bronwen Wright, Swyddog Clybiau Gwawr/Merched y Wawr.

Bydd y prynhawn yn canolbwyntio ar 3 cwestiwn penodol sy'n arwain at benderfyniad pendant ar ddiwedd y dydd ar fynd ati i gyflwyno pecyn cymunedol.

Am fwy o wybodaeth cysylltwch â Nia Llywelyn ar 01650 511865 neu nia.llywelyn@googlemail.com