Cell Llanberis: Cyfarfod Bysus Gwell i Wynedd!

26/10/2017 - 18:30

Lle? Yr Heights, Llanberis

Pryd? 6.30 yh 26/10/17

Wedi cael digon ar drafnidiaeth cyhoeddus sydd yn ddrud, anghyson a phrin?

Mae criw lleol yn y broses o sefydlu Cell Cymdeithas yr Iaith yn Llanberis ac am gychwyn ymgyrch am drafnidiaeth gyhoeddus gwell i'r ardal.

I bobl heb geir (yr hen, yr ifanc, pobl anabl a phobl ar incwm isel) mae'r sefyllfa bresennol yn ei gwneud hi'n anodd iawn byw yn ein cymunedau. Mae pobl ifanc yn gadael a ddim yn dod nol a mae hyn yn cael effaith ar iaith bob dydd ein hardaloedd.

O deithio i'r gwaith bob dydd, i apwyntiadau, a pan fo argyfwng meddygol does nemor dim opsiynau gan bobl. Heb son am teithio i weld ffrindiau a theulu gyda'r nos, a dydi noson allan ddim yn opsiwn - does dim siawns cael bywyd cymdeitheithasol!

Mae trafnidiaeth gyhoeddus yn bwysig i'n hamgylchedd, cadw ein gorwlion yn agored o fewn Wynedd am gyfleoedd ac yn bwysig o ran yr iaith Gymraeg. Dyma pam mae'r ymgyrch yma'n bwysig i ni.

Plis dowch i'r cyfarfod cychwynol yma, a gawn ni weld os oes digon honom efo tan yn ein bolia i newid pethau a cael bysus gwell, mwy aml a dibynadwy efo gyrrwyr a'r cyhoedd yn cael chwarae teg.