Cyfarfod Agored - Tynged yr Iaith yn Sir Gar

17/01/2015 - 10:30

CYFARFOD AGORED - "Tynged yr Iaith yn Sir Gár"

A yw Cyngor Sir Caerfyrddin wedi mynd ati o ddifri i weithredu strategaeth i ddiogelu'r Gymraeg?

Rydym yn chwilio am 100 o bobl i gadw llygad barcud ar waith Cyngor Sir Gâr, drwy ddilyn cyfarfodydd a darllen cofnodion a chyhoeddiadau'r cyngor, er mwyn sicrhau bod y cyngor yn cadw at y Strategaeth Iaith maen nhw wedi ei fabwysiadu ac yn gwneud cynydd.

Mae rhestr o farcudiaid yn cael ei gyhoeddi ar dudalen facebook y digwyddiad, i ymuno gyda nhw cofrestra fan hyn neu cysyllta gyda ni - bethan@cymdeithas.org / 01970 624501

Ddwy flynedd ers Rali'r Cyfrif, a naw mis ers i Gyngor Sir Caerfyrddin benderfynu ar Strategaeth Iaith newydd bydd Elinor Jones, Uwch Siryf Dyfed yn agor y cyfarfod agored ble bydd:

- cyfle i glywed y manylion diweddaraf y gwaith ar y strategaeth iaith gan Cyng. Cefin Campbell, Cyng. Calum Higgins; ac ymateb Cymdeithas yr Iaith gan Sioned Elin;
- sesiwn hawl i holi;
- cyfle i bawb fod yn rhan o benderfyniad pwysig: a yw Cyngor Sir Gaerfyrddin yn cymeryd y Gymraeg o ddifrif a beth sydd angen i ni wneud

10.30-1.30, Sadwrn 17eg Ionawr 2015 Neuadd San Pedr Caerfyrddin

Mwy o wybodaeth - bethan@cymdeithas.org