Cyfarfod Blynyddol rhanbarth Caerfyrddin

12/09/2015 - 10:30

Neuadd llyfrgell tref Caerfyrddin

Mae'n flwyddyn, bron, ers i'r Cyngor Sir roi cynllun gweithredu y strategaeth iaith yn ei lle – ble mae nhw arni nawr, beth sydd angen sicrhau ganddyn nhw a sut gallwn ni wneud hynny dros y flwyddyn nesaf?
Byddwn ni hefyd yn ethol swyddogion y rhanbarth am y flwyddyn i ddod – os oes gyda ti ddiddordeb yn swyddi cadeirydd, is-gadeirydd, ysgrifennydd neu drysorydd y rhanbarth, cysyllta gyda bethan@cymdeithas.org
Ar ddiwedd y cyfarfod bydd gweithdai yn amrywio o lunio datganiadau wasg ac ymarfer ar gyfer cyfweliadau teledu a radio; paratoi ar gyfer cyfarfodydd a chynllunio ymgyrchoedd - manylion llawn y gweithdai i ddilyn.

Mwy o wybodaeth - bethan@cymdeithas.cymru