Cyfarfod rhanbarth Caerfyrddin

10/01/2017 - 19:00

Tafarn y Queen's, Caerfyrddin

Hwn fydd y cyfarfod olaf cyn fforwm agored Tynged yr Iaith Sir Gâr felly byddwn ni'n rhannu dyletswyddau ar gyfer y dydd a gwaith hyrwyddo munud olaf.
Mae mwy o wybodaeth am y fforwm yma
Rydyn ni'n casglu gwybodaeth o flaen llaw am y farchnad dai ac am gynllunio - cysylltwch am ragor o wybodaeth.

Byddwn ni hefyd yn trafod gwasanaethau meddygol cyfrwng Cymraeg.

I drefnu rhannu ceir i'r cyfarfod neu am ragor o wybodaeth cysylltwch: bethan@cymdeithas.cymru / 01559 384378