Cyfarfod rhanbarth Caerfyrddin

12/10/2016 - 19:00

Queen's, Caerfyrddin

Cynllunio fydd pwnc cyfarfod nesaf Tynged yr Iaith Sir Gâr. Rydyn ni am gasglu gwybodaeth am ddatblygiadau tai yn y gwahanol ardaloedd yn Sir Gaerfyrddin ac angen help i wneud.
Gall unrhyw un helpu gyda hyn felly dewch draw i glywed mwy, neu os na allwch chi ddod cysylltwch er mwyn helpu.

Byddwn ni hefyd yn trafod gwasanaethau iechyd yn Gymraeg gan fod swyddog o Fwrdd Iechyd Hywel Dda yn dod i Fforwm Sirol y Cyngor Sir a bydd cyfle i ni holi cwestiynau a chodi materion gyda hi. Am ragor o wybdoaeth neu i drefnu rhannu car, cysylltwch: bethan@cymdeithas.cymru