Cynllunio'r Gweithlu Addysg – Cyrraedd Miliwn o Siaradwyr Cymraeg

06/12/2016 - 09:15

09:15yb tan 11:30yb, dydd Mawrth, 6ed Rhagfyr 

Ystafell 21, Tŷ Hywel, Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Bae Caerdydd

Mae Llywodraeth Cymru wrthi'n llunio ei strategaeth iaith er mwyn cyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg ymhen ychydig ddegawdau. Mae consensws cyffredinol bod gan y gyfundrefn addysg ran ganolog i'w chwarae er mwyn sicrhau bod y Llywodraeth yn cyrraedd y targed 

Ymhellach, mae Pwyllgor Cyfathrebu, y Gymraeg a Diwylliant y Cynulliad Cenedlaethol newydd gychwyn ymchwiliad i mewn i'r strategaeth iaith ddrafft gan ofyn yn ogystal am sylwadau penodol ynghylch: 

  • gwella'r modd yr ydym yn cynllunio'r gweithlu a chefnogi ymarferwyr ym mhob cyfnod ym maes addysg; a 

  • sicrhau gweithlu digonol ar gyfer addysgu trwy gyfrwng y Gymraeg ac addysgu Cymraeg fel pwnc.

Noddir y digwyddiad gan Bethan Jenkins AC, Cadeirydd Pwyllgor Diwylliant, Y Gymraeg a Chyfathrebu'r Cynulliad Cenedlaethol.  

Gan fod lle yn gyfyngedig yn y seminar, hoffwn ofyn i chi wneud cais i gadw lle erbyn dydd Gwener 25ain Tachwedd drwy e-bostio colin@cymdeithas.cymru neu ffonio 02920 486496.