Fforwm Agored Tynged yr Iaith Sir Gâr

17/09/2016 - 10:00

Yr Atom, Caerfyrddin

2021 - Y Cyfrifiad nesaf: Sut fydd hi ar yr iaith a chymunedau Cymraeg?                    
                                 
Ydych chi'n cofio siom canlyniadau'r Cyfrifiad diwetha, a gweld mai yn Sir Gâr oedd y cwymp mwyaf trwy Gymru o ran siaradwyr Cymraeg? Rydyn ni eisoes hanner ffordd at y Cyfrifiad nesaf.....

Mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn llunio Cynllun pum mlynedd i hyrwyddo'r Gymraeg, bydd cyfle i bobl y sir weld y cynllun, holi cwestiynau a rhoi sylwadau arno yn y fforwm agored yma cyn i fersiwn derfynnol gael ei derbyn gan Fwrdd Gweithredol y cyngor ganol mis Hydref.

Yn bresennol ar ran y Cyngor fydd:
Cyng. Cefin Campbell - Is-gadeirydd Panel Ymgynghorol y Gymraeg;
Cyng. Calum Higgins - aelod o Banel Ymgynghorol y Gymraeg
Cyng Mair Stephens – yr Aelod Cabinet â gofal dros y Gymraeg;
Paul Thomas, Prif Weithredwr Cynorthwyol gyda chyfrifoldeb dros Reoli Pobl;
+ swyddogion sydd wedi bod yn llunio strategaeth hybu'r Cyngor.

Dewch i wrando, i gyfrannu ac i holi

Mwy o wybodaeth: bethan@cymdeithas.cymru / 01559 384378