Llangefni: Tai i Bwy?

19/04/2018 - 19:00

Ym mis Gorffennaf 2017 ddoth chwe blynedd o ymgyrchu i’r fei gyda Chyngor Môn yn pleidleisio dros y cynllun datblygu lleol.

Canlyniad hyn yw bod gan ddatblygwyr mawrion rwydd hynt i adeiladu 600 o dai yn Llangefni, rhan o gynllun i adeiladu 7,184 o dai Yng Ngwynedd a Môn erbyn 2026 yw hwn. Mae llawer o’r tai yma ar yr ynys i ddarparu ar gyfer y mewnlifiad o ganlyniad i adeiadu Wylfa-B. Gyda’r Gymraeg yn ei sefyllfa fregus a’r tai hyn yn sicr o fod yn anfforddadwy i bobl leol - sut siâp fydd ar Llangefni yn y blynyddoedd sydd i ddod?

Yn ogystal ag iaith y dref, fydd pethau eraill fel traffig, gwasanaethau fel meddygfeydd ac ysgolion yn cael eu heffeithio hefyd. Caiff yr ardal ei thrawsnewid a hynny heb gysyniad pobl yr ardal.

Wylfa-B sydd wrth wraidd y cynllun yma i adeiladu’r nifer uchel o dai. Bydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg a Pobl Atal Wylfa-B yn trefnu’r cyfarfod yma i ledaenu gwybodaeth ac i rymuso pobl leol i frwydro yn erbyn y datblygiadau tai yma yn ogystal a Wylfa-b ei hunain.

Yn y cyfarfod hwn byddwn yn trin a thrafod be sydd ar y gorwel o ran datblygu tai yn yr ardal - pam bod rhaid ei frwydro a hefyd sut allwn ni gyrraedd y nod. Gyda phobl ifanc yn gorfod byw efo'u rhieni a’r henoed heb gartrefi addas i’w hanghenion, gyda dyfodol o dyfu eu teuluoedd yng nghysgod gorsaf Niwclear beryglus - mae’n amlwg nad yw’r gwleidyddion yn gwrando ar ein anghenion.

Croeso i bawb, dewch i leisio’ch barn a gweithredu!

Dydd Iau'r 19fed o Ebrill 2018 rhwng 7yh - 9yh, Gwesty’r Bull, Llangefni, LL77 7LR