Na i ddatblygiadau Seisnigaidd! Sgwrs & Cyfarfod Rhanbarth

16/03/2016 - 18:30
Ar yr 16ed o Fawrth am 6.30 yh yn Nhafarn yr Owain Glyndwr, Caerdydd bydd Tamsin Davies yn siarad am gwaith grwp Cymunedau'r Gymdeithas.
 
Mae Cyngor Caerdydd wedi bod mewn dwr poeth gyda pobl y ddinas wedi i'r Cyngor honni haf diwethaf nad yw'r iaith yn rhan o ffabrig cymdeithasol y ddinas. Gyda nifer o ddatblygiadau ar y gweill fel Tramshed a Central Square a'r miloedd o dai newydd - mae'r brifddinas yn cael ei weddnewid - ond a fydd y Gymraeg yn rhan ohoni?

Dewch am drafodaeth ddifyr gan ddilyn gyda chyfarfod Rhanbarth ble trafodwn sut allwn ni weithredu dros y Gymraeg a chufiawnder cymdeithasol yn ein Prifddinas a thu hwnt!