Na i ddatblygiadau Seisnigaidd! Sgwrs & Cyfarfod Rhanbarth

16/03/2016 - 18:30

Ar nos Fercher, 16ed o Fawrth am 6.30yh yn Nhafarn yr Owain Glyndŵr, Caerdydd bydd Tamsin Davies yn siarad am waith grŵp cymunedau'r Gymdeithas.

Mae nifer o gynghorau, gan gynnwys cyngor Caerdydd, wedi bod mewn dŵr poeth gyda phobl wedi iddynt honni nad yw'r iaith yn "rhan o ffabrig cymdeithasol" eu hardaloedd. Gyda nifer o ddatblygiadau ar y gweill yng Nghaerdydd fel Tramshed a Central Square a'r miloedd o dai newydd - mae'r brifddinas yn cael ei weddnewid - ond a fydd y Gymraeg yn rhan ohoni? Mae sefyllfa debyg yn ardaloedd fel Casnewydd pan agorwyd datblygiad gyda'r enw uniaith Saesneg "Friars Walk" yn ddiweddar.

Dewch am drafodaeth ddifyr gan ddilyn gyda chyfarfod rhanbarth ble trafodwn sut allwn ni weithredu dros y Gymraeg a chyfiawnder cymdeithasol hyd a lled y De-ddwyrain.

Digwyddiad Facebook:  https://www.facebook.com/events/1577125442608626/