Na i'r Toriadau!

26/11/2015 - 16:30

Ar ddydd Mercher ar y 25ed o Dachwedd, bydd yr adolygiad gwariant yn cael ei cyhoeddi gan Lywodraeth Geidwadol yn Llundain. Gallwn ni ddisgwyl toriadau ofnadwy a fydd yn tanseilio yr iaith Gymraeg a cymunedau Cymru gyfan.

Bydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn mynd i swyddfa'r Toriaid am 4.30pm, dydd Iau (26ed).

Y cyfeiriad : Swyddfa Craig Williams AS, Uned 5, Heol Llanishen Fach, Rhiwbina, Caerdydd, CF14 6RG

Ymunwch â ni!

Mae'r effaith y mae'r Toriadau wedi gael drwy ymosod ar y sytem les i'w deimlo eisoes. Mewn adroddiad diweddar dywed bod y assesiadau am fudd-daliadau anabledd wedi arwain at 590 o fobl i gyflawni hunain laddiad. Mae nifer sylweddol o fobl wedi ac am golli eu swyddi a mae cyfradd y digartref ar ei lefel uchaf erioed.

Serch hynny mae'r nifer o filiwnyddion wedi dyblu ers 2010 pan ddaeth y Toriaid i rym a mae'r nifer o fobl sydd wedi cael eu gorfodi i droi at fanciau bwyd am nawdd wedi cynyddu a 40,000 i 900,000.

O ran Cymru a'r Gymraeg mae'r toriadau yn effeithio ar yr iaith mewn amryw o ffyrdd. O bobl ifanc gadael Cymru yn chwilio am waith a ffordd allan o dlodi, i'r toriadau i gyrsiau Cymraeg i oedolion, ac i'r ansicrwydd ariannol mae S4C yn ei wynebu.

Mae cyllideb S4C wedi'w lleihau o 40% ers 2010, ac mae ansicrwydd am sefyllfa ariannol y sianel dros y blynyddoedd nesaf.

Dewch i sefyll dros ein hawliau fel siaradwyr Cymraeg ac aelodau o'r Gymdeithas - Croeso i bawb!

O.N. Byddwn hefyd yn trefnu stondin stryd yn erbyn y toriadau ar dydd Sadwrn y 28fed o Dachwedd. Os allech chi gynorthwyo gyda hyn - cysylltwch.