Rali'r Cloeon: Blwyddyn ers canlyniadau'r Cyfrifiad

14/12/2013 - 11:00

Rali’r Cloeon: Blwyddyn ers canlyniadau’r Cyfrifiad

Rydyn ni eisiau byw yn Gymraeg – wyt ti?

11yb, Dydd Sadwrn Rhagfyr 14

Swyddfeydd Llywodraeth Cymru, Aberystwyth

Siaradwyr: Mared Ifan, Toni Schiavone, Alun Lenny, Ieuan Wyn ac eraill

Dros flwyddyn ers cyhoeddi canlyniadau’r Cyfrifiad - canlyniadau a ddangosodd bod y Gymraeg yn wynebu argyfwng, bydd Cymdeithas yr Iaith yn cyflwyno tystiolaeth i Carwyn Jones a Llywodraeth Cymru  o’r angen iddyn nhw weithredu dros y Gymraeg.

Mae'r cloc yn dal i dician a'r her i'r Llywodraeth yw datgan eu bwriad i sicrhau:

1. Addysg Gymraeg i Bawb

2. Tegwch Ariannol i'r Gymraeg

3. Llywodraeth Cymru ac Awdurdodau Lleol i osod esiampl trwy weinyddu'n fewnol yn Gymraeg

4. Safonau Iaith i Greu Hawliau Clir

5. Trefn Cynllunio er budd ein Cymunedau

6. Y Gymraeg yn greiddiol i Ddatblygu Cynaliadwy

@cymdeithas #6pheth #argyfwng

www.cymdeithas.org


Gweler Map Mwy