Stondin Stryd Cell Caerdydd - Deg ysgol gynradd Gymraeg newydd yng Nghaerdydd

21/01/2017 - 12:00

Bydd gan Gell Caerdydd stondin stryd eto ger cerflun Aneurin Bevan ar Stryd y Frenhines, o 12yp ymlaen ddydd Sadwrn Ionawr 21 i gasglu llofnodion ar gyfer ein deiseb sy'n galw ar Gyngor Caerdydd i agor deg ysgol gynradd Gymraeg newydd yn y ddinas dros y pum mlynedd nesaf. 

Mae ysgolion Cymraeg Caerdydd yn llawn, a bron pob un ohonynt yn gorfod gwrthod plant o ganlyniad i ddiffyg lle. Mae Cyngor Caerdydd yn methu ag ateb y galw cynyddol am addysg Gymraeg, felly rydym ni'n galw arnynt i agor deg ysgol gynradd Gymraeg newydd ar draws y ddinas dros y pum mlynedd nesaf.

Galwch heibio i lofnodi’r ddeiseb a sicrhau bod addysg Gymraeg ar gael i bawb yn y brifddinas.

Os hoffech helpu gyda'r deisebu, os hoffech chi dderbyn copi o'r ddeiseb i'w chylchredeg yn eich cymuned/gweithle, neu os oes gennych chi unrhyw gwestiynau, gallwch gysylltu drwy anfon ebost at de@cymdeithas.cymru neu ffonio 02920 486469.

cymdeithas.cymru/addysgcaerdydd