Iechyd meddwl a'r Gymraeg

02/06/2017 - 14:00

2yp, dydd Gwener, 2 Mehefin

Stondin Cymdeithas yr Iaith

Lansiad gwefan meddwl.org, trafodaeth ar iechyd meddwl dan ofal Amser i Newid Cymru, a darlleniad o’r gyfrol ‘Gyrru Drwy Storom.’

Siaradwyr: Alaw Griffiths (golygydd Gyrru Drwy Storom), Joe Williams (Amser i Newid Cymru) ac eraill

Ddydd Gwener, 2 Mehefin am 2pm ar stondin y Gymdeithas ar faes Eisteddfod yr Urdd, byddwn yn cynnal digwyddiad ‘Trafod iechyd meddwl yn Gymraeg.’

Caiff gwefan meddwl.org, y wefan iechyd meddwl Gymraeg, ei lansio yn swyddogol yn ystod y digwyddiad. Mae’r wefan yn cynnwys manylion cyswllt elusennau all gynnig cymorth iechyd meddwl drwy gyfrwng y Gymraeg, gwybodaeth am gyflyrau iechyd meddwl, blogiau am brofiadau unigolion, fforwm drafod, ac adran newyddion –  i gyd yn Gymraeg.

Yn dilyn lansiad y wefan, bydd yr elusen Amser i Newid Cymru yn arwain trafodaeth ar iechyd meddwl ymhlith pobl ifanc. Bydd y sgwrs hon yn gyfle i glywed profiadau pobl eraill, yn ogystal â rhannu eich profiad eich hun. Yn ogystal, bydd darlleniad o’r gyfrol ‘Gyrru Drwy Storom’, cyfrol sy’n cynnwys hanesion pobl o salwch meddwl, gan un o’r cyfrannwyr.