Tyfu nid Torri: Gweithdy Dad-Goloneiddio ein Hunain

25/04/2018 - 19:00

 chyffro mae Tyfu nid Torri mewn partneriaeth a Fforwm yr Eliffant Binc yn cyflwyno sesiwn dad-goloneiddio gan criw Radio Beca. Prif ffocws bydd adnabod sut y gallwn droi diffyg ddoe yn gryfder a chyfoeth i’r dyfodol.

Medd Euros Lewis, a fydd yn hwyluso’r gweithdy hon:

‘Mae cymaint ohonom yn gorfod gweithio o fewn meddylfryd Prydeinig – meddylfryd Seisnig, mewn gwirionedd. Meddylfryd a seiliwyd ar rym y canol; ar drefn sy’n gwahaniaethu rhwng pobl o ran cyfle, cefndir, cyfoeth a statws. Rheolaeth – o’r brig i’r godre – yw hanfod y meddylfryd hwn. Mae cynefin y Gymraeg yn wahanol. Gellir ei grynhoi mewn gair: cymdeithas, sef cydweithio, cyd-ddadlau, cyd-ddychmygu a phob ‘cyd’ arall. Ein helpu i dorri’n rhydd o afael y naill a rhyddhau potensial y llall yw nod y gweithdy hon.’

Yn ogystal â chyflwyniadau mi fydd y gweithdy dad-goloneiddio yn cynnwys ymarferiadau ac mi fydd pawb sy’n mynychu yn cael copi o’r Llawlyfr Dad-goloneiddio i fynd adref gyda nhw.

‘Mae’n bwysig fod y gweithdy yn gwneud gwahaniaeth – i bawb ohonom sydd yno ac i’n lleoedd gwaith a’n cymdogaethau’ medd Euros. ‘Wrth waelod pob newid er gwell mae criw bach o bobol sydd wedi cwestiynu; wedi gwrthod cydymffurfio; wedi gafael yn yr awenau.’

GWEITHDY SUT MAE DAD-GOLONEIDDIO’N HUNAIN? – Neuadd Ogwen, Bethesda, Nos Fercher y 25ed o Ebrill. Croeso i bawb!

Noddir Llawlyfr Dad-goloneiddio’n Hunain gan wasg Y Lolfa

Manylion pellach:

Heledd Melangell gogledd@cymdeithas.cymru 07547654966