Amcanestyniadau poblogaeth - ymateb

Annwyl Lywodraeth Cymru,

Hoffem gynnig ambell sylw mewn ymateb i'ch ymgynghoriad ynghylch allbynnau ystadegol ar amcangyfrifon ac amcanestyniadau poblogaeth ac aelwydydd.

Pryderwn fod yr ystadegau a'u defnydd wedi niweidio'r Gymraeg dros y blynyddoedd gan olygu adeiladu tai nad oes angen lleol ar eu cyfer.  Yn benodol mae'r dulliau cyfredol a ddefnyddir i baratoi’r ystadegau yn achosi peth pryder inni.

Yn y ddogfen 'Amcanestyniadau Poblogaeth Is-genedlaethol: Adroddiad Technegol ar Amcanestyniadau Poblogaeth Awdurdodau Lleol a Pharciau Cenedlaethol ar gyfer Cymru' a gyhoeddwyd gan Wasanaethau Gwybodaeth a Dadansoddi Llywodraeth Cymru yn Ionawr 2016, nodir bod yr amcanestyniadau cyfunol ar gyfer awdurdodau lleol yn uwch na Chymru yn ei chyfanrwydd. Nodwn fod tudalen 5 y ddogfen yn nodi bod y bwlch rhwng y ddau amcanestyniad dros gyfnod yr amcanestyniadau yn cynyddu i oddeutu 37,000 yn 2020 ac i 54,000 yn 2030.

Dylid gwneud hynny'n gliriach yn enwedig wrth ystyried eu defnydd mewn penderfyniadau cynllunio. Mae'n debyg bod y data yn awgrymu bod yr amcanestyniad cenedlaethol Cymreig yn gadarnach na'r llall felly dylai fod cafeat eithaf cryf ar yr amcanestyniadau awdurdodau lleol.

Mae rhagdybiaeth bod llif mudo statig yn y prif amcanestyniad. Mae hynny'n golygu y byddai disgwyl i fewnfudo hanesyddol uchel gael ei ailadrodd dros bob cyfnod amser wrth fynd ymlaen. Mae tudalen 24 o'r ddogfen a gyhoeddir yn Ionawr 2016 yn gwneud hynny'n glir. Mewn rhai ardaloedd lle does dim twf naturiol yn y boblogaeth, mynegir pryder bod yr amcanestyniadau yn achosi'r mudo, mewn ffordd anuniongyrchol, gan eu bod yn arwain at adeiladu tai nad oes angen iddynt yn lleol.  Awgrymwn felly y dylid edrych i mewn i'r mater hwn.  Mae'r bwysig bod yr amcanestyniadau a'r tueddiadau y maent yn eu disgrifio yn annibynol ar ei gilydd.

O ran dod o hyd i ddata ar wefannau, mae hyn yn gallu bod yn anodd oherwydd cymhlethdod gwefan Llywodraeth Cymru a StatsCymru.  Mae hefyd yn siomedig nad yw'r datganiadau ystadegol, fel rheol, yn cael eu cyhoeddi yn Gymraeg.  Mae'r Llywodraeth am weld rhagor o ymchwil a dysgu yn digwydd drwy'r Gymraeg ym mhrifysgolion Cymru, ond mae'r arfer o gyhoeddi eu hymchwil eu hunain yn Saesneg yn unig yn milwrio yn erbyn annog myfyrwyr a allai fod yn defnyddio data rhag dewis i ddilyn eu hastudiaethau drwy'r Gymraeg.  

Yn gywir, 

Tamsin Davies, 

Cadeirydd, Grŵp Cymunedau Cynaliadwy, Cymdeithas yr Iaith Gymraeg