BBC Yfory

BBC Yfory

Ymateb Cymdeithas yr Iaith Gymraeg

1.Cyflwyniad

1.1. Mae presenoldeb y Gymraeg yn y cyfryngau yn hollbwysig i bawb yng Nghymru. Cred Cymdeithas yr Iaith Gymraeg fod gan bawb yng Nghymru, boed yn siaradwyr Cymraeg ai peidio, hawliau i’r Gymraeg. Hynny yw, nid yn unig hawliau i’w defnyddio a’i dysgu, ond hefyd i wrando arni, ei gweld, a’i phrofi fel rhan o ddiwylliant cyfoes, bywiog. Felly, mae presenoldeb yr iaith ar y teledu, radio, arlein a phob cyfrwng arall yn allweddol i’n gweledigaeth ni fel mudiad.

1.2. Nodwn fod yr ymgynghoriad hwn yn dyblygu, i raddau helaeth, yr ymgynghoriad ar y Papur Gwyrdd y cynhelir gan Lywodraeth Prydain, a byddwn yn cyflwyno sylwadau mwy manwl i’r ymgynghoriad hwnnw.

1.3 Yn gyffredinol, wrth ddatblygu ei gwasanaethau mae’r BBC wedi trin y Gymraeg yn israddol. Tra buodd twf aruthrol yn ei gwasanaethau ar-lein Saesneg eu hiaith, yn nifer ei sianeli teledu a’i gorsafoedd radio, mae’r gwasanaethau Cymraeg wedi aros yn eu hunfan, gydag un orsaf radio a gwasanaethau eraill sy’n eilradd o gymharu â’r gwasanaethau Saesneg cyfatebol.

2. Cynyddu Cyllideb S4C a diogelu ei annibyniaeth

2.1. Wedi toriadau difrifol, a gyflwynwyd gan Lywodraeth Prydain mewn cydweithrediad â’r BBC, i gyllideb S4C, mae’n bwysig bod cyllideb y sianel yn cael ei adfer i’r lefel a oedd yn ei derbyn yn 2009. Tra bod gan Ymddiriedolaeth y BBC (neu’i olynydd) gyfrifoldeb dros ddosrannu’r ffi drwydded (neu’r hyn sy’n cymryd ei le) i awdurdod S4C, dylai fod yn sicrhau bod gan S4C gyllideb uwch. Mae’r modd y mae pennaethiaid y BBC wedi cydweithio, yn 2010 ac yn fwy diweddar, gyda Llywodraeth Prydain er mwyn cyflwyno toriadau i unig sianel deledu Gymraeg y byd, yn gwbl warthus.

2.2. Nid oes modd gorbwysleisio pwysigrwydd S4C i'r Gymraeg a diwylliannau Cymru. Ers 2010, daw cyfran helaeth o'r gyllideb sy'n weddill drwy ffi'r drwydded - trefniant sy'n bygwth annibyniaeth y sianel - gan fod y Llywodraeth wedi lleihau ei chyfraniad gan 93%. Mae cyllideb y sianel wedi ei thorri oddeutu 40%, gydag effaith sylweddol ar allu S4C i ddarparu gwasanaeth teledu cynhwysfawr o safon. Mae’n rhaid sylweddoli bod S4C wedi cael ei sefydlu yn dilyn ymgyrch dorfol hir, a bod nifer o bobl wedi aberthu eu rhyddid er mwyn ei sefydlu. Nid sianel gyffredin mohoni, ond yr unig sianel deledu Gymraeg yn y byd.

2.3. Dylai’r BBC gyfrannu at gynyddu cyllideb S4C tra bo cyfrifoldeb am ariannu’n hunig sianel deledu Gymraeg o’r ffi drwydded. Yn ogystal, dylai’r gorfforaeth barhau i ddarparu’r un nifer o oriau darlledu am ddim i S4C. Ni ddylai’r BBC geisio ymyrryd ag annibyniaeth golygyddol, ariannol na strategol S4C.

3. Datganoli darlledu a ffederaleiddio’r BBC

3.1. Nid yw strwythurau presennol y BBC yn golygu bod y sefydliad yn adlewyrchu anghenion Cymru o ran y Gymraeg, natur ddatganoledig y wlad nac amrywiaeth ein cymunedau gwledig a dinesig. Yn ôl arolwg barn a gynhaliwyd gan Gomisiwn Silk, roedd 58% o’r boblogaeth yn cefnogi datganoli darlledu, sy’n uwch na nifer o feysydd eraill. Dylid datganoli darlledu yn ei gyfanrwydd i Gymru a ffederaleiddio’r BBC fel bod BBC Cymru yn gwbl atebol i bobl Cymru.

4. Cefnogaeth i sefydlu darlledwr Cymraeg newydd sy’n annibynnol o’r BBC

4.1. Mae Prif Weinidog yr Alban ac RTE yn Iwerddon yn ddiweddar wedi amlinellu cynlluniau ar gyfer rhagor o wasanaethau yn eu gwledydd nhw: dylai fod gwasanaeth aml-lwyfan ychwanegol yn Gymraeg felly.

4.2. Nid oes modd dibynnu ar y BBC i ddarparu’r gwasanaeth ychwanegol hwn ar gyfer y Gymraeg. Roedd hynny’n glir o bwyslais diweddar Cyfarwyddwr Cyffredinol y BBC ar ehangu darpariaeth Brydeinig y BBC ynghyd â darpariaeth Gwasanaeth y Byd, yn hytrach na’r gwasanaeth ar gyfer yr iaith Gymraeg. Mae gwir angen plwraliaeth yn y cyfyngau yng Nghymru, yn enwedig felly yn y Gymraeg. Mae angen ail wasanaeth Cymraeg sy’n annibynnol o’r BBC felly, ond dylai’r BBC gynnig cymorth er mwyn sefydlu’r gwasanaeth newydd.

4.2. Mae twf aruthrol wedi bod mewn gwasanaethau Saesneg ers degawdau, ond toriadau i wasanaethau Cymraeg, megis cwtogi oriau radio Cymru, yn enwedig gan y BBC. Mae'r dewis o sianeli teledu Saesneg ar gael yng ngwledydd Prydain wedi tyfu ymhell dros 450 ac mae hefyd dros 600 o orsafoedd radio yn darlledu yn Saesneg. Er y twf hwn dros y blynyddoedd diwethaf, dim ond un sianel teledu ac un orsaf radio Cymraeg sydd o hyd, y lleiafswm sy'n cael ei ganiatáu o dan gytundeb Ewropeaidd ar ieithoedd llai.

5. Buddsoddi rhagor yn Radio Cymru

5.1. Hoffem ddatgan yn glir bod Radio Cymru yn wasanaeth pwysig iawn ac y byddwn ni’n gwneud popeth yn ein gallu i amddiffyn yr unig orsaf radio genedlaethol Gymraeg, gan ei bod yn chwarae rhan hanfodol yn y gwaith o gynnal y Gymraeg. Mae Radio Cymru yn unigryw gan mai hi yw’r unig orsaf radio genedlaethol Cymraeg ei hiaith tra bo nifer fawr o wasanaethau Saesneg cyfatebol.

5.2. Gwelwn fod y sianel eisoes yn dioddef diffyg adnoddau – mae’n darlledu llai o oriau y dydd na Radio Wales, er enghraifft. Mae angen ehangu’r gwasanaethau ar bob llwyfan er mwyn eu cryfhau ac mae angen i reolwyr y BBC fod yn llawer iawn mwy uchelgeisiol yn hynny o beth, yn hytrach na rheoli dirywiad yn unig. Gellid gwneud llawer mwy arlein i gefnogi rhaglenni, i farchnata’n fwy effeithiol, ac i greu cynnwys gwreiddiol.

6. Pwysigrwydd BBC Cymru Fyw a gwasanaethau arlein yn Gymraeg

6.1. Dylid buddsoddi rhagor mewn gwasanaethau arlein y BBC yn Gymraeg. Mae’r ddarpariaeth Saesneg yn llawer mwy sylweddol na’r hyn sydd ar gael yn Gymraeg, ac nid oes gwasanaeth chwaraeon ar-lein digonol ar gael yn Gymraeg. Nid yw’r ddadl bosib ynghylch dyblygu darpariaeth arlein gan ddarparwyr eraill - sy’n codi yng nghyswllt gwasanaethau Saesneg ar-lein y BBC - yn berthnasol o gwbl pan ddaw at ddarpariaeth Cymraeg felly.

7. Prif-ffrydio’r Gymraeg ar draws rhwydwaith y BBC

7.1. Credwn fod diffyg presenoldeb y Gymraeg ar wasanaethau Saesneg y BBC. Dylai fod lleiafswm o ran y ganran o gerddoriaeth Gymraeg y mae’n rhaid i Radio Wales ei chwarae, a dyletswyddau eraill ar holl blatfformau’r BBC o ran darparu gwasanaethau yn Gymraeg, gan gynnwys darpariaeth ar gyfer dysgwyr. Nid lle Radio Cymru yw darparu ar gyfer dysgwyr, ond cyfrifoldeb gwasanaethau eraill y BBC.

8. Presenoldeb a Chefnogaeth i ddigwyddiadau Cymraeg eu hiaith

8.1. Mae’r BBC yn chwarae rôl bwysig wrth ddarlledu nifer o ddigwyddiadau Cymraeg eu hiaith. Mae’n hollbwysig bod hynny’n parhau, gan gynnwys darllediadau llawn o Eisteddfod yr Urdd a’r Eisteddfod Genedlaethol.  

8.2. Gresynwn nad oes pabell gan y BBC yn Eisteddfod yr Urdd sy’n agored i’r cyhoedd. Credwn y dylai fod gan y BBC bresenoldeb gwell yn Eisteddfod yr Urdd a hynny’n gwbl ar wahân i bresenoldeb S4C yn yr ŵyl.   

9. Datblygu Gwasanaethau Newydd

9.1. Dylai’r BBC sicrhau bod unrhyw fentrau newydd y mae’r gorfforaeth yn ymgymryd â nhw yn prif-ffrydio’r Gymraeg.

10. Treth newydd er mwyn ychwanegu at gyllid darlledu Cymraeg  

Mae darlledwyr cyhoeddus yng ngwledydd Prydain wedi dioddef toriadau mawr yn eu cyllid yn ystod y pum mlynedd diwethaf. Yn ystod yr un cyfnod, ac er gwaethaf y dirwasgiad, mae darlledwyr preifat, megis British Sky Broadcasting (Sky) ac ITV, wedi gweld cynnydd mawr yn eu helw. Mae llwyfannau ar-lein, megis Google a Facebook, hefyd yn parhau i weld cynnydd mawr yn eu trosiant blynyddol, ac yn defnyddio strwythurau busnes cymhleth er mwyn osgoi talu trethi llawn i‘r llywodraeth.

Yn 2013, gwelodd cwmni Google gynnydd yn ei incwm yng ngwledydd Prydain i £3.4 biliwn (sy’n gynnydd o 15.5% ar 2012). O gymharu, casglwyd £3.65 biliwn trwy ffi drwydded y BBC yn ystod yr un adeg. Mae hyn yn awgrymu bod incwm Google yng ngwledydd Prydain yn gyfuwch â’r arian a gasglwyd trwy’r ffi drwydded yn 2014. Mae’r rhan fwyaf o gyllid Google yn dod trwy hysbysebion: 96% yn 2011 ac, er gwaethaf ei enillion sylweddol, dim ond £11.2m o dreth gorfforaethol a dalwyd gan Google yn 2012.

Mae cwmnïau megis TalkTalk, EE (Orange/T-Mobile), Sky Broadband a Virgin Media yn parhau i weld cynnydd sylweddol yn eu helw. Mae ffigyrau'r Swyddfa Ystadegau Gwladol o 2013 yn awgrymu bod gan 21 miliwn o gartrefi yng ngwledydd Prydain fynediad i’r rhyngrwyd. Maent hefyd yn nodi bod mynediad i’r rhyngrwyd drwy ffonau symudol wedi mwy na dyblu rhwng 2010 a 2013, o 24% i 53%. Yn seiliedig ar y ffigwr uchod, byddai ardoll ar gyfradd unffurf o £5 yn flynyddol fesul pob tanysgrifiwr yn codi £105 miliwn.

Mae’r ffigyrau uchod yn dangos yn glir y symiau o arian sy’n llifo trwy ddwylo’r cwmnïau preifat. Trwy osod ardoll yn uniongyrchol ar drosiant neu elw’r darparwyr gwasanaethau rhyngrwyd a’r cwmnïau telathrebu, gellir sicrhau ffynhonnell sylweddol o gyllid ychwanegol ar gyfer darlledu cyhoeddus.

Rydym yn argymell codi ardoll ar gwmnïau darlledu a thelathrebu, a hefyd ar hysbysebwyr, er mwyn ychwanegu at y cyllid presennol i ddarlledu cyhoeddus yn y Gymraeg ac er mwyn sefydlu gwasanaeth amlgyfryngol newydd. Mae gan system o ardollau botensial i godi symiau sylweddol ychwanegol er mwyn ariannu darlledu cyhoeddus. Ni fyddai’r Deyrnas Unedig yn torri tir newydd yn hyn o beth. Mae ardollau o’r fath yn bodoli mewn gwledydd ar draws y byd, ac yn fecanwaith sefydledig ar gyfer cyllido cynnwys a gwasanaethau cyfryngol. Ar lefel Brydeinig, gallai cyfuniad o’r trethi neu’r ardollau hyn, ar gyfradd gymharol isel, sef 1% neu lai, godi ymhell dros £200 miliwn y flwyddyn, gan greu incwm ychwanegol o ymhell dros £10 miliwn y flwyddyn ar lefel Gymreig.

11. Casgliadau

Os mai nod y BBC yw hysbysu, addysgu a difyrru, yna mae yna ddyletswydd glir arnoch felly i gefnogi twf yn nifer, ystod ac ansawdd allbwn Cymraeg ei iaith. Dim ond un iaith sydd â statws swyddogol yng Nghymru - sef y Gymraeg - ac ar hyn o bryd nid yw’r iaith leiafrifol hon yn dwyn eich sylw yn ddigonol, nac ychwaith yn derbyn y buddsoddiad sy’n angenrheidiol i’w chryfhau.

Medi 2015

Grŵp Digidol, Cymdeithas yr Iaith Gymraeg