Bil Cyllido Gofal Plant - Ymateb

Bil Cyllido Gofal Plant

Ymateb Cymdeithas yr Iaith

1.Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn fudiad sy'n ymgyrchu'n ddi-drais dros y Gymraeg a holl gymunedau Cymru.

Pryder am gyfyngu'r cynllun i rieni mewn gwaith yn unig

2. Anghytunwn gyda chynnig y Llywodraeth i gyfyngu'r cynllun gofal plant am ddim i rieni mewn gwaith yn unig. Er mwyn taclo tlodi ac anghyfiawnder cymdeithasol, dylai'r cynllun fod yn un hollgynhwysol. Nid yw'n glir sut mae'r Llywodraeth yn cyfiawnhau talu am ofal plant i rieni mewn gwaith, ond i beidio â thalu am ofal plant rhieni sydd, er enghraifft, yn ddi-waith o achos anabledd neu eu bod yn gofalu am eraill. Fel y saif, credwn fod y Bil yn camwahaniaethu yn erbyn rhai o'r teuluoedd tlotaf. Cytunwn yn gryf gyda sylwadau'r Comisiynydd Plant yn hyn o beth.

Darpariaeth Cyfrwng Cymraeg  

3.  Dylid nodi bod y maes hwn yn hanfodol o ran sicrhau bod Llywodraeth Cymru yn cyflawni ei tharged o gyrraedd miliwn o siaradwyr erbyn canol y ganrif. Mae penderfyniadau am drosglwyddiad y Gymraeg o fewn teulu yn hollbwysig i ffyniant y Gymraeg. Yn ogystal, mae darpariaeth gofal ac addysg blynyddoedd cynnar yn ddylanwadol iawn o ran gallu plant i ddod yn rhugl eu Cymraeg ynghyd â dylanwadu ar benderfyniadau rhieni i barhau ag addysg cyfrwng Cymraeg.  

4. Ymhellach, mae adolygiad brys annibynnol Aled Roberts o'r gyfundrefn Cynlluniau Strategol y Gymraeg mewn Addysg, a wnaed ar ran Llywodraeth Cymru, yn nodi pwysigrwydd y maes hwn gan ddatgan ei bod yn "amlwg wrth edrych ar y canrannau uchel sydd yn trosglwyddo rhwng lleoliadau cyn-ysgol cyfrwng Cymraeg a'r gyfundrefn addysg cyfrwng Cymraeg lleol bod cyswllt penodol rhwng cynyddu darpariaeth cyn-ysgol cyfrwng Cymraeg a llwyddiant unrhyw strategaeth ar gyfer 2050."  

Rhai o brif argymhellion yr adolygiad brys oedd:

"Cryfhau'r berthynas strategol rhwng llywodraeth leol a'r Mudiad Meithrin er mwyn sicrhau twf ar lefel pob sir fydd yn cyfrannu at dargedau cenedlaethol Llywodraeth Cymru ar hyd y daith hyd at 2050.

"Llywodraeth Cymru i gynllunio darpariaeth Gymraeg ddigonol yn y cynnig gofal plant 30 awr gan ystyried ei effaith arfaethedig ar batrymau darpariaeth leol"

5. Sylweddolwn fod y Llywodraeth yn dadlau y dylai'r holl fanylion fynd mewn is-reoliadau, ond teimlwn, heb sicrwydd ar wyneb y Bil, mai darpariaeth dameidiog yn unig yn Gymraeg y gwelwn ar lawr gwlad.    

6. Mae'n bwysig nodi, er bod Safonau'r Gymraeg yn ei wneud yn ofynnol i Lywodraeth Cymru ystyried effaith eu polisïau ar y Gymraeg, ni fyddant, heb ddarpariaeth benodol yn y Bil hwn, yn sicrhau hawliau a dyletswyddau i dderbyn a darparu gofal plant cyfrwng Cymraeg.   

7. Credwn fod y peryglon o ddisgwyliadau isel ac amodau Cymraeg gwan yn glir iawn wrth ddarllen paragraffau 47 a 48 "Y Cynnig Gofal Plant - Canllawiau i Awdurdodau Lleol sy'n Weithredwyr Cynnar" - dogfen mae'r Llywodraeth yn datgan y bydd yn sail 'i lunio'r cynllun gweinyddol yn y dyfodol'. Mae'r canllawiau hynny, er gosod nifer o amodau hanfodol ar ddarparwyr gofal plant dim ond yn "eu hannog i ... rhoi darpariaeth ac adnoddau dwyieithog neu Gymraeg, lle y bo'n bosibl". Felly, mae'n glir o'r canllawiau gweithredu cynnar nad yw'r Llywodraeth yn bwriadu gwarantu darpariaeth gofal plant drwy gyfrwng y Gymraeg ledled y wlad neu greu hawl i rieni ei dderbyn.  

8. Felly, credwn y dylai'r Bil:

  • Sefydlu hawl ddiamod i rieni dderbyn gofal plant cyfrwng Cymraeg, a hynny ym mhob rhan o Gymru;
  • Gosod amod ar bob darparwyr, ym mhob rhan o Gymru, i ddarparu gwasanaethau gofal plant drwy gyfrwng y Gymraeg fel rhan o sicrhau mai Cymraeg yw prif gyfrwng iaith darpariaeth gofal plant sy'n gyson â pholisi'r Llywodraeth o brif-ffrydio'r Gymraeg yn y cyfnod sylfaen;
  • Yn unol ag ysbryd Mesur y Gymraeg 2011, dylid gosod dyletswydd ar ddarparwyr i hybu trosglwyddiad y Gymraeg ymysg y teulu a gwneud y Gymraeg yn opsiwn diofyn unrhyw ddarpariaeth gofal plant  

9. Credwn ymhellach bod angen i'r Llywodraeth esbonio sut y bydd yn cyllido rhaglenni cynllunio'r gweithlu gofal ac addysg plant fel bod cynnydd sylweddol yn y cyflenwad o weithwyr sy'n darparu drwy gyfrwng y Gymraeg, sy'n cynnwys mesurau i roi mwy o statws iddo fel proffesiwn (e.e. drwy well cyflogau ac amodau gwaith) fel ei bod hi'n fwy deniadol.  

Swyddogaethau Cyllid a Thollau

10. Pryderwn am yr opsiwn a ffefrir gan y Llywodraeth o weithredu rhannau o'r cynllun drwy Gyllid a Thollau Ei Mawrhydi gan nad ydyn nhw fel corff yn dod dan y gyfundrefn Safonau ei hun. Yn ogystal, fel sefydliad Prydeinig gyda'i bencadlys tu allan i Gymru, mae'n llai tebygol o allu deall anghenion y Gymraeg ac arfer da. Nid felly dyna'r opsiwn gorau o ran sicrhau darpariaeth Gymraeg gadarn.  

Grŵp Addysg, Cymdeithas yr Iaith

Mai 2018