Canllaw Gweithredu Uniongyrchol (Bust)

Cyn y weithred

  • Cofiwch taw mudiad Di-drais yw Cymdeithas. Hynny yw rydym yn gwneud y penderfyniad i weithredu ac yna yn derbyn y canlyniadau. Ni ddylid ymateb i unrhyw sefyllfa gyda thrais neu eiriau bygythiol (hyd yn oed yn wyneb ymddygiad amhriodol gan yr heddlu, staff diogelwch na’r cyhoedd) yn ôl y Dull Di Drais.

  • Yn dibynnu ar y weithred dylid cymryd bwyd, dillad addas, rhif ffôn rhywun i gysylltu â nhw, ynghyd â chopi o’r cerdyn yma

  • Peidiwch â mynd â’ch ffôn symudol os gallwch osgoi hynny. Byddai’r heddlu yn gwerthfawrogi cael eu dwylo ar yr holl rifau, negeseuon a gwybodaeth ynddo (mae hawl gyda nhw cadw eich ffôn fel tystiolaeth)

  • Peidiwch â mynd ag unrhyw ddeunydd sensitif megis dyddiaduron a.y.b.

Ar gael eich arestio

  • Trïwch beidio â chyffroi ac esboniwch i’r swyddog sy’n arestio pam yr ydych wedi gweithredu. Os ydych yn cadarnhau eich enw a’ch cyfeiriad bydd hyn yn cyflymu’r proses o ryddhau. Peidiwch â thrafod unrhyw fanylion am y weithred e.e. pwy arall oedd yna, pwy drefnodd a.y.b. Gall unrhyw beth dych chi’n dweud cael ei ddefnyddio yn eich herbyn chi a/neu bobol eraill.

Yn yr Orsaf Heddlu

  • Mae’r hawl gyda chi i siarad gyda chyfreithiwr yn rhad ac am ddim dros y ffôn neu mewn person.

  • Mae’r hawl gennych i hysbysu rhywun o’ch arést

  • Mae’r hawl gyda chi i gadw’n ddistaw, does DIM gorfodaeth arnoch i siarad â’r heddlu. Awgrymir eich bod yn ateb ‘Dim sylw’ i bob cwestiwn hyd yn oed os mae’r heddwas yn honni ei fod yn eich ffrind gorau(!).

  • Os ydych yn penderfynu siarad, siaradwch am eich gweithredoedd chi YN UNIG. Peidiwch â siarad am unrhyw un arall.

  • Fe allwch gael eich chwilio

  • Dywedwch wrth yr heddlu os oes angen meddyginiaethau neu feddyg arnoch chi

  • Gellir cymryd eich llun heb ganiatâd

  • Gellir cymryd eich olion bysedd a DNA dim ond ar ôl i chi cael eich arestio am drosedd cofrestradwy (ddim ‘Obstruction of the Highway’ neu ‘Breach of the Peace)

Yn y ddalfa mae hawl gyda chi i’r canlynol: llyfryn yn manylu eich hawliau yn llawn, diodydd poeth, 3 pryd o fwyd pob 24awr, blanced a gobennydd, papur a phen.

Cofiwch gall pobol, a’r heddlu, ymateb yn bositif i rhywun sydd yn ymddwyn yn gall a ddi-fygythiad. Ein arfau pwysicaf yw ein ymwrthodaeth a thrais a chyfiawnder ein achos. Rydym yn ennill beth bynnag y canlyniad.