CSGA Powys

Cynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg Powys 2017-2020

Mae'r Cyngor yn ymgynghori yma tan Ionawr 25ain: http://www.powys.gov.uk/cy/corfforaethol/dod-i-wybod-am-ymgynghoriadau-ym-mhowys/cynllun-strategol-y-gymraeg-mewn-addysg-csga/

Gellid ymateb trwy ebostio school.consultation@powys.gov.uk

Ymateb Cymdeithas yr Iaith Gymraeg

[PDF]

Sylwadau cyffredinol
Credwn fod gwendidau sylfaenol yn y cynllun, a ni ddylid ei dderbyn heb ei gryfhau gyda thargedau mwy uchelgeisiol a chamau gweithredu fwy pendant.
Credwn yn fod y Gymraeg yn berchen i bob person ifanc yng Nghymru. Mae cynllun drafft cyngor Powys yn nodi: “Mae’r awdurdod yn dyheu am ddatblygu seilwaith sy’n galluogi pob disgybl i fanteisio ar ddarpariaeth lawn yn y Gymraeg neu’r Saesneg gydol eu gyrfaoedd addysgol, gan sicrhau bod dysgwyr cyfrwng Cymraeg yn cael y cyfle i lwyr-ymdrochi yn y Gymraeg, i sicrhau eu bod yn gwbl ddwyieithog ac yn hyderus i gyfathrebu yn y Gymraeg a’r Saesneg pan maent yn gadael yr ysgol.” - heb weledigaeth ehangach, nid yw agwedd o'r fath yn dderbyniol, gan ei fod yn awgrymu y bydd mwyafrif helaeth bobl ifanc y Sir yn cael eu hamddifadu o'r cyfleoedd a'r sgiliau hanfodol hyn.

Mae angen gweithio tuag at alluogi pob disgybl i fanteisio ar ddarpariaeth lawn yn y Gymraeg a'r Saesneg, ac mae angen sicrhau dros amser bod pob dysgwr yn cael y cyfle i lwyr-ymdrochi yn y Gymraeg, gan fod bod yn gwbl ddwyieithog ac yn hyderus i gyfathrebu yn y Gymraeg a’r Saesneg pan maent yn gadael yr ysgol yn rhywbeth na ddylid eu hamddifadu neb ohono. Hawl i bawb dylai Addysg Gymraeg fod, nid opsiwn amgen, ac mae angen targedau llawer iawn mwy uchelgeisiol er mwyn adlewyrchu hynny.
   
Yn ymarferol, mae hyn yn meddwl bod angen (i) targedau uchelgeisiol* er mwyn cynyddu'r niferoedd sy'n derbyn addysg Gymraeg; a (ii) symud pob ysgol yn y Sir, gan gynnwys yr holl ysgolion cyfrwng Saesneg a dwy ffrwd, ar hyd y continwwm iaith.

Ymateb i bwyntiau penodol yn y cynllun
Mae’r ddogfen yn nodi: “Mae’r rhan fwyaf o Benaethiaid Ysgolion wedi adnabod amseroedd penodol ar gyfer ymwybyddiaeth iaith Gymraeg a/neu wella sgiliau iaith Gymraeg yn eu Rhaglenni Dysgu ar gyfer 2014-15.” Mae angen gwybod yn union beth yw’r cynlluniau ar gyfer gweithredu hyn gan nad yw’r ddogfen yn nodi hyn. Mae angen buddsoddiad er mwyn cynyddu nifer staff ysgolion sy’n gwella eu sgiliau iaith, a darparu cyrsiau dwys yw’r unig ateb.

Mae’r ddogfen hefyd yn nodi  “Mae ysgolion wedi adrodd am anawsterau wrth recriwtio cynorthwywyr sydd â sgiliau iaith Gymraeg addas” ac felly mae angen buddsoddiad yn y maes gofal plant ym Mhowys ac yn wir ar draws y sbectrwm dysgu. Gallai hyn ddigwydd drwy gydweithio’n agosach gyda Y Ganolfan Dysgu Cymraeg Cenedlaethol. Roedd y Cyngor wedi torri gwasanaeth 'Cam Wrth Gam' oedd yn darparu dysgu Gofal Plant drwy gyfrwng y Gymraeg ym mlynyddoedd 10, 11  a'r Chweched Dosbarth. Roedd hyn yn sicrhau bod myfyrwyr yn cael trosglwyddiad syth i'r maes fel gweithwyr cymwysedig  yn y sector Gofal Plant yn eu cymunedau lleol. Daeth y cynlluniau hyn i ben yn 2013 yn ysgol Llanfyllin a Llanfair Caereinion, ac yn 2016 yn Ysgol Bro Hyddgen Machynlleth. Mae tystiolaeth felly yn dangos bod Cyngor Sir Powys wedi dileu cynnydd yn y maes yma yn ystod y blynyddoedd diwethaf ac mae angen gweithredu ar frys i sicrhau gwyrdroi hyn.
Yn wyneb colli gwasanaeth TWF ym Mhowys ac yn genedlaethol mae angen sicrhau bod Cyngor Sir Powys yn creu ymgyrch hyrwyddo addysg Gymraeg o’r crud  yn ogystal â thargedu rhieni ysgolion cynradd ar draws Powys ond yn benodol yn Trallwng a Drenewydd i gyd fynd gyda sefydlu ysgolion cynradd ac uwchradd newydd yn yr ardal. Gan fod nifer o drigolion Pwylaidd yn byw yn yr ardaloedd hyn, mae angen hefyd gwneud siwr bod yna ddeunydd hyrwyddo yn yr iaith Bwyleg.
*Siomedig iawn yw’r cynnydd disgwyliedig mewn addysg Gymraeg yn yr adroddiad, ac mae angen bod yn llawer mwy uchelgeisiol. Mae'r cynnydd o 0.5% yn flynyddol o blant 7 oed yn cael eu hasesu yn Gymraeg yn y cynllun drafft yn rhy geidwadol o lawer – fyddai'n cymryd dros 160 o flynyddoedd i ddarparu addysg  gynradd Gymraeg i blant y Sir ar y gyfradd yna. Yn waeth na hynny, mae'r cynllun yn rhagweld na fydd unrhyw gynnydd o gwbl yn y ganran o blant sy'n cael eu hasesu yn Gymraeg ym mlwyddyn 9 rhwng 2016 a 2020 – mae hynny'n gwbl warthus ac mae angen ail-ysgrifennu'r cynllun er mwyn sicrhau twf mewn addysg uwchradd cyfrwng Cymraeg yn y Sir.  Rhaid  pwysleisio’r angen ar frys i agor canolfan hwyrddyfodiaid ym Mhowys, ar gyfer disgyblion cynradd ac uwchradd gan ddilyn esiampl Gwynedd wrth gynnwys y teulu cyfan yn eu darpariaeth.

Dengys y ffigyrau ar dudalennau 36-37 fod gwendidau sylweddol yn y ddarpariaeth uwchradd cyfrwng Cymraeg presennol yn ogystal, gyda 98% o ddysgwyr 16-19 oed mewn ysgolion yn astudio yn uniaith Saesneg a dim ond 22 unigolyn y flwyddyn yn gwneud hynny yn Gymraeg. Dim ond 52% o fyfyrwyr sy'n astudio'r Gymraeg fel Iaith Gyntaf ar lefel TGAU yn astudio eu pynciau eraill trwy gyfrwng y Gymraeg. Eto, mae angen anelu at gynnydd llawer cyflymach na 0.5% yn flynyddol – mae'r rhain yn wendidau systematig sy'n rhaid mynd i'r afael â nhw.

Rydym yn croesawu'r amcan i ddarparu gwell gyfleoedd i hwyrddyfodiaid, ac yn benodol i sefydlu darpariaeth trochi; ond mae angen ymrwymiad mwy pendant, ac amserlen llawer iawn yn gynt na'r hyn a roddir yn 2.5 – mae angen cytuno cyn gynted â phosib ar leoliad canolfan, a gosod dyddiad y bydd y ddarpariaeth ar gael, a hynny o fewn oes y cynllun.
Cam arwyddocaol i gynyddu niferoedd fyddai i newid categori iaith yr ysgolion uwchradd fel bod addysg Gymraeg yn cael ei ddarparu. Fe'n hysbyswyd yn ddiwedd am siom mam sydd a'i phlentyn ym mlwyddyn 9 ysgol Llanfyllin ac sydd wedi cael budd mawr o gynllun Trochi'r ysgol, wrth ddatgan bod y gwasanaeth yma wedi dod i ben yn 2016 . Mae hyn yn gam mawr yn ôl ac mae angen gwirio hyn ar frys.

Ymhellach, mae angen hyrwyddo astudio pynciau 'anhraddodiadol' drwy'r Gymraeg ar lefel TGAU a Safon Uwch, megis Mathemateg, Ffiseg, Bioleg, Cyfrifiadura a Chemeg. Mae ymchwil yn dangos nad yw bobl ifainc sy'n cyrraedd y brifysgol heb astudio pwnc eu gradd drwy'r Gymraeg ar gyfer TGAU a Safon Uwch yn dewis y ddarpariaeth Gymraeg iddynt yn y Brifysgol. Mae hyn yn eu hamddifadu o fanteision addysg uwch drwy'r Gymraeg, megis ysgoloriaethau sy'n agored i fyfyrwyr sy'n astudio drwy'r Gymraeg (gan sefydliadau addysg uwch unigol a'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol), cynllun profiad gwaith y Coleg Cymraeg a buddion gyrfaol. Er enghraifft, mae ystadegau DHLE (Cyrchfannau Ymadawyr Addysg Uwch) yn dangos bod graddedigion sy'n astudio drwy'r Gymraeg yn fwy tebygol o fod mewn gwaith/addysg bellach a mewn swydd raddedig/addysg ôl-raddedig chwe mis ar ôl graddio na myfyrwyr sy'n medru'r Gymraeg sydd ddim wedi astudio'n Gymraeg a myfyrwyr di-Gymraeg. Felly, mae angen mwy o bwyslais ar ddilyniant i addysg uwch a'r byd gwaith. Mae'r ddogfen yn crybwyll hyrwyddo'r buddion gyrfaol o gael addysg drwy'r Gymraeg ond nid yw'n gwneud yn glir bod y buddion hyn yn gysylltiedig â pharhau ag addysg Gymraeg hyd lefel ôl-raddedig. Mae angen gwneud rhieni yn ymwybodol o bwysigrwydd dilyniant.

Er mwyn llenwi bylchau o safbwynt creu gweithlu mae angen i Gyngor Sir Powys mynd i’r afael ar frys i ddenu staff sy'n siarad Cymraeg ond dysgu dros Glawdd Offa (Swydd Henffordd neu Amwythig er enghraifft) yn ôl i Bowys a’u cefnogi i feithrin hyder dysgu yn y Gymraeg.

Er mwyn bod yn llawer mwy llwyddiannus mewn allbynau mae angen gweithredu continiwwm addysg Gymraeg o’r ysgolion cynradd i’r Uwchradd. Fel Bro Ddyfi bydd angen gweld ysgolion dwy ffrwd yn newid i fod un ffrwd Gymraeg. Yn ogystal â chodi statws yr iaith, bydd hyn yn gwella'r sylfaen i fedru darparu addysg uwchradd gwell a chodi hyder a dileu ofnau posib rhieni. Mae’n hanfodol nad yw toriadau ariannol yn arwain at uno dosbarthiadau Cyfnod Sylfaen mewn ysgolion dwy ffrwd  - er enghraifft Llanrhaeadr, Llanfyllin a Trefonnen. Yn y Cyfnod Sylfaen gosodir sylfaen gadarn ar gyfer eu haddysg Gymraeg ac felly mae canlyniad o’r fath yn hollol anfoddhaol.

Casgliad

Mae’n hanfodol bod Cyngor Sir Powys yn sicr, uchelgeisiol a hyderus o ran ei ymrwymiad i addysg Gymraeg yn y Sir, ac nid yw hyn yn cael ei adlewyrchu yn y ddogfen hon fel y mae.
Mae angen buddsoddiad mawr er mwyn gweld addysg Gymraeg yn ffynnu ym Mhowys – gan gynnwys cynllun hyrwyddo gyda thargedau penodol; ymrwymiad i symud holl ysgolion y Sir ar hyd y continwwm iaith; a chynlluniau o fewn oes y cynllun i sefydlu rhagor o ysgolion Cymraeg a chanolfannau trochi gydag amserlen bendant.