Cwyn am ddiffyg gwersi nofio Cymraeg

Annwyl Gomisiynydd y Gymraeg,

Ysgrifennaf gwyn swyddogol ar ran nifer o aelodau Cymdeithas yr Iaith ac ar ran pobl Cymru yn gyffredinol ynghylch diffyg cydymffurfiaeth cynghorau â'r Safonau ynghylch cynnig cyrsiau addysg. 

Atodaf ymchwil rydym wedi ei wneud o bob cyngor sir a nifer o ganolfannau hamdden sy'n dangos bod nifer fawr o awdurdodau lleol yn torri Safon 84.

Fel y gwyddoch, diben yr hawliau newydd yw hybu defnydd y Gymraeg; prin bod enghraifft mwy diriaethol na gwersi nofio Cymraeg, yn enwedig y rhai ar gyfer plant a phobl ifanc. Mae'n hawl newydd y dylem allu ei ddathlu. Yn anffodus, rydym yn gorfod cyflwyno cwyn ffurfiol ar ran yr holl bobl sydd wedi cael eu hatal rhag defnyddio'r hawliau newydd hyn. Mae'n glir bod nifer o gynghorau yn torri'r dyletswyddau hyn sydd i fod i ehangu defnydd y Gymraeg ym maes chwaraeon.

Gofynnwn i chi gynnal ymchwiliad i mewn i'r sefyllfa yn gyffredinol, gan atgoffa pob cyngor sir o'r angen iddynt gynnig gwersi nofio yn Gymraeg, a hynny'n rhagweithiol. Mae'n glir bod amrywiaeth fawr o ran sut mae cynghorau yn dehongli'r gyfraith newydd, ac yn y rhan fwyaf o achosion maent yn eu dehongli mewn ffordd sy'n ceisio osgoi gwella eu darpariaeth a chan rhoi baich ar yr unigolyn i ofyn am wasanaeth Cymraeg.

Nodwn ymhellach bod dyletswydd hefyd ar gynghorau i sicrhau fod pobl yn ymwybodol o'u hawliau newydd. Mae'n amlwg o'r ymatebion rydym wedi eu derbyn bod nifer o gynghorau, yn hytrach na chodi ymwybyddiaeth o'r hawliau, yn gwadu eu bod yn bodoli.

Ymhellach, hoffem ofyn yn benodol am eich barn am gyfreithlondeb polisi Sir Fynwy a ddatgenir isod:

"Ar hyn o bryd does dim dosbarthiadau yn cael I redeg [sic] trwy’r gyfrwng Gymraeg (ond  y wersi [sic] yn y ddwy Ysgol Gymraeg) achos yn y gorffennol does neb wedi gofyn am hwn. Ond yn y dyfodol  os mae bobl eisiau dosbarthiadau trwy’r gyfrwng Gymraeg (trwy lanw mewn y ffurflen gais) bydd asesiad yn cael I wneud [sic] fel y nodir yn  Safonau 84 a 86 sy’n perthnasol i Sir Fynwy."

Credwn fod polisi Cyngor Sir Fynwy yn anghyfreithlon gan nad yw'n cynnig pob cwrs yn Gymraeg, oni cheir asesiad nad oes galw amdano. Yn hytrach, maent yn datgan nad oes yr un cwrs ar gael yn Gymraeg oni wnaed cais sydd wedyn yn arwain at asesiad. Hoffem i chi egluro i'r Cyngor ac i ninnau a yw'r polisi yn cydymffurfio â'r Safonau. 

Gan ystyried y dryswch, amrywiaeth a diffyg cydymffurfiaeth, hoffem awgrymu eich bod yn cynnal ymchwiliad i mewn i hyn gan hefyd gyhoeddi cod ymarfer ar y Safonau hyn er mwyn dileu unrhyw amheuaeth ym meddwl cynghorau a'r cyhoedd ynghylch yr hawliau newydd.

Yr eiddoch yn gywir,

Manon Elin

Cadeirydd Grŵp Hawl, Cymdeithas yr Iaith Gymraeg