Cwynion am ymgynghoriad Bil y Gymraeg

 

Cwyn Cymdeithas yr Iaith - 29/1/2018

Annwyl Weinidog,

Ysgrifennaf atoch chi er mwyn gwneud cwyn swyddogol am y crynodeb o ymatebion i'r ymgynghoriad ar y papur gwyn ynghylch Bil arfaethedig y Gymraeg.

Isod, rydym yn codi cwestiynau am broffesiynoldeb, gonestrwydd a gwrthrychedd eich adran.

Nodir ym mharagraff 3.6 y cyfrir yr ymatebion a dderbyniwyd drwy ymgyrchoedd unwaith yn unig. Drwy ddiystyru ymatebion 275 o unigolion – sydd dros hanner yr ymatebwyr - gan gynnwys 45 ymateb gan y cyhoedd ar bapur ar y sail eu bod yn 'rhan o ymgyrch', credwn eich bod yn gwneud cam mawr â'r bobl a anfonodd ymatebion i'r cynigion a'r broses o ymgynghori ar gynigion y Llywodraeth.

Er gwaethaf holl ymdrechion y Llywodraeth i lywio'r ymatebion rydym yn manylu arnynt isod, mae hyd yn oed eich ffigyrau chi yn dangos bod 56% o'r ymatebwyr naill ai'n anghytuno neu'n ansicr am gynnig i ddisodli Comisiynydd y Gymraeg gyda chorff arall, sef yr ymatebion i gwestiwn 3. Yn ogystal, bu'n rhaid i chi gyfaddef bod barn ymatebwyr 'yn rhanedig'. Fodd bynnag, wrth ystyried yr holl ymatebion, gan gynnwys y rhai oedd yn 'rhan o ymgyrch', rydym yn amcangyfrif bod dros 70% o'r ymatebwyr yn gwrthwynebu'r prif gynnig i ddiddymu'r Comisiynydd yng nghwestiwn 3. Yn wir, rydym yn tybio bod bron pob un o'r cynigion yn y papur wedi'u gwrthod os ystyrir yr holl ymatebion i'r ymgynghoriad.

Hoffwn ofyn i chi ail-gyhoeddi'r ystadegau cywir er mwyn rhoi gwybodaeth gywir i'r rhai a fydd yn gwneud penderfyniadau ac yn rhan o drafodaeth ynghylch deddfwriaeth arfaethedig dros y misoedd nesaf. Credwn fod rheidrwydd arnoch i oedi unrhyw gyhoeddiadau pellach ar y Bil nes bod y gŵyn hon wedi'i datrys.

Er gwybodaeth i chi, mae gan eich adran hanes o geisio gogwyddo ymgynghoriadau ar y mater yma yn erbyn barn a buddiannau'r cyhoedd. Cynhaliwyd nifer o weithdai er mwyn paratoi ar gyfer y papur gwyn am Fil y Gymraeg, a gwaharddwyd y cyhoedd o bob un o'r gweithdai hynny.

Yn ogystal, er gwybodaeth, byddwn yn gwneud cwyn swyddogol wrth Gomisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol am i chi weithredu'n groes i egwyddorion Deddf Cenedlaethau’r Dyfodol wrth gynnal a chrynhoi'r ymatebion i'r ymgynghoriad.

Rydym yn cwyno am y materion canlynol:

(i) eich bod wedi anwybyddu dros hanner yr ymatebion i'r ymgynghoriad sy'n golygu bod yr ystadegau yn y ddogfen yn rhoi camargraff difrifol o'r ymatebion, yn enwedig gan y cyhoedd;

(ii) eich bod wedi diystyru 45 ymateb ar y sail eu bod 'ar gyfer ymgyrch nad ydym yn ymwybodol o’i tharddiad' er nad oedd yr ymatebion yn union yr un fath. Ymddengys, felly, fod hon yn ymdrech fwriadol gan swyddogion y Llywodraeth i anwybyddu barn pobl nad ydynt yn cytuno â nhw;

(iii) er i chi gynnal gweithdai gyda'r cyhoedd, nid oes cyfeiriad yn eich crynodeb at y safbwyntiau a fynegwyd gan yr unigolion a fynychodd y tri gweithdy oedd yn agored i'r cyhoedd yn gyffredinol;

(v) credwn fod hyd yr ymgynghoriad wedi milwrio yn erbyn derbyn ymateb gan y cyhoedd gan ei fod yn 70 tudalen ac yn gofyn 49 cwestiwn, ac yn hynny o beth, mae'n arbennig o annheg wedyn diystyru ymatebion gan aelodau'r cyhoedd a ystyrir yn 'rhan o ymgyrch' sy'n ceisio hwyluso pobl i allu ymateb a deall gwir ystyr y cwestiynau, oedd yn fwriadol ddryslyd;

(iv) bod gogwydd y cwestiynau yn y ddogfen ymgynghori, ynghyd â'r arolwg ar-lein a gynhaliwyd yn ystod y gweithdai cyhoeddus, yn gamarweiniol gyda'r bwriad o sicrhau cefnogaeth i gynigion gan guddio gwir effaith y cynigion. Er enghraifft, nid yw'r ymgynghoriad yn cynnwys cwestiwn sylfaenol i holi yn hollol glir beth yw barn pobl ynghylch cynnig y Llywodraeth i ddiddymu Comisiynydd y Gymraeg. Wedyn, ar ôl peidio â gofyn y cwestiwn penodol hwnnw, mae nifer fawr o'r cwestiynau dilynol yn rhagdybio cefnogaeth i'r syniad y dylid disodli Comisiynydd y Gymraeg gyda Chomisiwn. Nid yw hyn yn ffordd onest na thryloyw o gasglu barn y cyhoedd, yn enwedig gan fod cynifer o gwestiynau yn rhagdybio cefnogaeth i'r cynnig i ddiddymu'r Comisiynydd.

Er gwaethaf holl ymdrechion eich swyddogion i ffugio'r ystadegau, mae'r ymatebion sydd wedi'u cyhoeddi yn cadarnhau nad yw'r mwyafrif yn cefnogi cynigion y papur gwyn, yn enwedig y cynnig i ddiddymu'r Comisiynydd. Rydyn ni wedi bod yn galw am roi'r Bil yn y bin a dechrau eto, ac mae'n amlwg o'r ymatebion yma bod pobl Cymru'n cytuno gyda ni. Ar sail hynny, ni chredwn fod gennych chi'r mandad gan y cyhoedd i fwrw ymlaen â'ch cynlluniau.

Yn wyneb yr holl ymatebion a dderbyniodd y Llywodraeth, mae'n destun pryder eich bod yn honni yn eich datganiad ysgrifenedig y "cefnogwyd ein cynigion gan y sawl a ymatebodd i’r ymgynghoriad." Rydych chi'n rhoi camargraff difrifol drwy honni bod cefnogaeth, pan nad yw'r dadansoddiad gwrthrychol yn cefnogi hynny. Yn wyneb nifer o rybuddion gan arbenigwyr, mudiadau, a nawr y rhan fwyaf o'r ymatebion i'ch ymgynghoriad eich hun, rydym yn erfyn arnoch i ailystyried. Gofynnwn i chi ganolbwyntio ar weithredu holl bwerau Mesur y Gymraeg (2011) Cymru yn hytrach na deddfu mewn ffordd sy'n mynd i wanhau hawliau pobl ar lawr gwlad i ddefnyddio'r Gymraeg o ddydd i ddydd.

Yr eiddoch yn gywir

Manon Elin

Is-gadeirydd, Grŵp Hawl, Cymdeithas yr Iaith

Ymateb Llywodraeth Cymru - 26/2/18

1. Ysgrifennaf mewn ymateb i’r gŵyn swyddogol a gyflwynwyd gennych chi drwy e-bost ar 29 Ionawr at Weinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes. Gan fod eich neges yn ymdrin â chŵyn swyddogol, mae’r Gweinidog wedi gofyn i mi ei hystyried o dan broses gwyno gorfforaethol Llywodraeth Cymru.
2. Yn fy rhinwedd fel Pennaeth is-adran Datgarboneiddio ac Ynni, rydw i wedi ystyried eich cwyn yn wrthrychol ac fel gwas sifil sy’n gweithio’n annibynnol o’r swyddogion a oedd yn gyfrifol am gynhyrchu’r adroddiad sy’n destun eich cwyn. Byddaf yn delio gyda’r pwyntiau penodol a godwyd gennych gan ddefnyddio’r materion a godoch chi fel is-benawdau yn y llythyr hwn.
“eich bod wedi anwybyddu dros hanner yr ymatebion i'r ymgynghoriad sy'n golygu bod yr ystadegau yn y ddogfen yn rhoi camargraff difrifol o'r ymatebion, yn enwedig gan y cyhoedd”
3. Wrth ymchwilio’r gŵyn hon, rwyf wedi ystyried Canllawiau’r Llywodraeth i Staff ar Ymgynghori (2018) a Chanllawiau’r Llywodraeth ar Ymgynghori ar Filiau’r Cynulliad (2013). Noda’r ddogfen gyntaf fel a ganlyn (mae’r dogfennau hyn at ddefnydd mewnol a cheir fersiwn wedi’i chyfieithu isod ynghyd â’r testun gwreiddiol):
Bydd sefydliad ymgyrchu’n aml yn annog eu cefnogwyr i ymateb i ymgynghoriad... Wrth gofnodi, dadansoddi ac adrodd ar ymatebion, y mae’n synhwyrol i wahaniaethu rhwng ymatebion sy’n cefnogi ymgyrch a’r ymatebion hynny a ysgrifennir gan yr ymatebwyr eu
hunain. Mae’r ddau fath o ymateb yn ffyrdd dilys i fynegi barn, ond maent yn dweud pethau gwahanol wrthym ni ac mae’n well eu hadrodd ar wahân. Mae’n rhaid i unrhyw un sy’n datgan eu cefnogaeth i ymgyrch allu gweld bod eu barn nhw wedi’i nodi. Yn yr un modd, mae angen i sefydliadau eraill wybod ein bod yn gallu gwahaniaethu rhwng eu hymateb manwl nhw ac e-gerdyn post. Mae ymgynghoriadau’n ymwneud â mwy na rhifau’n unig. Mae’r pwyntiau a wneir yn hanfodol. Yn ogystal, mae’n hanfodol gwybod pwy sy’n dweud beth. (tudalen 19)
Often, a campaigning organisation will encourage its supporters to reply to a consultation....When recording, analysing and reporting on responses, it makes sense to distinguish between responses that support a campaign and ones that are written by the senders themselves. Both types of responses are valid expressions of opinion, but they tell us different things and are best reported separately. Anyone who endorses a campaign must be able to see that their view has been noted. By the same token, other organisations need to know that we can distinguish between their detailed response and an e-postcard. Consultations aren’t just about numbers. The points made are crucial. So is knowing who is saying what. (tudalen 19)
4. Noda’r ail ddogfen fel a ganlyn:
Nid ydyw’n anghyffredin i sefydliadau ddefnyddio ymgyrchoedd ysgrifenedig mewn perthynas ag ymgynghoriadau Llywodraeth Cymru, gan ddefnyddio templedi a ddylunnir ganddynt. Mae hyn yn peri materion ymarferol ynghylch sut y dylid cofnodi a chrynhoi’r ymatebion. Mae ymgynghoriadau’n ymwneud â mwy na rhifau’n unig, ond mae’n rhaid i aelodau’r Cyhoedd allu gweld bod eu barn nhw wedi’i nodi. Yn yr un modd, mae angen i sefydliadau eraill wybod ein bod ni’n gwahaniaethu rhwng ymatebion manwl ac ymatebion sy’n dod i law trwy ymgyrch ysgrifenedig. (Pennod 4, paragraff 4)
It is not uncommon for organisations to use write-in campaigns in relation to Welsh Government consultations, using templates of their own design. This raises practical issues about how to log and summarise the responses. Consultations aren’t just about numbers, but members of the Public must be able to see that their views have been noted. By the same token, other organisations need to know that we distinguish between detailed responses and write-in responses. (Pennod 4, paragraff 4)
5. Yn yr adroddiad ar yr ymgynghoriad, cyfrifwyd yr ymatebion a fu’n rhan o ymgyrch fel un ymateb. Y bwriad wrth wneud hyn oedd i wahaniaethu rhwng yr ymatebion manwl mewn modd gwahanol i’r ymatebion a ddaeth i law fel rhan o ymgyrch. Mae paragraff 3.1 o’r adroddiad ar yr ymgynghoriad yn nodi y derbyniwyd 504 o ymatebion ysgrifenedig i’r ymgynghoriad. Yn ogystal, noda baragraff 3.5 fod 278 o’r ymatebion a dderbyniwyd wedi’u derbyn o dair ymgyrch. Mae’r adroddiad yn nodi’r niferoedd o ymatebion a dderbyniwyd fesul ymgyrch. Mae paragraff 3.6 yr adroddiad yn esbonio mai at ddibenion meintiol, byddai’r ymgyrchoedd hyn yn cael eu cyfri unwaith yn unig.
6. Mae canllawiau Llywodraeth Cymru ar ymgynghori’n nodi y byddwn yn sicrhau ei bod hi’n glir i bawb sy’n ymateb i ymgynghoriad weld ein bod ni wedi nodi eu sylwadau. Yn ogystal, mae ein canllawiau’n nodi pwysigrwydd dangos ein bod yn gwahaniaethu rhwng yr ymatebion manwl yn wahanol i’r ymatebion a dderbynnir fel rhan o ymgyrchoedd. Rwyf o’r farn fod y dull a ddefnyddiwyd gan y Llywodraeth i lunio’r adroddiad ar yr ymgynghoriad, sydd wedi’i nodi uchod ym mharagraff 5 o fy llythyr, yn unol â’r canllawiau.
7. Serch hynny, credaf fod rhywfaint o sail i’r gŵyn. Nid yw’r canllawiau’n cynnig arweiniad hollol glir ynglŷn â sut y dylid ystyried a chyfrif ymatebion sy’n rhan o ymgyrchoedd, ac mae
hyn yn wendid y dylid ei gywiro. O’r herwydd, yn yr achos penodol hwn, tra fod modd i unigolion wnaeth ymateb fel rhan o ymgyrch weld cydnabyddiad o’u hymateb ym mharagraff 3.5 o’r adroddiad ac wrth gyhoeddi’r ymatebion i’r ymgynghoriad, nid yw’r cyfanswm o ymatebion drwy law ymgyrchoedd yn cael eu cyfri’n ystadegol yn y dadansoddiadau unigol i bob cwestiwn oherwydd y penderfyniad i gyfrif ymatebion i ymgyrchoedd unwaith yn unig.
8. Argymhellaf y dylid diwygio’r canllawiau. Tra’n parhau i nodi’r angen i wahaniaethu rhwng ymatebion unigol ac ymatebion a dderbyniwyd fel rhan o ymgyrchoedd, fel noda paragraff 4 uchod, dylai’r canllawiau nodi y dylid cofnodi y niferoedd absoliwt o ymatebion a dderbyniwyd fel rhan o ymgyrchoedd i ymgynghoriad yn ei gyfanrwydd yn ogystal ag i ymatebion i gwestiynau unigol. Byddai hyn yn sicrhau fod darlun cytbwys yn cael ei gyflwyno sy’n cydnabod yn ystadegol y niferoedd o ymatebion a dderbyniwyd, gan gynnwys fel rhan o ymgyrchoedd, tra hefyd yn parhau i sicrhau bod dadansoddiad ansoddol i bob rhan o unrhyw adroddiad.
“eich bod wedi diystyru 45 ymateb ar y sail eu bod 'ar gyfer ymgyrch nad ydym yn ymwybodol o’i tharddiad' er nad oedd yr ymatebion yn union yr un fath. Ymddengys, felly, fod hon yn ymdrech fwriadol gan swyddogion y Llywodraeth i anwybyddu barn pobl nad ydynt yn cytuno â nhw”
9. Fel a nodais ym mharagraffau 3-8 y llythyr hwn, mae canllawiau Llywodraeth Cymru ar ddelio gydag ymatebion i ymgynghoriadau’n gofyn i ni sicrhau ei bod hi’n glir i bobl weld ein bod wedi nodi ymatebion pobl. Ar yr un pryd, mae’r canllawiau’n gofyn i ni ymdrin ag ymatebion drwy ymgyrchoedd yn wahanol i ymatebion manwl a dderbynnir.
10. Rydw i wedi fy modloni bod y ffordd yr ymdriniodd swyddogion gyda’r ymatebion yma’n cyd-fynd â’r canllawiau hyn, a hynny yn enwedig am fod yr adroddiad yn nodi yn nhrydydd pwynt bwled paragraff 3.5 bod ambell fân ychwanegiad i rai o’r ymatebion dan sylw ac ar y sail mai at ddibenion meintiol yn unig yr ystyriwyd yr ymatebion un waith. Cyhoeddwyd yr oll o’r 45 ymateb yma yn llawn ar yr un pryd a’r adroddiad.
11. Mae fy argymhelliad ym mharagraffau 7 ac 8 o’r llythyr hwn yn berthnasol i’r gŵyn hon.
“er i chi gynnal gweithdai gyda'r cyhoedd, nid oes cyfeiriad yn eich crynodeb at y safbwyntiau a fynegwyd gan yr unigolion a fynychodd y tri gweithdy oedd yn agored i'r cyhoedd yn gyffredinol”
12. Deallaf y cynhaliwyd sawl gweithdy yn ystod yr ymgynghoriad er mwyn darparu cyfle i unrhyw un â diddordeb ddod ynghyd i drafod y polisïau a oedd wedi’u cynnwys yn y Papur Gwyn. Nid oes unrhyw ofyniad, ar sail y canllawiau i swyddogion, i greu crynodeb ysgrifenedig o weithdai ymgynghorol. Ni allaf chwaith ganfod unrhyw ymrwymiad i greu dadansoddiad o’r digwyddiadau. Mae’r grynodeb o’r ymatebion i’r ymgynghoriad yn nodi yn glir (Adran 3) mai ‘crynodeb o’r ymatebion ysgrifenedig’ a geir yn yr adroddiad. Ar sail y pwyntiau uchod, ni chredaf fod sail i’r gwŷn benodol hon.
“credwn fod hyd yr ymgynghoriad wedi milwrio yn erbyn derbyn ymateb gan y cyhoedd gan ei fod yn 70 tudalen ac yn gofyn 49 cwestiwn, ac yn hynny o beth, mae'n arbennig o annheg wedyn diystyru ymatebion gan aelodau'r cyhoedd a ystyrir yn 'rhan o ymgyrch' sy'n ceisio hwyluso pobl i allu ymateb a deall gwir ystyr y cwestiynau, oedd yn fwriadol ddryslyd”
13. Yr wyf yn benodol wedi ystyried y pwyntiau rydych wedi eu gwneud ynglŷn â hyd y ddogfen – rwyf eisoes wedi ystyried eich pwynt ynglŷn â diystyru ymatebion yn gynharach yn fy llythyr. Mae ystyried cyflwyno deddfwriaeth yn broses ag iddi oblygiadau i nifer o bobl a sefydliadau gwahanol. Nid oes canllawiau penodol yn bodoli ynglŷn â hyd ymgynghoriadau na nifer y cwestiynau gan fod hyn yn dibynnu ar y cyd-destun a natur yr ymgynghoriad penodol. O anghenraid, mae’n bwysig fod unrhyw ymgynghoriad yn esbonio cynigion polisi Llywodraeth Cymru a’r rhesymeg drostynt. Mae hyn yn rhan greiddiol o ymgynghori effeithiol a chyfreithlon. Yn yr achos penodol hwn, barn y Llywodraeth oedd fod angen ymgynghoriad manwl er mwyn cyflwyno ac esbonio natur y cynigion. Deallaf hefyd fod y Llywodraeth wedi hwyluso ymgysylltu gyda’r cynigion drwy gyhoeddi dogfen a ddarparodd drosolwg o gynigion y Papur Gwyn ac hefyd drwy gynnal cyfres o ddigwyddiadau i drafod y cynigion. Ar sail y pwyntiau uchod, ni chredaf fod sail i’r gŵyn benodol hon.
“bod gogwydd y cwestiynau yn y ddogfen ymgynghori, ynghyd â'r arolwg ar-lein a gynhaliwyd yn ystod y gweithdai cyhoeddus, yn gamarweiniol gyda'r bwriad o sicrhau cefnogaeth i gynigion gan guddio gwir effaith y cynigion. Er enghraifft, nid yw'r ymgynghoriad yn cynnwys cwestiwn sylfaenol i holi yn hollol glir beth yw barn pobl ynghylch cynnig y Llywodraeth i ddiddymu Comisiynydd y Gymraeg. Wedyn, ar ôl peidio â gofyn y cwestiwn penodol hwnnw, mae nifer fawr o'r cwestiynau dilynol yn rhagdybio cefnogaeth i'r syniad y dylid disodli Comisiynydd y Gymraeg gyda Chomisiwn. Nid yw hyn yn ffordd onest na thryloyw o gasglu barn y cyhoedd, yn enwedig gan fod cynifer o gwestiynau yn rhagdybio cefnogaeth i'r cynnig i ddiddymu'r Comisiynydd”
14. Ystyriais y Papur Gwyn yn ogystal â’r ddogfen ymatebion yng nghyd-destun y gŵyn hon. Roedd y Papur Gwyn yn cynnwys ystyriaeth o opsiynau gwahanol a ystyriwyd gan Weinidogion Cymru i gyflawni amcanion polisi Llywodraeth Cymru. Roedd y Papur Gwyn yn egluro bod opsiynau a oedd wedi’u ffafrio gan Lywodraeth Cymru o blith yr opsiynau a ystyriwyd. Roedd nifer o’r cwestiynau yn gofyn p’un a oedd ymatebwyr yn cytuno gyda’r opsiynau a ffafriwyd gan Lywodraeth Cymru neu beidio. Roedd cyfle yn y ffurflen ymateb i ymatebwyr gytuno, anghytuno, atal eu barn, a nodi unrhyw sylwadau eraill a oedd ganddynt wrth ymateb i’r cwestiynau. Gofynnwyd cwestiynau penagored ar ddiwedd pob rhan ac ar ddiwedd y ddogfen ymgynghori i ganiatáu i ymatebwyr ateb mewn unrhyw ffordd yr oeddent yn dymuno.
15. Nid oedd rhaid i unrhyw un a oedd yn dymuno ymateb i’r ymgynghoriad yn ysgrifenedig ddefnyddio’r ffurflen ymateb swyddogol, nac ychwaith ymateb i’r cwestiynau a ofynnwyd. Yr wyf wedi adolygu’r ymatebion a cyflwynodd nifer o ymatebwyr eu sylwadau ar ffurf e-bost a bod rhain wedi cael eu hystyried fel rhan o’r ymgynghoriad. Ar sail y pwyntiau uchod, ni chredaf fod sail i’r gŵyn benodol hon.
Eich hawl i gyfeirio’ch cwyn at Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru
16. Rwyf wedi ystyried eich cwyn o dan y broses adolygu ffurfiol a nodir yng ngweithdrefn a pholisi cwynion Llywodraeth Cymru, sydd ar gael i chi drwy'r post ar gais neu ar ein gwefan yn: http://llyw.cymru/contact_us/makeacomplaint/?skip=1&lang=cy.
17. Fy rôl i fel adolygydd ffurfiol ar y cam terfynol o weithdrefn gwynion Llywodraeth Cymru yw i ystyried pa gamau pellach, os o gwbl, y dylid eu cymryd i ddatrys y materion a godwyd gennych chi, sydd yn briodol ac yn gymesur â'ch cwyn.
18. Os ydych yn anfodlon gyda fy ymateb i'ch cwyn neu os ydych yn teimlo nad yw eich cwyn wedi’i hystyried yn briodol, hoffwn eich atgoffa chi o’ch opsiwn i gyfeirio'r mater at Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru sy’n annibynnol o bob corff llywodraethol.
19. Mae modd i chi gysylltu â’r Ombwdsmon yn:
Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru
1 Ffordd yr Hen Gae
Pencoed
Pen-y-bont ar Ogwr
CF35 5LJ
Rhif ffôn: 0300 7900203
E-bost: holwch@ombwdsmon-cymru.org.uk
Gwefan: www.ombwdsmon-cymru.org.uk
Prys Davies
Dirprwy Gyfarwyddwr
Pennaeth yr is-adran Datgarboneiddio ac Ynni
Llywodraeth Cymru

Ymateb Cymdeithas - 2/3/18

Annwyl Weinidog y Gymraeg,
 

Yn dilyn ein cwyn ynghylch data anghywir yn eich crynodeb o ymatebion i'r ymgynghoriad ar Fil y Gymraeg, derbyniom ymateb gan Bennaeth is-adran Datgarboneiddio ac Ynni'r Llywodraeth.

Yn ei ymateb, sydd wedi ei atodi, dywed fod sail i'n cŵyn, gan nad yw'r 'cyfanswm o ymatebion drwy law ymgyrchoedd yn cael eu cyfri'n ystadegol yn y dadansoddiadau unigol i bob cwestiwn', gan nad yw'r canllawiau yn glir yn hyn o beth.

Dywed hefyd:
     'dylai’r canllawiau nodi y dylid cofnodi y niferoedd absoliwt o ymatebion a dderbyniwyd fel rhan o ymgyrchoedd i ymgynghoriad yn ei gyfanrwydd yn ogystal ag i ymatebion i gwestiynau unigol. Byddai hyn yn sicrhau fod darlun cytbwys yn cael ei gyflwyno sy’n cydnabod yn ystadegol y niferoedd o ymatebion a dderbyniwyd, gan gynnwys fel rhan o ymgyrchoedd, tra hefyd yn parhau i sicrhau bod dadansoddiad ansoddol i bob rhan o unrhyw adroddiad.'
 

O ystyried yr uchod, gan y seiliwyd eich data ar ganllawiau gwallus - sy'n golygu, felly, nad yw eich data yn gwbl gywir - a fyddwch chi'n ailgyhoeddi crynodeb o'r ymatebion i'r ymgynghoriad gan gynnwys y data cywir?
 
Yn gywir,
Manon Elin
Is-gadeirydd Grŵp Hawl
Cymdeithas yr Iaith

 

 

Ymateb Y Gweinidog Eluned Morgan - 26 Mawrth 2018

Annwyl Manon Elin
Ysgrifennaf mewn ymateb i’ch e-bost dyddiedig 2 Mawrth 2018 mewn perthynas â’ch cwyn yn ymwneud â’r crynodeb o ymatebion i’r ymgynghoriad a gynhaliwyd ar y Papur Gwyn: Taro’r cydbwysedd iawn: cynigion ar gyfer Bil y Gymraeg.
Yn dilyn yr ymchwiliad annibynnol a wnaed gan Bennaeth is-adran Datgarboneiddio ac Ynni’r Llywodraeth, nid wyf am ail-gyhoeddi’r adroddiad i’r ymgynghoriad. Mae’r adroddiad a gyhoeddwyd yn nodi yn glir y cyfanswm o ymatebion a ddaeth i law fel rhan o ymgyrch a’r unig beth fyddai’n newid yn y dyfodol wrth newid y canllawiau mewnol i swyddogion y Llywodraeth, fyddai cyhoeddi’r niferoedd ystadegol yn y dadansoddiadau unigol i bob cwestiwn. Bydd y canllawiau i swyddogion yn parhau i wneud yn glir y dylai swyddogion wahaniaethu rhwng ymatebion sy’n cefnogi ymgyrch a’r ymatebion hynny a ysgrifennir gan yr ymatebwyr eu hunain.
Rhaid cadw mewn cof bod ymgynghoriadau yn ymwneud â mwy na rhifau, ac mae’r pwyntiau a wneir yn holl bwysig. Ni fydd ein hystyriaeth bellach o’r materion polisi yn newid o ganlyniad i ddeilliant y gŵyn hon. Byddaf yn parhau i ystyried yr holl ymatebion a ddaeth i law wrth i ni ddatblygu ein cynigion ar gyfer Bil y Gymraeg.
Yn gywir
Eluned Morgan AC/AM
Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes
Minister for Welsh Language and Lifelong Learning

Cwyn i'r Ombwdsmon - 4/6/18

Annwyl Ombwdsmon, 

Ysgrifennwn er mwyn cwyno bod Llywodraeth Cymru wedi camweinyddu'r broses o ymgynghori ac adrodd ar ganlyniadau'r ymgynghoriad ar Fil y Gymraeg. Gweler ynghlwm gohebiaeth rhyngom a'r Llywodraeth ynghylch casgliadau adolygiad mewnol i gŵyn a wnaed gennym ym mis Ionawr eleni ynghylch ymgynghoriad y Llywodraeth ar Fil arfaethedig y Gymraeg. Gobeithiwn fod yr ohebiaeth yn hunanesboniadol.   

Er bod y Llywodraeth wedi cyfaddef bod 'sail i'r gwyn' a'u bod yn mynd i newid canllawiau o'i herwydd, credwn yn gryf y dylent ail-gyhoeddi eu crynodeb o'r ymatebion i'r ymgynghoriad gyda'r ystadegau cywir.  Nid yw'n dderbyniol iddynt adael dogfen gamarweiniol yn y sffêr gyhoeddus, dylid ei chywiro er mwyn adlewyrchu gwir atebion y cyhoedd ac eraill i'r ymgynghoriad.  Noder bod y Gweinidog wedi honni mewn datganiad i Aelodau Cynulliad y “cefnogwyd ein cynigion gan y sawl a ymatebodd i’r ymgynghoriad” er mai dim ond lleiafrif bychan oedd yn eu cefnogi mewn gwirionedd.  

Credwn fod y Llywodraeth, drwy wrthod â chywiro'r ystadegau wedi ymddwyn yn gamarweiniol, afresymol ac, yn wir, wedi amharchu'r broses ymgynghori drwyddi draw.   

Hoffem dynnu eich sylw at y ffaith ei bod yn ymddangos bod yr holl ymatebion ysgrifenedig a gyflwynwyd drwy gopi caled i'r ymgynghoriad wedi'u diystyru gan y Llywodraeth sy'n codi cwestiynau am driniaeth deg o rai grwpiau bregus ac allgau cymdeithasol. Yn ogystal, nodwn gyda chryn bryder nad oes adroddiad gan y Llywodraeth yn crynhoi ymatebion y cyhoedd yn y gweithdai a gynhaliwyd yn ystod yr ymgynghoriad, ac, felly, ymddengys eu bod wedi eu diystyru'n llwyr. Ar y llaw arall, seiliwyd cynigion y Llywodraeth yn ei Phapur Gwyn ar weithdai gyda chyrff nad oedd caniatâd i'r cyhoedd eu mynychu. Yn hyn o beth, credwn fod y Llywodraeth wedi gweithredu'n groes i Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol ynghyd â'u hamcanion llesiant statudol eu hunain.   

Os hoffech chi ragor o wybodaeth am y materion hyn, mae croeso i chi gysylltu â Colin yn ein swyddfa yng Nghaerdydd ar 02920 486469.   

Yn gywir, 

Heledd Gwyndaf 

Cadeirydd, Cymdeithas yr Iaith