Cynllunio'r Gweithlu Addysg - llythyr at Alun Davies

Annwyl Weinidog,

Ysgrifennaf atoch yn dilyn cyfarfod gyda'ch swyddogion ar 20fed Rhagfyr i drafod ein hymgyrch 'addysg Gymraeg i bawb'.

Croesawn y ffaith bod y Llywodraeth wedi ymrwymo i:

(i) ddisodli'r cymwysterau 'Cymraeg Ail Iaith' gydag un cymhwyster Cymraeg i bob disgybl erbyn 2021 yn seiliedig ar un continwwm dysgu'r iaith; a

(ii) creu miliwn o siaradwyr Cymraeg.

Wrth reswm, mae'n hanfodol bod y Llywodraeth yn gwneud newidiadau mawr i'r gweithlu addysg er mwyn sicrhau eich bod yn llwyddo yn eich amcanion polisi.

Gyda hynny mewn golwg, gweler ynghlwm dogfen sy'n amlinellu prif gasgliadau'r seminar a gynhaliom yn ddiweddarach y mis hwn ynghylch cynllunio'r gweithlu addysg. Gallwch chi ddarllen y ddogfen ar-lein yn ogystal drwy ddilyn y ddolen yma: http://cymdeithas.cymru/dogfen/cynllunior-gweithlu-addysg-cyrraedd-miliw...

Cymerwn yn ganiataol eich bod yn bwriadu cyhoeddi is-dargedau, mesuryddion perfformiad a cherrig milltir yn eich strategaeth iaith derfynol. Fodd bynnag, o'r drafodaeth gyda'ch swyddogion am gasgliadau'r seminar, mae'n glir bod angen arweiniad gwleidyddol gennych fel Gweinidog a'ch cyd-Weinidogion ar rai materion. Gofynnaf felly i chi gadarnhau:

(i) y bydd y Llywodraeth yn gosod targed blynyddol ar ddarparwyr addysg gychwynnol athrawon er mwyn sicrhau cynnydd sylweddol a pharhaus yng nghanran a niferoedd y newydd-hyfforddedig sy'n medru dysgu drwy'r Gymraeg;

(ii) y bydd yr adnoddau ychwanegol a gafodd Cymraeg i Oedolion yn y gyllideb eleni ar gael i'r gweithlu addysg (gan gynnwys y gweithwyr hynny nad ydynt yn ymarferwyr dosbarth), yn ychwanegol at y gyfran o'r £20 miliwn ychwanegol ar gyfer gwella safonau ysgolion a dylai fynd at wella safonau o ran y Gymraeg;

(iii) y byddwch yn diwygio nod a natur y Cynllun Sabothol, er mwyn bod yn glir mai ei rôl yw sicrhau bod gweithwyr addysg ac athrawon yn cyrraedd rhuglder fel modd iddynt ddysgu drwy gyfrwng yr iaith wedi'r cwrs;

(iv) y bydd buddsoddiad ychwanegol yng ngweithlu'r blynyddoedd cynnar a mwy o gydnabyddiaeth ohono yn strategaeth iaith y Llywodraeth; a

(v) y byddwch yn cynnwys y Gymraeg fel mesur perfformiad ar gyfer pob ysgol, a hynny ar frys, ynghyd â sicrhau y bydd cynnwys Cymraeg yn rhan hanfodol o'r Fagloriaeth.

O ran pwynt (i), nid oedd yn glir beth yw safbwynt y Llywodraeth o'n cyfarfod ar 20fed Rhagfyr. Mae ein barn yn ddiamwys: ni fydd ddim hygrededd gan strategaeth iaith y Llywodraeth os nad yw'n gosod targedau blynyddol ar gyfer cynyddu'r canran sy'n gadael addysg gychwynnol athrawon gyda'r gallu i ddysgu drwy'r Gymraeg. Mae'r cam hwnnw'n un gwbl sylfaenol a chreiddiol i'r strategaeth iaith: ni allwn gefnogi strategaeth sydd ddim yn gweithredu ar y targed cadarn penodol hwnnw.

Yn olaf, hoffem wybod pryd gawn ni weld drafft y cynllun ar gyfer y camau ymlaen er mwyn disodli'r cymhwyster Cymraeg Ail Iaith gydag un cymhwyster i bob disgybl y cyfeirioch ato fe yn eich llythyr atom ym mis Tachwedd. Yn y llythyr hwnnw, ymrwymoch i rannu drafft o'r cynllun gyda ni ym mis Rhagfyr 2016.

Yr eiddoch yn gywir,

Toni Schiavone