Darlledu Cymraeg, Y Papur Gwyrdd a Siarter y BBC

Darlledu Cymraeg, Y Papur Gwyrdd a Siarter y BBC 

Ymateb Cymdeithas yr Iaith Gymraeg 

 

1.Cyflwyniad 

1.1. Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn fudiad sydd wedi bod yn ymgyrchu'n ddi-drais dros y Gymraeg a holl gymunedau Cymraeg ers dros hanner ganrif.   

1.2. Credwn fod presenoldeb y Gymraeg yn y cyfryngau yn hollbwysig i bawb yng Nghymru a bod gan bawb yng Nghymru, boed yn siaradwyr Cymraeg neu beidio, hawliau i’r Gymraeg. Hynny yw, nid yn unig hawliau i’w defnyddio a’i dysgu, ond hefyd i’w clywed a’i gweld. Felly, mae presenoldeb yr iaith ar y teledu, radio, y we a phob cyfrwng arall yn allweddol i’n gweledigaeth ni fel mudiad.  

1.3. Nodwn fod yr ymgynghoriad hwn yn ymwneud a siarter y BBC. Fodd bynnag, nid y BBC yw'r unig ddarlledwr cyhoeddus yng ngwledydd Prydain: mae'r ymgynghoriad hwn yn cynnig cyfle i'r Llywodraeth edrych yn ehangach ar sefyllfa darlledu yn Gymraeg ac yng Nghymru felly. 

1.4 Atodwn i'r dystiolaeth hon ddeiseb, a lofnodwyd gan gannoedd o bobl, sy'n galw am gynyddu cyllideb S4C.   

2. Crynodeb 

2.1 Dylid sefydlu darlledwr aml-lwyfan Cymraeg newydd a fyddai’n creu cynnwys er mwyn cynyddu defnydd y Gymraeg yn enwedig ymysg pobl ifanc - gan weithredu ar-lein yn bennaf, ond ar radio ac ar y teledu yn ogystal; gan gynorthwyo gwasanaethau S4C a Radio Cymru a rhyddhau’r darlledwyr presennol o’r baich o geisio gwasanaethu’r gynulleidfa gyfan. Er bu twf aruthrol yn nifer y gwasanaethau Saesneg eu hiaith dros y blynyddoedd - sydd wedi eu darparu gan y BBC ac eraill - ni fu twf cyfatebol yn y gwasanaethau Cymraeg. Am resymau ymarferol ac oherwydd yr angen am blwraliaeth, awgrymwn y dylai Awdurdod S4C fod yn gyfrifol am y gwasanaeth newydd hwn.     

2.2 Buddsoddi Rhagor yn S4C - Mae S4C yn hynod o bwysig fel darlledwr annibynnol, ac mae'r trefniant ariannol presennol yn peryglu ei annibyniaeth, egynaliadwyedd a'i ffyniant. Wedi i'r darlledwr dderbyn toriadau difrifol dros y blynyddoedd sy'n peryglu ei bodolaeth, mae angen cynnydd yn ei gyllideb. Mae hefyd angen fformiwla ariannu statudol ar gyfer y sianel fel bod sicrwydd hir dymor iddi Heb y sicrwydd hwn, gellid dadlau bod S4C yn cael ei arwain at anffawd ar bwrpas;  nid yw'n deg i unrhyw fusnes i weithio am gyfnod hir heb fanylion cyllido dealladwy, ac felly mae'n rhaid bod y tegwch yn nod i'r cyfnod nesaf sydd mor allweddol.  Mae S4C yn gwneud cyfraniad hynod o bwysig i fywiogrwydd yr iaith Gymraeg, sy'n iaith o dan fygythiad, ac felly yn sefydliad sydd angen ei ddiogelu er lles yr iaith a holl ddiwylliannau Cymru.     

2.3 Diogelu ac Ehangu Gwasanaethau Cymraeg y BBC - Mae gwasanaethau Cymraeg y BBC - BBC Cymru Fyw a BBC Radio Cymru - yn hynod o bwysig, gwasanaethau na fyddai'n cael eu darparu gan y farchnad agored oni bai am drwydded y darlledwyr cyhoeddus. Rydyn ni'n falch o weld twf sylweddol yn y niferoedd sy'n defnyddio gwasanaeth ar-lein Cymraeg y BBC, BBC Cymru Fyw, sef yr union fath o wasanaeth na fyddai'n cael ei ddarparu. Gresynwn fod cwtogiad wedi bod i Radio Cymru o ran ei oriau darlledu.   

2.4 Datganoli Darlledu nid yw'r strwythurau rheoleiddio presennol yn addas i Gymru. Mae'r BBC yn sefydliad sydd, yn strwythurol, heb addasu i ddatganoli. Credwn y dylid datganoli darlledu yn ei gyfanrwydd i Gymru gyda setliad ariannol digonol i ehangu'r gwasanaethau Cymraeg a chynyddu cyllideb S4C.  

2.5 Ardoll i ychwanegu at yr adnoddau ar gyfer darlledu Cymraeg - er mwyn ariannu sicrhau rhagor o wasanaethau Cymraeg a hynny'n aml-lwyfan. Rydyn ni wedi cyhoeddi cynigion ar gyfer codi ardoll ar elw cwmnïau fel Sky a Google ynghyd â hysbysebion  

3. Ymateb i Gynigion a Chwestiynau'r Ymgynghoriad  

3.1. Cytunwn gyda'r Llywodraeth bod y tirlun cyfryngol wedi newid yn sylweddol, ond tra bod cynnydd yn nifer y platfformau Saesneg eu hiaith, ni fu twf cyfatebol yn y gwasanaethau Cymraeg eu hiaith.  

3.2. Gofynnir "Beth ddylai ei faint a’i gwmpas fod yng ngoleuni'r nodau hynny ac i ba raddau mae’n effeithio ar eraill ym meysydd teledu, radio ac ar-lein?". Mae'n hollbwysig bod y Llywodraeth yn sylweddoli nad yw'r dadleuon ynghylch 'crowding out' - neu gor-boblogi - yn berthnasol i'r Gymraeg fel y gellid dadlau eu bod i'r sector Saesneg. Nid oes perygl y bydd gweithredoedd y BBC yn gwthio allan chwaraewyr eraill yn y maes darlledu Cymraeg. Fodd bynnag, rydym yn credu mai ehangu gwasanaethau S4C yw'r ffordd i wella'r sefyllfa yn hytrach na dibynnu ar y BBC yn unig.  

3.3Mae'r Papur Gwyrdd yn dadlau bod perygl bod y BBC yn troi yn rhy 'fasnachol' ei allbwn ac yn canolbwyntio gormod ar niferoedd gwylwyr, ond wedyn yn beirniadu darlledu mewn ieithoedd lleiafrifoledig oherwydd nad oes llawer o wylwyr. Nid oes modd i'r Llywodraeth amddiffyn y safbwyntiau hyn, gan eu bod yn gwrth-ddweud eu gilydd. Yr hyn sydd ei hangen yw darlledu cyhoeddus sy'n ddigon cryf i wrthsefyll tueddiadau "masnachol," ac yn rhoi lle canolog i gynnwys yn y Gymraeg ac ieithoedd lleiafrifoledig eraill. 

3.4. Cytunwn fod angen i'r BBC addasu er mwyn cynrychioli holl wledydd ac ieithoedd yr ynysoedd hyn yn well. Yn y pen draw, yr unig ffordd o wneud hyn yw datganoli darlledu a ffederaleiddio’r BBC. 

3.5 Cyfran o ffi’r drwydded i S4C 

3.5.1. Os ydy'r Llywodraeth am barhau i ariannu S4C drwy'r ffi drwydded, cytunwn y byddai'n well i'r swm o arian o'r ffi drwydded fynd yn syth at S4C yn hytrach na thrwy'r BBC gan y byddai hynny'n helpu sicrhau annibyniaeth S4C. Mae ymgais penaethiaid y BBC yn Llundain i geisio cwtogi ar gyllideb S4C yn dangos nad oes modd ymddiried ynddynt i warchod S4C. Mae hynny'n golygu bod angen sicrwydd ariannol a llif ariannol S4C sy'n gwbl annibynnol o'r BBC. Fodd bynnag, credwn yn gryf y dylai unrhyw newid o'r fath ddod ar yr un pryd â sefydlu fformiwla ariannu mewn statud.  

3.6. Rheoleiddio i Gymru 

3.6.1. Credwn y dylid rheoleiddio darlledu yn ei gyfanrwydd yng Nghymru yn hytrach nag edrych ar opsiynau ar lefel Brydeinig. Mae gan Gymru un cynrychiolydd ar Ymddiriedolaeth y BBC, ond nid yw gweithredoedd y BBC yn adlewyrchu anghenion Cymru o hyd. Ymhelaethir ar yr angen am ddatganoli darlledu yn adran 8 o'r ddogfen hon.  

3.7 Sefyllfa darlledu Cymraeg - gwerth am arian a ffigyrau gwylio 

3.7.1. Gwrthwynebwn yn llwyr yr honiad yn y Papur Gwyrdd bod "cyfanswm y gynulleidfa [Gymraeg ac ieithoedd lleiafrifol] a gyrhaeddir wedi bod yn gostwng yn ystod blynyddoedd diwethaf, yn enwedig yng Nghymru" a bod costau cynhyrchu radio Cymraeg yn "codi cwestiynau ynghylch gwerth am arian." Eto, mae'n amlygu yr anghysondeb sydd wrth galon y Papur Gwyrdd sef, ar yr un llaw, cwyno bod darlledu cyhoeddus yn gwasgu allan y sector breifat, ond ar yr un pryd, yn codi cwestiynau am werth am arian os oes allbwn na fyddai'r farchnad yn eu cyflenwi. Ymhellach, mae'n anwybyddu'r ffaith bod y BBC wedi gofyn am doriadau llawer mwy gan Radio Cymru o gymharu â Radio 4.  

3.7.2. Clywn tro ar ôl tro am gael "gwerth ein harian" o'n darlledwyr cyhoeddus.  Yn sgil y toriadau a wnaed o 2010 ymlaen, cwtogwyd y nifer o staff a gyflogwyd gan S4C o 220 i 129. Serch hynny, ac er ni ddylid barnu darlledwr mewn iaith lleiafrifoldeg yn ôl ffigyrau gwylio, ar draws gwledydd Prydain dangosodd adroddiad blynyddol diweddaraf S4C cynnydd net yn nifer y gwylwyrgyda defnydd ar-lein S4C i fyny 31%  

3.7.3Roedd cost yr awr holl oriau darlledu S4C yn ystod 2014/15 yn £10,709 Mae hyn yn parhau’n gystadleuol ac yn cynrychioli gostyngiad o 35% ers 2009. Mae cost yr awr rhaglenni a gomisiynir gan S4C oddi wrth y cwmnïau cynhyrchu nawr yn sefyll ar £32,203 o’i gymharu â £52,752 yn 2009. Trwy weithio mewn partneriaeth â’r sector cynhyrchu mae S4C wedi sicrhau arbedion sylweddol yng nghost cynnwys yn y blynyddoedd diwethaf.  Er hynny, mae'r Sianel yn dweud ei boyn raddol yn cyrraedd sefyllfa ble mae’n debygol na all y gost gael ei lleihau ymhellach yn y dyfodol heb gynnydd pellach yn y lefel o ailddarlledu rhaglenni. 

3.7.4Yn 2014/15, gwariwyd bron i 80% ar gynnwys, 16% ar gefnogi’r cynnwys ac ychydig o dan 4% ar orbenionffigyrau gwell na'r hyn a gynigir gan y BBC.  Mae darparu gwerth am arian hefyd yn golygu bod buddsoddiad S4C yn y diwydiannau creadigol yng Nghymru yn cael yr effaith economaidd fwyaf. Mae’r buddsoddiad arwyddocaol a wneir gan S4C, yn ei dro, yn creu mwy o swyddi yn y cwmnïau ac o fewn y gadwyn gyflenwi mewn ardaloedd ar draws Cymru. Mae ymchwil annibynnol yn dangos yn ystod 2014/15, fod: 

  • pob £1 sy’n cael ei fuddsoddi gan S4C yn y diwydiannau creadigol yng Nghymru yn mwy na dyblu yn ei werth i’r economi (£2.09); 

  • buddsoddiad S4C i’r economi yng Nghymru a’r DG yn £82m; 

  • cyfanswm effaith economaidd S4C ar draws y DG yn 2014/15 yn £170m 

3.7.5. O ran effaith y sianel ar yr iaith – does neb arall yn darparu’r ystod o gynnwys a rhaglenni Cymraeg â S4C – o raglenni plant i raglenni dysgwyr, o chwaraeon i ddrama i raglenni ffeithiol, adloniant a materion cyfoes.  Fyddai’r ystod yma o gynnwys ddim yn bodoli heb S4C ac mae sicrhau cynnydd yng nghyllideb y sianel ac annibyniaeth i’r gwasanaeth yn greiddiol iawn i hyn. 

3.7.6Yn unol ag addewid y Llywodraeth, dylai fod adolygiad trylwyr i benderfynu be sy'n ddigonol ac nid yn fympwyol, a chredwn fod hyn yn adlewyrchu'r consensws sydd yng Nghymru ac yn y diwydiannau creadigol.  

4. S4C 

4.1. Cynyddu'r Gyllideb, Dim Toriadau Pellach 

4.1.2. Cred Cymdeithas yr Iaith Gymraeg bod llymder yn bolisi ideolegol sydd ddim yn gwneud synnwyr economaidd, ac, yn bwysicach, ei fod yn hynod o niweidiol i'n cymunedau a'r Gymraeg ac yn gorfodi pobl fregus a llai pwerus i dalu am gamgymeriadau'r cyfoethog. 

4.1.3. Yn ôl yn 2010, gwnaed penderfyniad ynghylch ariannu S4C heb unrhyw ymgynghori â phobl Cymru na Chynulliad Cenedlaethol Cymru. Gwnaed toriad o 93% i'r grant gan y Llywodraeth i'r sianel, a hyd yn oed o ystyried cyfraniad ariannol drwy'r ffi drwydded, bu toriad o tua 40% i gyllideb y sianel dros y pum mlynedd diwethaf.    

4.1.4 Fel dywedodd Gweinidog Diwylliant Llywodraeth Catalonia mewn tystiolaeth o flaen y Cynulliad Cenedlaethol yn 2010"nid yw rhyddfrydiaeth ieithyddol, fel rhyddfrydiaeth economaidd, yn amhleidiol… pan fydd dwy iaith yn cyd-fodoli mewn un gwlad, mae galw am weithredu cyhoeddus i amddiffyn yr un gwannach. Fel arall, fe’i gwthir, yn y lle cyntaf, i'r cyrion ac, yn y tymor hir, i ddifodiant."  

4.1.5 Methiant y farchnad yw un o’r rhesymau sefydlwyd S4C yn y lle gyntaf. Cyn bodolaeth ein hunig sianel teledu Cymraeg, bu rhaid i raglenni Cymraeg gystadlu gyda rhaglenni Saesneg am arian. Pryderwn fod tensiynau'n codi fwyfwy rhwng darlledu yn y Gymraeg a'r Saesneg wrth roi cyfrifoldeb ariannu yn nwylo'r BBC. Credwn felly bod angen fformiwla ariannu mewn statud ar gyfer S4C.   

4.2. Fformiwla Ariannu mewn statud  

4.2.1 Mae'r ffordd yr ariennir S4C ar hyn o bryd yn atal y Sianel rhag cynllunio ymlaen llaw. Bydd rhan o'i chyllideb yn cael ei phenderfynu drwy'r adolygiad gwariant, ond bydd y rhan o'i hariannu drwy'r ffi drwydded yn ddibynnol ar gasgliadau adnewyddiad Siarter y BBC. Mae Prif Weithredwr y sianel wedi datgan yn glir bod y sefyllfa yn ei hatal rhag cynllunio ymlaen llaw ac yn amharu'n ddifrifol ar ei gallu i lwyddo.  

4.2.2. Yn ôl yn 2010, cytunodd y Pwyllgor Materion Cymreig1 bod angen fformiwla ariannu statudol i'r sianel. Dywedasant: "we believe that it is essential that there is a long term funding formula enacted in primary legislation." 

4.2.3. Credwn felly bod angen deddfu er mwyn sefydlu sicrwydd ariannol tymor hir i'r sianel, fel arall ni fydd modd iddi ffynnu.    

4.3 Ehangu gwaith S4C 

4.3.1. Nid sianel gyffredin yw S4C, ond darlledwr a sefydlwyd gan ymgyrch dorfol gyda 

nifer o bobl yn aberthu eu rhyddid i ddod â hi i fodolaeth. Tra bod y cyfryngau 

Saesneg dros y 20 mlynedd diwethaf wedi tyfu'n sylweddol, mae siaradwyr Cymraeg 

ar draws ynysoedd Prydain yn parhau i orfod dibynnu ar un sianel Gymraeg yn unig.   

4.3.2. Rydym yn galw am S4C newydd sydd yn addas i'r oes cyd-gyfeiriant a datblygiadau technolegol newydd. Bydd angen sicrwydd ariannol a chynnydd yng nghyllideb y sianel er mwyn cyrraedd y nod hwn. Un enghraifft o'r methiant oherwydd y toriadau difrifol a newidiadau strwythurol yw'r ffaith nad oes gan S4C gwasanaeth clirlun - mae hynny'n rhwystro'r sianel rhag llwyddo; eenghraifft, mae llai o blant a phobl ifanc yng Nghymru yn gwylio ein timau rygbi cenedlaethol ar y sianel oherwydd bod gan yr un gemau fersiwn HD ar ddarlledwyr eraillMae annheg i S4C bod gan bob darlledwr cenedlaethol arall yn y DU clirlun, ac mae'n tanseilio defnydd y Gymraeg yn ogystal.  

4.3.3 Credwn ymhellach y gallai S4C fod yn allweddol er mwyn datblygu gwasanaeth Cymraeg aml-lwyfan newydd a esbonir isod.    

5. Darlledwr Aml-lwyfan Cymraeg Newydd  

5.1. Pan fyddwn yn ceisio esbonio’r ymgyrch i sefydlu ‘darlledwr aml-lwyfan’ newydd, mae rhai pobl yn camddeall y syniad.  Byddai’r darparydd newydd yn creu ac yn dosbarthu cynnwys, ond mae’n fwy na darlledwr, gan y byddai’n cael ei sefydlu i ddosbarthu cynnwys ar bob math o lwyfan - o’r radio a’r teledu i’r we a dyfeisiadau symudol - ac yn barod am oes cydgyfeiriant lle mae ffynonellau adloniant a newyddion yn dechrau dod ynghyd. 

5.2. Credwn y dylid defnyddio’r buddsoddiad ychwanegol a ddaw drwy ardoll newydd er mwyn gwella darlledu yn Gymraeg yn gyffredinol, gan gynnwys S4C a Radio Cymru, ond hefyd er mwyn sefydlu gwasanaeth newydd a fyddai’n ymateb i’r newidiadau mawrion ar y gweill yn y cyfryngau, gan ryddhau Radio Cymru ac S4C o’r baich o orfod darparu ar gyfer yr holl gynulleidfa Gymraeg. Mae creu ecosystem gyfryngol amrywiol yn hanfodol i ddyfodol y Gymraeg ac mae buddsoddiad sylweddol mewn cyfryngau digidol yn hollbwysig er mwyn sicrhau bod y Gymraeg yn briod iaith pob cyfrwng. 

5.3. Ni ddylid meddwl yn nhermau mor gul ag ail orsaf radio neu sianel deledu Gymraeg. Mae potensial i ddarparydd newydd, amlgyfryngol, gyflawni llawer mwy. Byddai strwythur gwahanol yn adlewyrchu’r angen am wasanaeth sy’n amlgyfryngol o’r cychwyn, gan ddefnyddio llwyfannau newydd i gyrraedd y gynulleidfa ehangaf bosibl. 

5.4. Byddai’n llesol i S4C, Radio Cymru, y BBC ac, yn bwysicach, i’r Gymraeg a’i chymunedau, petai darparydd amlgyfryngol newydd o’r fath yn cael ei sefydlu. Byddai’n ehangu’r gynulleidfa sy’n gwrando, yn gwylio ac yn defnyddio’u Cymraeg. Gallai ddarparu rhwydwaith cenedlaethol Cymraeg gan fanteisio ar gydgyfeiriant technolegol i gynnig llwyfan i brosiectau bro a chymunedol. Yn fwy na darlledwr un-ffordd traddodiadol, ei amcan fyddai cryfhau’r Gymraeg a’i chymunedau. Nid darlledwr er ei les ei hunan, ond er lles yr iaith, sydd ei angen. 

5.5. Bwriad y Gymdeithas yw canolbwyntio ar geisio sefydlu darlledwr newydd a allai ehangu’r gynulleidfa Gymraeg a rhyddhau sianel deledu S4C, Radio Cymru (a’r BBC yn ehangach) rhag ceisio gwasanaethu’r holl gynulleidfa Gymraeg a phob grŵp oedran, a’r problemau mae hynny’n ei achosi. Byddai hyn yn caniatáu i sianel deledu S4C a Radio Cymru ganolbwyntio ar gynulleidfa darged fwy penodol, ond hefyd yn sbarduno creadigrwydd gyda’r her o gystadleuaeth. O ganlyniad, credwn y byddai creu darparydd newydd annibynnol yn cryfhau darlledu Cymraeg yn ei gyfanrwydd. 

5.6. Yn anffodus, nid yw’r BBC yn gweld cryfhau’r Gymraeg a’i chymunedau fel rhan o’i swyddogaeth na’i ddiben, ac ni fyddai’r BBC yn gallu gwireddu amcanion angenrheidiol y gwasanaeth newydd, ond dylai fod gan y gorfforaeth ran i’w chwarae wrth gynorthwyo a hwyluso’r gwaith o sefydlu darparydd newydd. Dylai’r BBC gynnig adnoddau a chymorth i sefydlu menter newydd o’r fath, ac annog partneriaid i weithio mewn ffordd debyg. Byddai hynny’n llesol i’r Gymraeg a phlwraliaeth cyfryngau Cymru ond hefyd yn rhyddhau’r gorfforaeth i ddarparu gwasanaeth Cymraeg mwy pwrpasol. Dylai’r BBC gynnig yr opsiynau a gynigwyd ganddynt yn 2008 i ITV ac eraill i’r darparydd Cymraeg newydd yn ogystal â darparwyr bro eraill megis Radio Beca. 

5.7. Gallai cynigion o’r fath i ddarlledwr aml-gyfryngol fod o gymorth mawr wrth ei sefydlu o’r newydd a’i gynnal. Yn ogystal, credwn y dylai’r BBC gynnig adnoddau eraill i’r darparydd newydd a darlledwyr bro Cymraeg, megis gwasanaethau darlledu a throsglwyddyddion. 

5.8. Prif ddiben y gwasanaeth fyddai hybu a hyrwyddo’r Gymraeg, gan anelu at gynulleidfa iau. Mae angen darpariaeth a fydd yn chwarae rhan flaenllaw wrth hybu defnydd o’r Gymraeg ymysg pobl yn eu harddegau ac yn eu hugeiniau cynnar, lle gwelwyd y cwymp mwyaf o ran defnydd o’r Gymraeg yn y cyfrifiad diwethaf. Gallai’r darlledwr aml-lwyfan newydd hwn roi hwb i’r defnydd o’r Gymraeg ymysg pobl ifanc yn enwedig. Nid yw’r darparwyr presennol yn ddigonol er mwyn cryfhau’r Gymraeg a’i chymunedau. Mae angen sefydlu endid newydd felly a fydd yn rhoi hybu’r Gymraeg wrth galon ei waith. 

5.9. Nid oes amau bod patrymau defnydd y cyfryngau wedi newid yn sylweddol dros y blynyddoedd diweddar. Os yw'r Gymraeg i ffynnu yn yr oes aml-lwyfan a chyd-gyfeiriant, mae angen sefydlu gwasanaeth newydd er mwyn sicrhau bod pobl yn cael gweld, clywed a mwynhau'r Gymraeg ar y platfformau newydd hyn.  

5.10. Awdurdod S4C yw'r unig gorff all fod yn gyfrifol am redeg gwasanaeth newydd o'r fath yma oherwydd ei statws cyfreithiol fel corff annibynnol. Credwn ymhellach y byddai creu gwasanaeth newydd i greu cynnwys yn llawer iawn gwell fel un annibynnol o'r BBC, sydd eisoes yn dominyddu darlledu yng Nghymru ac yn y Gymraeg yn enwedig.  Mae angen atal monopoli rhag datblygu yng Nghymru gan yr un darlledwr cyhoeddus Cymraeg. 

6. Gwasanaethau Cymraeg y BBC  

6.1. Radio Cymru - Hoffem ddatgan yn glir bod Radio Cymru yn wasanaeth pwysig iawn ac y byddwn ni’n gwneud popeth yn ein gallu i amddiffyn yr unig orsaf radio genedlaethol Gymraeg, gan ei bod yn chwarae rhan hanfodol yn y gwaith o gynnal y Gymraeg. Mae Radio Cymru yn unigryw gan mai hi yw’r unig orsaf radio genedlaethol Cymraeg ei hiaith tra bo nifer fawr o wasanaethau Saesneg cyfatebol. Gwelwn fod yr orsaf eisoes yn dioddef diffyg adnoddau – mae’n darlledu llai o oriau y dydd na Radio Wales, er enghraifft. Mae angen ehangu’r gwasanaethau ar bob llwyfan er mwyn eu cryfhau ac mae angen i reolwyr y BBC fod yn llawer iawn mwy uchelgeisiol yn hynny o beth, yn hytrach na rheoli dirywiad yn unig. Gellid gwneud llawer mwy ar-lein i gefnogi rhaglenni, i farchnata’n fwy effeithiol, ac i greu cynnwys gwreiddiol. 

6.2. Pwysigrwydd BBC Cymru Fyw a gwasanaethau ar-lein yn Gymraeg - Dylid buddsoddi rhagor mewn gwasanaethau ar-lein y BBC yn Gymraeg. Mae’r ddarpariaeth Saesneg yn llawer mwy sylweddol na’r hyn sydd ar gael yn Gymraeg, ac nid oes gwasanaeth chwaraeon ar-lein digonol ar gael yn Gymraeg. Nid yw’r ddadl bosib ynghylch dyblygu darpariaeth ar-lein gan ddarparwyr eraill - sy’n codi yng nghyswllt gwasanaethau Saesneg ar-lein y BBC - yn berthnasol o gwbl pan ddaw at ddarpariaeth Cymraeg felly. 

6.3Prif-ffrydio’r Gymraeg ar draws rhwydwaith y BBC - Credwn fod diffyg presenoldeb y Gymraeg ar wasanaethau Saesneg y BBC. Dylai fod lleiafswm o ran y ganran o gerddoriaeth Gymraeg y mae’n rhaid i Radio Wales ei chwarae, a dyletswyddau eraill ar holl blatfformau’r BBC o ran darparu gwasanaethau yn Gymraeg, gan gynnwys darpariaeth ar gyfer dysgwyr. Nid lle Radio Cymru yw darparu ar gyfer dysgwyr, ond cyfrifoldeb gwasanaethau eraill y BBC. 

6.4Presenoldeb a Chefnogaeth i ddigwyddiadau Cymraeg eu hiaith - Mae’r BBC yn chwarae rôl bwysig wrth ddarlledu nifer o ddigwyddiadau Cymraeg eu hiaith. Mae’n hollbwysig bod hynny’n parhau, gan gynnwys darllediadau llawn o Eisteddfod yr Urdd a’r Eisteddfod Genedlaethol. Gresynwn nad oes pabell gan y BBC yn Eisteddfod yr Urdd sy’n agored i’r cyhoedd. Credwn y dylai fod gan y BBC bresenoldeb gwell yn Eisteddfod yr Urdd a hynny’n gwbl ar wahân i bresenoldeb S4C yn yr ŵyl.    

6.5Datblygu Gwasanaethau Newydd - Dylai’r BBC sicrhau bod unrhyw fentrau newydd y mae’r gorfforaeth yn ymgymryd â nhw yn prif-ffrydio’r Gymraeg. 

6.6. Oriau am ddim i S4C - Mae o leiaf 10 awr yr wythnos wedi ei addo i S4C gan BBC CymruMae gwerth hyn yn gyfateb i £18m o raglenni y flwyddyn ac mae'n bwysig bod hynny'n parhau 

7. Ariannu Darlledu Cyhoeddus 

7.1. Ardoll newydd er mwyn ehangu darlledu Cymraeg 

7.1.1. Rydym yn argymell codi ardoll ar gwmnïau darlledu a thelathrebu, a hefyd ar hysbysebwyr, er mwyn cyllido darlledu cyhoeddus yn y Gymraeg ac er mwyn sefydlu gwasanaeth amlgyfryngol newydd. Gellid ystyried codi ardoll ar lefel Gymreig, Brydeinig neu Ewropeaidd, gyda gweithgor yn cael ei sefydlu i osod seiliau i’r darparydd newydd. Amlinellir rhagor o fanylion am y syniad yn ein papur polisi "Ariannu Darlledu Cymraeg"2 a lansiwyd ym mis Awst 2014.  

7.1.2. Mae darlledwyr cyhoeddus yng ngwledydd Prydain wedi dioddef toriadau mawr yn eu cyllid yn ystod y pum mlynedd diwethaf. Yn ystod yr un cyfnod, ac er gwaethaf y dirwasgiad, mae darlledwyr preifat, megis British Sky Broadcasting (Sky) ac ITV, wedi gweld cynnydd mawr yn eu helw. Mae llwyfannau ar-lein, megis Google a Facebook, hefyd yn parhau i weld cynnydd mawr yn eu trosiant blynyddol, ac yn defnyddio strwythurau busnes cymhleth er mwyn osgoi talu trethi llawn i‘r llywodraeth. 

7.1.3. Mae trosiant BSkyB wedi cynyddu o £5.4 biliwn yn 2009 i £7.2 biliwn yn 2013, cynnydd o 33%. Mae’r cwmni yn cael elw o £1.3 biliwn yn flynyddol (2013) o gymharu ag £813 miliwn yn 2009, sef cynnydd o £487 miliwn (60%) yn flynyddolMae ITV hefyd wedi gweld cynnydd mawr yn ei elw yn ystod y pum mlynedd yn arwain at 2013. Yn 2009, trosiant y cwmni oedd £1.9 biliwn. Gwelwyd cynnydd blynyddol cyson, gan gyrraedd £2.4 biliwn yn 2013. Mae’r cwmni wedi gweld cynnydd enfawr (278%) yn ei elw felly, o £196 miliwn yn 2009 i £546 miliwn yn 2013Yn 2013, gwelodd cwmni Google gynnydd yn ei incwm yng ngwledydd Prydain i £3.4 biliwn (sy’n gynnydd o 15.5% ar 2012). O gymharu, casglwyd £3.65 biliwn trwy ffi drwydded y BBC yn ystod yr un adeg. Mae hyn yn awgrymu bod incwm Google yng ngwledydd Prydain yn gyfuwch â’r arian a gasglwyd trwy’r ffi drwydded yn 2014. Mae’r rhan fwyaf o gyllid Google yn dod trwy hysbysebion - 96% yn 2011 ac, er gwaethaf ei enillion sylweddol, dim ond £11.2m o dreth gorfforaethol a dalwyd gan Google yn 2012. 

7.1.4. Mae gan system o ardollau botensial i godi symiau sylweddol ychwanegol er mwyn ariannu darlledu cyhoeddus. Ni fyddai’r Deyrnas Unedig yn torri tir newydd yn hyn o beth. Mae ardollau o’r fath yn bodoli mewn gwledydd ar draws y byd, ac yn fecanwaith sefydledig ar gyfer cyllido cynnwys a gwasanaethau cyfryngol. Ar lefel Brydeinig, gallai cyfuniad o’r trethi neu’r ardollau hyn godi, ar radd gymharol isel, sef 1% neu lai, ymhell dros £200 miliwn y flwyddyn, gan greu incwm o ymhell dros £10 miliwn y flwyddyn ar lefel Gymreig.   

7.1.5Fel y gwelwyd yn ystod y blynyddoedd diwethaf, rhoddodd newidiadau deddfwriaethol rwydd hynt i Lywodraeth y Deyrnas Unedig a’r BBC gwtogi ar ariannu darlledu Cymraeg. Pa ddull bynnag o ariannu a ddewisir er mwyn sicrhau bod y Gymraeg yn gallu ffynnu yn y cyfryngau dros y blynyddoedd i ddod, credwn fod angen deddfwriaeth sylfaenol er mwyn sicrhau sefydlogrwydd ac annibyniaeth i S4C ac i ddarlledu yn Gymraeg yn gyffredinol. 

7.2. Rôl y Ffi Drwydded 

7.2.1 Er i ni ymgyrchu yn erbyn toriadau i grant Llywodraeth Prydain i S4C, tra nad oes ffynonellau ariannol eraill, dylid sicrhau bod y ffi drwydded yn cefnogi S4C er mwyn cynyddu'r gyllideb bresennol.  

7.2.2. Credwn y gellid ystyried trosglwyddo'r cyfrifoldeb dros y ffi drwydded i awdurdod S4C yng Nghymru er mwyn sicrhau nad oes modd i'r BBC ymyrryd ag annibyniaeth y darlledwr. Yn sicr, mae angen fformiwla ariannu mewn statud sy'golygu bod modd i S4C cynllunio ymlaen yn hyderus a chan wybod bod cyllideb y sianel yn mynd i gynyddu gyda chwyddiant.    

7.3. Ffyrdd eraill o ychwanegu at gyllid darlledu Cymraeg  

7.3.1. Credwn ymhellach y gellid ystyried mesurau eraill i alluogi ehangu darlledu Cymraeg 

  • Breintiau darlledu yn rhad ac am ddim i ddarlledwyr Cymraeg - yn ddiweddar, diddymwyd  sylwebaeth Gymraeg ar gemau pêl-droed tîm Cymru gan Sky, felly nid oes modd gwylio y gemau yn fyw yn Gymraeg mwyach. Gan nad oes awydd gan Sky ddarlledu'r gemau yn Gymraeg, dylai S4C gael darlledu'r gemau am ddim er mwyn bodloni hawl sylfaenol pobl Cymru i wylio'r gem yn fyw yn Gymraeg. Gellid edrych ar ragor o ddigwyddiadau tebyg na darlledir yn Gymraeg ar hyn o bryd, y byddai ehangu darpariaeth S4C heb gostau uniongyrchol ychwanegol i'r pwrs cyhoeddus.   

  • Darlledwyr preifat i gyfrannu oriau am ddim - mae'r BBC eisoes yn cyfrannu 10 awr o oriau darlledu am ddim i S4C, ond credwn y dylid edrych at ddarlledwyr sy'n gwneud elw sylweddol megis Sky a ITV i ddod o dan ddyletswydd i ddarparu cynnwys am ddim i S4C yn ogystal. Byddai hyn yn dilyn model debycach i'r model a ddefnyddiwyd i sefydlu S4C yn yr 1980au ac yn creu yr angen iddynt ymwneud â'r sianel y gall arwain at fanteision masnachol i bawb yn y pendraw. 

8. Datganoli Darlledu  

8.1. Bu consensws ar draws cymdeithas sifil nad oedd y toriadau a newidiadau strwythurol i S4C a orfodwyd ar y sianel yn 2010 o fudd i’r Gymraeg na Chymru yn ehangach. Cafodd y cynlluniau ar gyfer S4C eu beirniadu gan arweinwyr y pedair prif blaid yng Nghymru, y Pwyllgor Materion Cymreig, degau o undebau a mudiadau iaith a degau o filoedd o bobl a lofnodont ddeiseb, mynychu ralïau ac anfon cwynion at wleidyddion. Yn hytrach na brwydro yn erbyn y cynlluniau, ceisiodd y darlledwyr weithio o fewn cyfyngiadau'r cynlluniau annoeth a gytunwyd rhwng Ymddiriedolaeth y BBC yn Llundain ac Ysgrifennydd Diwylliant y DU, Jeremy Hunt, ar y funud olaf ym Mis Hydref 2010. Yn hynny o beth, anwybyddodd Llywodraeth San Steffan a’r darlledwyr llais unedig Cymru. 

8.2. Bu braidd dim ymgynghoriad ag S4C na gwleidyddion o Gymru yn ystod y broses gynllunio i gwtogi ar gyllideb y sianel. Ymhellach, bu’r cytundeb newydd rhwng S4C, y BBC a DCMS yn fait accompli wedi ei orfodi ar bobl Cymru heb drafodaeth ddemocrataidd am ddyfodol S4C. Mater o siom oedd parodrwydd Awdurdod S4C i gydweithio mewn gorfodi cytundeb o'r fath. Eto, yn gynharach eleni, ymddengys bod y BBC a'r Llywodraeth yn Llundain wedi dod i gytundeb am setliad ariannol i S4C heb ymgynghori â phobl Cymru o gwbl. 

8.3. Yn dilyn y profiad hwnnw, lansiom ymgyrch dros ddatganoli darlledu ychydig o flynyddoedd yn ôl, cawsom gefnogaeth gref gan nifer fawr o fudiadau ac unigolion megis Merched y Wawr, UCAC, arweinwyr sawl cyngor sir a nifer o wleidyddion o’r pedair prif blaid yng Nghymru.  

8.4. Gellir gweld yn glir effeithiau negyddol y sefyllfa bresennol yng nghyd-­destun radio lleol, lle mae allbwn Cymraeg wedi dirywio yn sylweddol oherwydd diffyg rheoleiddio. Mae hanes Radio Ceredigion a Radio Sir Gâr yn enghreifftiau o’r hyn sydd yn digwydd. Mae hefyd wedi amlygu tueddiad y farchnad i danseilio mentrau Cymraeg eu hiaith, gan nad yw’r gyfraith yn amddiffyn natur ieithyddol y mentrau hyn nac yn rhoi cymorth positif i annog a thyfu cynnwys radio Cymraeg.  

8.5. Mae profiad diweddar Radio Ceredigion yn amlinellu’r broblem i’r dim. Er gwaethaf gwrthwynebiad cryf gan y cyhoedd i gwtogi allbwn Cymraeg yr orsaf, fe lwyddodd perchnogion Radio Ceredigion i newid eu hamodau iaith a lleihau'r nifer o oriau a ddarlledir yn Gymraeg ar yr orsaf. Ar Fai 10fed 2011, gwnaeth perchnogion Radio Ceredigion, Town and Country Broadcasting, gais i Ofcom i adael iddynt ddarlledu llai o Gymraeg. Cynhaliodd Ofcom ymgynghoriad ar y cais o 10 Mai tan 3 Mehefin 2011. Ond, oherwydd gwrthwynebiad cryf gan y cyhoedd, gwrthododd Ofcom y cais. Fodd bynnag, ar Fedi 6ed 2011, cyhoeddodd Ofcom y byddai trwydded Radio Ceredigion yn cael ei hysbysebu'n agored ym mhen y mis yn caniatáu i'r un cwmni ceisio am yr un drwydded heb unrhyw amodau Cymraeg. Datganwyd y byddai trwydded Ceredigion yn cael ei ail hysbysebu'n llawn ar 4 Hydref 2011. Enillodd Town and Country Broadcasting y cytundeb, ac mae nawr yn darlledu llawer llai o oriau Cymraeg, sy'n groes i amcanion Llywodraeth Cymru i hyrwyddo’r Gymraeg. 

8.6. Nodwyd hefyd gan Gomisiwn Silk bod y rhan fwyaf o bobl Cymru eisiau datganoli darlledu i Gymru 

8.7. Argymhellwn y dylid:  

● Datganoli grym dros ddarlledu a thelathrebu i’r Cynulliad Cenedlaethol er mwyn sicrhau bod yr arbenigedd a'r gallu i wneud y penderfyniadau cywir dros ddyfodol darlledu yng Nghymru;  

● Ffederaleiddio’r BBC ­ mae'n hanfodol bod datganoli grym yn digwydd o fewn y BBC gyda system ffederal fel y dewis gorau, er mwyn sicrhau tegwch a chydbwysedd, gydag ymddiriedolaeth BBC Cymru wedi ei phenodi gan y Cynulliad Cenedlaethol;  

● Trosglwyddo’r hawl i drwyddedu gwasanaethau radio a theledu i’r Cynulliad Cenedlaethol, gagynnwys radio a theledu lleol, a thrwydded newydd ar lefel Gymreig i’r trydydd sianel deledu masnachol;  

● Rhoi grym i’r Cynulliad Cenedlaethol osod amodau Cymraeg ar drwyddedau radio a theledu lleol;  

● Dylid datganoli cyllideb S4C i’r Cynulliad Cenedlaethol a datganoli’r pwerau deddfwriaethol er mwyn i’r Cynulliad sefydlu fformiwla ariannu i S4C er mwyn diogelu dyfodol y sianel yn y tymor hir;  

● Galluogi’r Cynulliad Cenedlaethol ehangu cylch gwaith S4C i gynnwys darparu gwasanaethau Cymraeg ar bob cyfrwng, yn hytrach na gwasanaeth teledu yn unig;  

● Ehangu pwerau’r Cynulliad Cenedlaethol er mwyn iddynt osod dyletswydd i ddarparu gwasanaethau Cymraeg eu hiaith ym maes darlledu oherwydd y cydgyfeiriant technolegol o safbwynt darparu gwasanaethau. 

9. Casgliadau 

Mae sefyllfa'r Gymraeg yn fregus ac mae gan S4C a'r BBC swyddogaethau pwysig i'w chryfhau dros y blynyddoedd i ddod.  

Mae angen S4C sy'n gwbl annibynnol o'r BBC, sydd ag adnoddau ychwanegol a fformiwla ariannu mewn statudMae angen ehangu gwasanaethau ar-lein a radio Cymraeg y BBC yn ogystal.   

Noda'r Papur Gwyrdd y bu twf aruthrol yn nifer o wasanaethau Saesneg y BBC. Gresynwn nad oes cydnabyddiaeth na fu twf cyfatebol yng ngwasanaethau Cymraeg y gorfforaeth. Er mwyn gwneud yn iawn am hynny ac er mwyn dod â'r Gymraeg i mewn i'r oes cydgyfeiriant, mae angen darlledwr aml-lwyfan Cymraeg newydd sydd, am resymau ymarferol a'r angen am blwraliaeth, yn atebol i Awdurdod S4C.  

Grŵp Digidol, Cymdeithas yr Iaith Gymraeg 

Hydref 2015