Diffyg Deunydd Asesu a Dysgu Cymraeg - llythyr at Kirsty Williams

Diffyg Deunydd Asesu a Dysgu Cymraeg 

Annwyl Weinidog, 

Ysgrifennwn atoch er mwyn mynegi pryder am y diffyg deunydd a Cymraeg a gynhyrchir gan gyrff dyfarnu. 

Wedi nifer o gyfarfodydd ac achosion diweddar, mae'n glir bod problem eang iawn ynghylch diffyg arholiadau a deunydd cwrs ac asesu cyfrwng Cymraeg. Hoffem dynnu eich sylw at nifer o enghreifftiau sy'n amlygu problem mewn dau faes penodol: cymwysterau lefel addysg uwchradd ac addysg i oedolion. 

Addysg Uwchradd 

Gwyddom eich bod yn ymwybodol o'r broblem a ddaeth i'r amlwg yn ddiweddar bod prinder cyfleoedd i astudio Seicoleg fel pwnc TGAU drwy gyfrwng y Gymraeg . Ond rydym hefyd yn ymwybodol bod nifer o athrawon yn gorfod cymryd y baich gweinyddol o greu deunyddiau dysgu eu hunain i ddarparu gwersi drwy'r Gymraeg. Mae hyn yn creu anfantais ac yn llesteirio darpariaeth cyfrwng Cymraeg.  

Rydym ar ddeall bod y diffyg darpariaeth TGAU Seicoleg o ganlyniad i ddiffyg gweithredu gan Gymwysterau Cymru. Erys y broblem er gwaethaf y ffaith bod athrawon wedi holi Cymwysterau Cymru yn reolaidd ers haf diwethaf a gofyn am eu cefnogaeth i ddatrys y broblem. Mae'n siom enfawr i ni, ac yn drueni na fydd myfyrwyr cyfrwng Cymraeg yn gallu astudio'r pwnc hwn. Gwahaniaethu ieithyddol yn erbyn ysgolion cyfrwng Cymraeg yw hyn, ac mae Cymwysterau Cymru wedi caniatáu i'r Gymraeg gael ei thrin fel iaith eilradd yn ein gwlad ein hunain. 

Addysg i Oedolion 

Ceisiodd un o'n haelodau astudio cwrs hylendid bwyd, ond dywedwyd na fyddai modd sefyll yr arholiad yn Gymraeg ac nad oedd deunydd ar gael yn Gymraeg am nad oedd y bwrdd achredu yn cynnig gwneud yn Gymraeg. Dywedodd y bwrdd achredu yn glir nad oedd rheidrwydd arno i gynnig darpariaeth Gymraeg ac na fyddai'n gwneud nes bod deddfu yn y maes. Aeth mor bell â dweud bod angen deddfu.  

Mae'n debyg bod hon yn broblem gyffredin iawn yn y maes; ac yn ein cyfarfodydd diweddar gyda Colegau Cymru ac Addysg Oedolion Cymru dywedasant hwy bod angen datrys y problemau hyn.  

Awgrymiadau ar gyfer newid 

Felly, hoffem ofyn i chi ateb y cwestiynau canlynol: 

A ydych chi a/neu Gymwysterau Cymru yn fodlon mynnu bod modd i bawb dderbyn addysg cyfrwng Cymraeg ym mhob maes ac ar bob lefel heb y gwahaniaethu presennol o ran darpariaeth deunydd ac asesu cyfrwng Cymraeg?  

A ydych chi a Chomisiynydd y Gymraeg yn mynd i ddod â'r cyrff dyfarnu dan gyfundrefn Safonau'r Gymraeg? 

A fyddech chi'n fodlon I'r Coleg Cymraeg chwarae rôl mwy arweiniol wrth ddarparu a chomisiynu deunydd asesu a dysgu drwy'r Gymraeg? 

Gwyddom eich bod yn sylweddoli pwysigrwydd datrys y materion hyn sy'n llesteirio defnydd y Gymraeg ac ymdrechion y Llywodraeth i gyrraedd miliwn siaradwyr Cymraeg ym mhen ychydig ddegawdau.  

Yn olaf, hoffem ail-adrodd ein pryderon ynghylch diwylliant Cymwysterau Cymru a'r diffyg blaenoriaeth y mae'r corff yn ei rhoi i'r Gymraeg. 

Diolch am ystyried ein sylwadau. 

Yr eiddoch yn gywir, 

Toni Schiavone, 

Cadeirydd, Grŵp Addysg, Cymdeithas yr Iaith Gymraeg 

 

Copi at: 

UCAC 

Rhieni dros Addysg Gymraeg 

Cymwysterau Cymru 

Comisiynydd y Gymraeg