Gofal Sylfaenol: Diffyg Hawliau i'r Gymraeg

Annwyl Weinidog,

Ysgrifennwn atoch â chryn bryder ynghylch Safonau'r Gymraeg ym maes iechyd a gyhoeddwyd gennych chi ar 14eg Gorffennaf. Fe gofiwch eich bod wedi ymrwymo cyn yr etholiad i ddatgan eich bod eisiau:

"defnyddio’r Gymraeg ymhob rhan o fywyd er mwyn sicrhau mai’r Gymraeg yw’r iaith naturiol o’r crud i’r bedd"

Fodd bynnag, credwn fod Safonau'r Gymraeg arfaethedig ym maes iechyd yn gweithredu'n groes i'r ymrwymiad hwnnw. 

Bwriadwn, maes o law, ymateb i'r ymgynghoriad yn llawn, ond rhaid yw tynnu eich sylw at faterion o bwys eithriadol sy'n codi cwestiynau am ddilysrwydd yr ymgynghoriad fel y'i cyhoeddwyd.

Dim hawliau i'r cyhoedd wrth ymwneud â darparwyr gwasanaethau sylfaenol

Mae mannau gwan o bwys sylweddol i ddefnydd y cyhoedd o'r Gymraeg yn y rheoliadau hyn. Fel y maent, ni fyddai unrhyw hawliau gan y cyhoedd wrth ymwneud â'u meddygfa leol, sef y prif gyswllt gyda'r gwasanaeth iechyd yn y rhan fwyaf o achosion.

Yn lle cryfhau hawliau pobl i'r Gymraeg wrth ymwneud â'u meddygfa leol a gwasanaethau gofal sylfaenol eraill, mae'ch rheoliadau yn gadael pobl ar lawr gwlad mewn sefyllfa hollol anobeithiol pan ddaw hi at ddelio â rheng flaen y gwasanaeth iechyd.

Mae cwynion di-ri am ddiffyg gwasanaethau Cymraeg elfennol ym maes gofal sylfaenol, o ddiffyg gwasanaeth derbynfa Cymraeg, diffyg staff sy'n siarad Cymraeg i ddiffyg arwyddion a gwefannau Cymraeg. Fel dywedodd Comisiynydd y Gymraeg yn ei hymholiad swyddogol cyntaf "Fy iaith, fy iechyd: ymholiad i’r Gymraeg mewn gofal sylfaenol": 

"Rwyf wedi fy mrawychu o glywed rhai profiadau dirdynnol siaradwyr Cymraeg ac aelodau o’u teuluoedd o fethu â chael gwasanaeth iechyd addas i’w hanghenion."

Ymhellach, ac fel y gwyddoch, cafwyd argymhelliad clir gan Gomisiynydd y Gymraeg yn ei hadroddiad am yr ymchwiliad ynglŷn â maes iechyd:

"Casgliad 14: Gan mai gofal sylfaenol yw cyswllt cyntaf mwyafrif aelodau’r cyhoedd gyda’r gwasanaeth iechyd, cred Comisiynydd y Gymraeg ei bod yn hanfodol sicrhau cysondeb ymddygiad ieithyddol ar draws y gwasanaeth iechyd yng Nghymru yn ei gyfanrwydd. O ganlyniad, rhaid i ddarparwyr gwasanaethau gofal sylfaenol fod yn ddarostyngedig i safonau’r Gymraeg o dan yr un fframwaith statudol â’r sefydliadau iechyd a fu’n destun i’r ymchwiliad safonau hwn. Daw’r Comisiynydd felly i’r casgliad bod angen safonau ychwanegol er mwyn galluogi hyn i ddigwydd."

Mae pobl yn defnyddio'r gwasanaeth iechyd pan maent ar eu mwyaf bregus, felly mae'n hanfodol bwysig eu bod yn medru cyfathrebu yn yr iaith maent yn teimlo'n fwyaf cyfforddus yn ei siarad.

Prin bod y Safonau'n gwneud unrhyw beth i newid y sefyllfa, oherwydd eich penderfyniad i wanhau'r rheoliadau presennol sydd eisoes yn weithredol ar gyfer cynghorau, parciau cenedlaethol a Llywodraeth Cymru. Fel y gwyddoch, mae'r rheoliadau arfaethedig ym maes iechyd (yn wahanol I'r Safonau ar gyfer cynghorau) yn datgan:

"Pan fo’r trydydd parti yn ddarparwr gofal sylfaenol, yn ysbyty preifat yng Nghymru neu’n ysbyty y tu allan i Gymru, yna nid yw unrhyw safonau yn gymwys."

Yn wir, mae'r dyletswyddau felly yn llawer gwannach na phe bai'r feddygfa yn gontractwyr i gynghorau lleol. Fel y gwyddoch, mae dyletswyddau iaith awdurdodau lleol (Rheoliadau Safonau’r Gymraeg (Rhif 1) 2015) yn datgan bod unrhyw wasanaethau a ddarperir ar ran corff, megis contractiwr sy'n darparu gwasanaeth gofal mewn cartref pobl hŷn, yn gorfod darparu yr un hawliau iaith â nhw. Ym maes iechyd, byddai hyn wedi golygu creu'r hawl i gymorth Cymraeg mewn apwyntiad yn eich meddygfa leol. Yn lle hynny, mae ychydig o ddyletswyddau (Safonau 83 – 97 arfaethedig) ar Fyrddau Iechyd, megis un i annog defnydd o fathodynnau iaith mewn meddygfeydd a gwasanaethau gofal sylfaenol eraill. Nid yw'r rhain yn creu hawliau i'r cyhoedd mewn unrhyw ddiffiniad ystyrlon o hawl, nac yn caniatáu i gleifion dderbyn eu triniaeth yn Gymraeg, dim ond creu dyletswydd wan ar y Bwrdd Iechyd sy'n anweithredol ac yn gwbl ddiwerth o safbwynt y defnyddiwr sy'n ceisio derbyn gwasanaeth. Ni fydd hawl gan bobl i fynnu gwasanaeth derbynfa nac apwyntiad yn Gymraeg mewn meddygfa.

Nodwn ymhellach, ei bod yn glir o'ch ymgynghoriad eich bod wedi blaenoriaethu buddiannau cyrff dros fuddiannau'r cyhoedd, gan ddweud:

"Ffactor arall o bwys yn ein hystyriaeth oedd capasiti darparwyr gofal sylfaenol unigol i allu cynnig gwasanaethau iaith Gymraeg i'r un graddau â’r byrddau iechyd a’r ymddiriedolaethau, a sut y byddent yn gallu cydymffurfio â safonau yn ymarferol." 

Nid ydym yn credu eich bod wedi cyd-bwyso hyn yn rhesymol na chymesur o safbwynt y defnyddiwr. Mae'n glir bod eich swyddogion wedi dewis yr opsiwn mwyaf hawdd iddynt eu hunain a hefyd i'r cyrff hynod o gyfoethog hyn ar draul hawliau'r cyhoedd. 

Mae'n rhaid dweud hefyd bod yr honiad canlynol yn eich dogfen ymgynghorol yn un o'r rhai mwyaf gwrthnysig rydym erioed wedi ei weld:

"Gan fod llawer o ddarparwyr hefyd yn ymgymryd â gwaith preifat, ni fyddai’r amgylchiadau pan fyddai disgwyl iddynt gyd ymffurfio â safonau yn glir bob amser gallai unigolyn gael cymysgedd o wasanaethau’r GIG a gwasanaethau preifat yr un pryd."

Mae'r rhesymeg hon yn ymgais i droi dadl dros eglurder hawliau i'r cyhoedd yn rheswm dros beidio â chreu hawliau o gwbl. Yn wir, fe fyddai'n symlach pe na bai hawliau i'r Gymraeg gan y cyhoedd o gwbl. Byddai'n sefyllfa eglur iawn, fyddai ddim hawliau i'r Gymraeg o gwbl. Ond mae'n sarhaus i ddadlau bod hyn yn rheswm teg dros ddod i'r casgliad rydych chi wedi dod iddo.

Materion Eraill

Ymhelaethwn ar ein barn lawn ar y materion hyn yn ein hymateb ffurfiol i'r ymgynghoriad, ond hoffem restru ambell i bryder arall am y rheoliadau.

Rydych chi wedi gwanhau'r hawl fwy cyffredinol i gael "cyfarfodydd yn ymwneud â llesiant" yn Gymraeg, sydd eisoes yn weithredol i bobl sy'n delio â Llywodraeth Leol, Llywodraeth Cymru a pharciau cenedlaethol. Credwn fod hyn yn enghraifft o flaenoriaethu buddiannau'r cyrff dros eglurder i'r cyhoedd, heb sôn am fynd yn groes i rai o brif amcanion Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011.

Mae rhai o'r hawliau, sy'n weithredol ar rai cyrff cyhoeddus yn barod, wedi eu hepgor yn gyfan gwbl o'r Safonau. Mae hynny'n annoeth tu hwnt gan y byddai'n golygu na fyddai hyblygrwydd gan y Comisiynydd i benderfynu gosod y ddyletswydd ar gyrff a chynnig rhagor o amser iddynt gyrraedd y gofyniad hwnnw. Credwn fod hyn yn amlygu diffyg dealltwriaeth cyfreithwyr a rhai o swyddogion y Llywodraeth o'r broses gosod Safonau. Yn benodol, credwn fod yr awgrym o hepgor yr hawl i wasanaeth ffôn cyfan gwbl Gymraeg (Safon 18, Rheoliadau Safonau’r Gymraeg (Rhif 1) 2015) a'r hawl i bob dogfen yn Gymraeg (Safon 40, Rheoliadau Safonau’r Gymraeg (Rhif 1) 2015) o'r rheoliadau arfaethedig, yn fethiant difrifol ar eich rhan.

Casgliad

Mae'r pwyntiau uchod yn faterion difrifol iawn, a chredwn nad ydych chi wedi rhoi sylw dyladwy, fel sy'n ofynnol i chi ei wneud o dan Fesur y Gymraeg (Cymru) 2011, i ddau adroddiad gan Gomisiynydd y Gymraeg ynghylch gofal sylfaenol wrth lunio'r ymgynghoriad hwn.  Os ydych yn honni i chi roi sylw dyladwy i'r adroddiadau, credwn eich bod wedi dod i gasgliad cwbl afresymol. Ymhellach, credwn i chi ystyried prawf 'rhesymoldeb a chymesuredd' o safbwynt y cyrff yn unig, yn hytrach na'r hyn sy'n rhesymol a chymesur o safbwynt y defnyddiwr sy'n ceisio derbyn gwasanaeth.

Mae'r Safonau hyn yn gyfle i fynd i'r afael â'r problemau enbyd sydd yn y gwasanaethau iechyd o ran diffyg gwasanaethau a thriniaeth yn Gymraeg. Fodd bynnag, ni fanteisiwyd ar y cyfle hwn i wella'r gofal i siaradwyr Cymraeg gan nad yw'r Safonau arfaethedig yn cynnwys gwasanaethau iechyd sylfaenol.

Mae'r ymgynghoriad yn un a fydd yn effeithio ar filoedd ar filoedd o bobl, yn eu plith y bobl fwyaf bregus yn ein cymdeithas. Byddwn yn ystyried pob opsiwn sydd gyda ni felly, er mwyn sicrhau bod gan bobl hawliau cadarn a chyflawn yn y maes hollbwysig hwn.

Yr eiddoch yn gywir,

Manon Elin

Cadeirydd, Grŵp Hawl, Cymdeithas yr Iaith Gymraeg

cc: Vaughan Gething AC, Gweinidog Iechyd

Sian Gwenllian AC, Rhun ap Iorwerth AC, Suzy Davies AC, Angela Burns AC,

Comisiynydd y Gymraeg