Llythyr Agored: Yr Undeb Ewropeaidd / Lyther ygor: UE / Litir fhosgailte: Aonadh Eòrpach

Fersiynau Cymraeg, Cernyweg, Gwyddeleg a Saesneg isod.
 

Llythyr agored gan gymunedau ieithoedd lleiafrifoledig sydd o dan awdurdodaeth Llywodraeth y Deyrnas Unedig

Mae ein cymunedau ieithyddol ar eu hennill oherwydd aelodaeth o’r Undeb Ewropeaidd

Fel cynrychiolwyr priod ieithoedd llai eu defnydd Prydain ac Iwerddon sydd o dan awdurdodaeth Llywodraeth y Deyrnas Unedig, yr ydym yn rhyddhau’r datganiad hwn mewn ysbryd o gydsefyll ac yn ein cred bod aelodaeth o’r Undeb Ewropeaidd yn llesol i’n cymunedau ac yn atgyfnerthu hyfywedd ein priod ieithoedd.

Yr ydym yn cynrychioli cymanwlad leiafrifoledig yr ynysoedd hyn gan gynnwys Cernyweg, Gaeleg, Gwyddeleg, Cymraeg a Sgoteg. Fe’n hanwybyddir yn aml gan lunwyr polisïau llywodraeth ac o fewn y drafodaeth gyfredol ynghylch Brexit, er ein bod yn cynnal cyfoeth diwylliannol nas ceir yn yr un man ond yn yr ynysoedd hyn.

Mae ein hieithoedd yn gonglfeini i amryfal ddiwylliannau yr ynysoedd hyn. Gan ymgorffori cymundod ein profiad, ein rhyngweithiad cymdeithasol, ein hiwmor a’n bydolwg, arferir yr ieithoedd hyn, megis ieithoedd modern eraill Ewrop, mewn addysg, busnes, bywyd cymunedol a’r tu hwnt.

Fel ieithoedd eraill y byd sydd o dan fygythiad, y mae ar ein priod ieithoedd angen cefnogaeth a nodded wedi’u diogelu ar ffurf hawliau. Fe gydnabyddir ein hieithoedd o dan Siarter Ieithoedd Rhanbarthol neu Leiafrifol Ewrop a’r Confensiwn Fframwaith ar gyfer Amddiffyn Lleiafrifoedd Cenedlaethol. Mae Cytuniad Lisbon a’r Siarter Hawliau Sylfaenol atodedig yn golygu bod rhoi ystyriaeth i amrywiaeth ieithyddol a diwylliannol, a gwahardd camwahaniaethu ar sail iaith, yn rhan o gyfraith sylfaenol Ewrop. Yn ogystal â hyn, y mae llawer ohonom yn aelodau o’r Rhwydwaith Ewrop ar gyfer Cydraddoldeb Ieithoedd (ELEN), sy’n gweithredu ar draws y Cyfandir i sicrhau bod hawliau ieithyddol yn cael eu gwneud yn hawl ddynol ddiymwad o fewn yr Undeb Ewropeaidd. Yn sgil cyfarwyddebau diweddar ar faterion cydraddoldeb eraill, yr ydym yn pledio dros Gyfarwyddeb Cydraddoldeb Ieithyddol a thros gychwyn achosion torcyfraith mewn achosion o gamwahaniaethu yn erbyn ieithoedd rhanbarthol.

Petai ein gwledydd yn gadael yr Undeb Ewropeaidd, byddem yn cael ein hamddifadu o’r hawliau a rennir gan ddinasyddion Ewrop. Ymhellach, byddem ar drugaredd llywodraethau nad ydynt wedi dangos nemor ddim diddordeb nac awydd i amddiffyn nac i hyrwyddo hawliau siaradwyr ieithoedd ein cenhedloedd a’n bröydd ac sydd wedi gweithredu polisïau ymosodol gyda’r bwriad o ddifodi’n hieithoedd drwy gyfnodau helaeth o’n hanes cyffredin. Ni allem ychwaith gyrraedd nawdd Ewropeaidd ar gyfer prosiectau iaith, a byddai cyrff anllywodraethol ac addysgiadol ar eu colled. Byddai Brexit yn rhwystro gobeithion ein hieuenctid a’u cyflogadwyedd; mae nawdd Ewropeaidd wedi darparu buddsoddiad hanfodol i lawer o economïau ein cymunedau. Y mae’r Undeb Ewropeaidd wedi bod, ac fe all fod eto, yn gadernid ac yn obaith i ieithoedd lleiafrifoledig ein gwledydd.

Yn ystod y drafodaeth gyfredol ynghylch Brexit, nid yw dyfodol priod ieithoedd llai yr ynysoedd hyn wedi cael ei ddwys ystyried yn wybodus ar unrhyw adeg. Ofnwn y byddai Brexit yn esgor ar ddyfodol ansicr i’n cymunedau fel y dengys y penderfyniad diweddar gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig i ddiddymu ei nawdd i’r Gernyweg. Gyda’i gynulliad cydnerth o ddiwylliannau mwyafrifol a lleiafrifol, y mae bod yn rhan o Undeb Ewropeaidd sy’n llawn amrywiaeth yn galluogi gwell dealltwriaeth a nawdd ar gyfer ein priod ieithoedd ein hunain

Yn anuniongyrchol gallai Brexit effeithio’n drychinebus ar ein hieithoedd. Y mae cyswllt clòs rhwng cynaliadwyedd a hyfywedd parhaol ein hieithoedd ac iechyd economaidd y cymunedau sy’n siarad yr ieithoedd hyn. Heb economi lewyrchus sy’n darparu cyflogaeth werthfawr i’r sawl sy’n byw yng nghymunedau brodorol ieithoedd lleiafrifol, gwêl y cymunedau hyn drai siaradwyr o achos allfudiad wrth i bobl ymadael er mwyn cael hyd i waith a chartrefi fforddiadwy. Mae’r duedd hon i’w gweld yng Nghymru, sy’n colli miloedd o siaradwyr Cymraeg bob blwyddyn yn sgil allfudiad. Gwelir patrymau tebyg ym mröydd Gwyddeleg a Gaeleg Iwerddon a’r Alban.

Mae nifer o ardaloedd sydd o dan awdurdodaeth y Deyrnas Unedig a lle siaredir ieithoedd lleiafrifol wedi derbyn buddsoddiad sylweddol o goffrau cronfeydd strwythurol yr Undeb Ewropeaidd gyda’r nod o ddatblygu economi y cyfryw ardaloedd. Yng nghyfnod 2014-2020 mae’r rhain yn cynnwys PEACE IV yng Ngogledd yr Iwerddon a Rhanbarth Gororau Iwerddon, Rhaglen Twf ar gyfer Cernyw ac Ynysoedd Syllan, rhaglenni Gorllewin Cymru a’r Cymoedd a Dwyrain Cymru ac ar gyfer Ucheldiroedd ac Ynysoedd yr Alban. Mae buddsoddiad yr Undeb Ewropeaidd mewn meysydd megis addysg uwch ac amaeth hefyd yn cyfrannu at economi’r ardaloedd lle siaredir ieithoedd lleiafrifol ac felly yn gwneud lles anuniongyrchol i oroesiad yr ieithoedd hyn.

O’r herwydd, yr ydym ni, fel cynrychiolwyr cymunedau ieithoedd llai yn yr ynysoedd hyn, yn dod i’r casgliad bod rhaid i ni aros o fewn yr Undeb Ewropeaidd er mwyn sicrhau diogelwch a ffyniant ein hieithoedd a’u cymunedau a chyfrannu tuag at ddatblygiad pellach yr Undeb Ewropeaidd yn ysbryd Ewrop fel cywaith hawliau dynol ac fel gwarcheidwad heddwch, cydweithio a chyfle cyfartal ar gyfer pobloedd ein Cyfandir ac Ewrop sy’n undod yn ei hamrywiaeth.

Yn gywir,

Davyth Hicks, Rhwydwaith Cydraddoldeb Ieithoedd Ewrop (ELEN)

Garry Nicholas, Llywydd y Llys, Eisteddfod Genedlaethol Cymru

Dòmhnall MacNèill, Comunn na Gàidhlig (Cymdeithas yr Iaith Aeleg)

Loveday Jenkin, Kowethas An Yeth Kernewek (Cymdeithas yr Iaith Gernyweg)

Maureen Pierce, Kesva An Taves Kernewek (Bwrdd yr Iaith Gernyweg)

Michael Hance, Scots Language Centre (Canolfan y Sgoteg)

Dr Gwenllian Lansdown Davies, Mudiad Meithrin

Dr Hywel Glyn Lewis, Cadeirydd Cangen Cymru, Cymdeithas Addysg Ewrop y Rhanbarthau

Hanna Medi Merrigan, Llywydd UMCA

Liam Ó Flannagáin, Comhairle na Gaelscolaíochta (Cyngor Addysg Cyfrwng Gwyddeleg)

Jamie Bevan, Cadeirydd, Cymdeithas yr Iaith Gymraeg

Lyther ygor dhyworth yethow genesik minorytahes kemenethow yethel Breten hag Iwerdhon

Agan kemenethow yeth a gyv prow dhyworth agan eseleth a’n UE

Avel kanasow a’n yethow genesik le kewsys powyow Breten hag Iwerdhon, ni a dhyllo an derivas ma yn-dann omglewans a golm goos kuntellek hag ow krysi eseleth an UE dhe ri prow dh’agan kemenethow ha dhe gevri dhe vewder agan yethow.

Ni a represent kemeneth vinorytahes an enesow ma, y’ga mysk Kernewek, Albanek, Iwerdhonek, Kembrek ha Skots. An enesow ma re synsas ynna dres an osow kemenethow yeth divers. Avel burjysi ekwal a’n enesow ma, nyns on merkys treweythyow gans tus a wra polisi y’n Governans, hag yndella re beu bys lemmyn y’n dhadhel Brexit yn despit dhe witha rychys gonisogethek nag yw kevys marnas yn Stat an RU.

Onan a selveyn an gonisogethow divers enesow Breten hag Iwerdhon yw agan yethow. Ow synsi ynna agan prevyans kuntellek, ynterweythresow socyal, hwarthuster ha gwel a’n bys, devnydhys yw an yethow ma, kepar dell yw yethow arnowydh erel Europa, yn adhyskans, negys, an bewnans kemenethek ha dres henna.

Yma edhom dh’agan yethow genesik, kepar ha dhe yethow erel a’n bys, a skoodhyans ha difresyans avel gwiryow herwydh an lagha. Aswonys yns yn Chartour Europek Yethow Ranndiryel po Minoryta an Konsel a Europ (CEYRM) ha’n Kuntelles Framweyth rag Minorytys Kenedhlek (KFMK). An Kevambos Lisbon, ha’n Chartour a Wiryon Selvenek yw stegys dhodho, a wra dhe vri a dhiversita yethel ha gonisogethel, ha dhe dhifenn a faverans selys war yeth, lagha gwredhek an UE. Lies ahanan yw eseli ynwedh a’n Rosweyth Parder Yeth Europek (RPYE), a ober dres an brastir rag surhe gwiryow yeth dhe vos ha bos gwir denel y’n UE na yll bos kemerys dhe-ves. Ow sewya gorhemynnow a-dhiwedhes a-dro dhe vateryow erel a ekwalder, ni a gomend an kas rag Gorhemmyn Ekwalder Yeth ha rag gweythresow defolans dhe vos ygerys yn kasys a faverans yeth yw gorth-ranndiryel.

Mar tibartha agan broyow dhyworth an UE ni a via eskeys dhyworth an gwiryon kevrennys gans burjysi an UE. Ha pella, ni a via yn-dann vaystri governansow na dhiskwedhas na bern yn na hwans a witha hag avonsya gwiryow kowsowryon yethow agan kenedhlow, ha, dres meur a’gan istori kevrynnys, re gollenwis polisiow yeth freudhek yw desinys dhe dhiwreydhya agan yethow. Ha ny allsen drehedhes arghasans europek rag ragdresow yeth, hag a via damajus dhe gorfow a-der governans hag adhyskansek. Diberth a lettsa chonsyow agan tus yowynk ha’ga gallos a vos arvethys. Arghasans europek re brofyas kevarghow essensek rag lies ekonomieth a’gan kemenethow. An UE re beu, hag a yll bos hwath, defendyer meur a wovenek rag yethow minorytahes agan broyow.

Bythkweth y’n dhadhel Brexit a-lemmyn ny veu omgussulyans kedhlys ow tochya chonsyow devedhek yethow genesik le kewsys an enesow ma. Yma own dhyn y hwra Brexit ledya dhe dhevedhyans andhiogel rag agan kemenethow, dell yw diskwedhys gans ervirans governans an RU dhe hedhi arghasans rag Kernewek. Bos rann a UE divers, gans y guntell krev a gemenethow minoryta ha majoryta a re chons rag konvedhes ha difresyans gwell rag agan yethow agan honan.

An effeyth andhidro a Brexit war agan yethow a allsa bos terosa. Kevrynnys yw sostenadewder ha hewulder ow pesya agan yethow gans yeghes ekonomiethek an kemenethow a gews an yethow ma. Heb ekonomieth a florysh hag a brov arvethow gobrys dhe’n dus a drig yn kemenethow yethow minoryta genesik, an kemenethow ma a wel koll a gowsoryon drefen divroans dhe-ves ha tus ow tiberth rag kavos ober ha treven gavadow. Y hyllir gweles an tuedh ma yn Kembra a gyll milyow a Gembregoryon pub bledhen drefen divroans dhe-ves. Gwelys yw patronyow haval yn ranndiryow Iwerdhon may kewsir Iwerdhonek ha ranndiryow Alban may kewsir Albanek.

Nebes ranndiryow yn Enesow Bretennek may kewsir yethow minoryta re dhegemeras kevarghow a vri dhyworth arghasow strethurek an UE, re bia yn rann herdhys dhe dhisplegya an ekonomieth y’n ranndiryow na. Synsys ynna, y’n spys 2014-2020, yw PEACE IV yn Iwerdhon Gledh ha Ranndir an Or a Iwerdhon, Towlen Devyans Kernow ha Syllan, an towlennow Kembra West ha Nansow ha Kembra Est yn Kembra hag a-dro dhe EUR 174 milvil dhyworth an ERDF ha’n ESF rag Ugeldiryow hag Enesow Alban. Arghasans UE rag taklow kepar ha pennskolyow (Horizon 2020, Erasmus+) hag ammeth (EAFRD) a gevre ynwedh dhe’n ekonomieth a ranndiryow may kewsir yethow minoryta, ha rag henna yth yw a les andhidro dhe dreusvewans an yethow ma. Nyns eus arwodh may tegemersa agan kenedhlow nivelow haval a gevarghow dhyworth governans an RU.

Avel kanasow kemenethow yethow genesik le kewsys yn Breten hag Iwedhon, ni a gonklud ytho mayth yw res dhyn, rag surhe salowder ha sowena agan yethow ha’ga hemenethow, pesya y’n UE, kevri troha y dhisplegyans pella yn spyrys an UE avel ragdres gwiryow denel, avel mewghyer a gres, gwirvreus socyal, kesoberyans ha chonsyow ekwal rag poblow agan brastir ha rag Europa unnyes yn diversita.

Yn lel

Davyth Hicks, Rhwydwaith Cydraddoldeb Ieithoedd Ewrop (ELEN)

Garry Nicholas, Llywydd y Llys, Eisteddfod Genedlaethol Cymru

Dòmhnall MacNèill, Comunn na Gàidhlig (Cymdeithas yr Iaith Aeleg)

Loveday Jenkin, Kowethas An Yeth Kernewek (Cymdeithas yr Iaith Gernyweg)

Maureen Pierce, Kesva An Taves Kernewek (Bwrdd yr Iaith Gernyweg)

Michael Hance, Scots Language Centre (Canolfan y Sgoteg)

Dr Gwenllian Lansdown Davies, Mudiad Meithrin

Dr Hywel Glyn Lewis, Cadeirydd Cangen Cymru, Cymdeithas Addysg Ewrop y Rhanbarthau

Hanna Medi Merrigan, Llywydd UMCA

Liam Ó Flannagáin, Comhairle na Gaelscolaíochta (Cyngor Addysg Cyfrwng Gwyddeleg)

Jamie Bevan, Cadeirydd, Cymdeithas yr Iaith Gymraeg

Litir fhosgailte bho choimhearsnachdan nam mion chànain dhùthchasach a tha ann am beag chuid is a tha fo uachdranas Riaghaltas na RA

Tha ar coimhearsnachdan cànain a’ faighinn buannachd bho ar ballrachd san Aonadh Eòrpach

Tha sinne, mar riochdairean nam mion-chànain dùthchasach ann am Breatainn, a’ foillseachadh an aithris seo le co-fhaireachdainn ri cach a chèile agus leis a’ bheachd gu bheil ballrachd san Aonadh Eòrpach a’ toirt buannachdan do ar coimhearsnachdan agus a’ cur ri beathalachd ar cànain.   

Tha sinn a’ riochdachadh mòran dhan cho-fhlaitheis a tha ann am beag chuid sna h-eileanan seo, a’ gabhail a-steach Kernewek, Gàidhlig, Cymraeg agus Albais. Tha coimhearsnachdan cànain eadar-dhealaichte air a bhith sna h-eileanan seo bho chian nan cian.  Tha sinne mar shaoranaich co-ionann sna h-eileanan seo, gu tric air ar cur ann an suarachas le luchd-dèanaimh poileasaidh an Riaghaltais agus tha sin air a bhith fìor chun an ama a tha seo anns an deasbad mu ‘Brexit’, ged a tha beairteas de dhualchas againn nach eil ri fhaotainn ach sna h-eileanan seo.

Is e ar cànain aon de na stèidhean air a bheil na dualchasan eadar-dhealaichte sna h-eileanan seo stèidhichte.  Leis gu bheil iad a’ gabhail a-steach ar fèin-fhiosrachaidhean air fad, ar n-eadar-obrachadh sòisealta, ar n-àbhachdas agus ar beachd air an t-saoghal mhòr, tha na cànain sin air an cleachdadh, dìreach mar a tha nua-chànain eile san Roinn Eòrpa, ann am foghlam, gnothachas, beatha na coimhearsnachd agus nas fharsainge na sin.   

Dìreach mar a tha fìor a thaobh cànain eile air feadh an t-saoghail a tha ann an cunnart, tha na canain dùthchasach againn a’ cur feum air taic agus air dìon mar chòraichean.  Tha iad air an aithneachadh fon Chairt Eòrpach airson Canain Roinneil no Mion Chànain (ECRML) aig Comhairle na h-Eòrpa agus ann am Frèam-obrach a’ Chùmhnant airson Mion-chànain Nàiseanta (FCNM). Tha Cùmhnant Lisbon an Aonaidh Eòrpaich agus an Clàr Chòraichean Bunaiteach a tha an cois a’ dèanamh spèis airson iomadachd cànan agus cultar agus toirmeasg air leth-bhreith mar thoradh air cànan, na lagh bunaiteach den Aonadh Eòrpach.  Tha mòran dhinn cuideachd nar buill de Lìonra Co-ionannachd Cànain na h-Eòrpa (ELEN), a tha ag obair thar na mòr-thìr gus dèanamh cinnteach gum bi còraichean cànain nan còir daonna dho-dhealaichte taobh a-staigh an Aonaidh Eòrpaich.  A’ leantainn stiùiridhean a thàinig a-mach o chionn ghoirid air cùisean co-ionannachd eile, tha sinn a’ dèanamh an argamaid airson Steòrnadh Co-ionannachd Cànain agus airson imeachdan a thòiseachadh a thaobh cùisean leth-bhreith an aghaidh cànain roinneil.

Nam fàgadh na dùthchannan againn an Aonadh Eòrpach, bhiodh sinn air ar glasadh a-mach bho na còraichean a tha air an co-roinn le saoranaich na Roinn Eòrpa. A thuilleadh air sin bhiodh sinn an eisimeil riaghaltasan nach eil air ùidh no miann a nochdadh airson còraichean luchd-labhairt cànain ar nàiseanan no roinnean a dhìon no àrdachadh, agus a tha, tro mhòran dha ar n-eachdraidh cho-roinnte air a bhith an sàs ann am poileasaidhean ionnsaigheach a tha air an dealbh gus cur às dha na cànain againn.  Nì motha a bhiodh cothrom againn air maoin pròiseact cànain Eòrpach, rud a bhiodh millteach do bhuidhnean neo-riaghaltais agus foghlaim. Ri linn fàgail, chailleadh ar daoine òga cothroman agus cosnadh; tha maoin Eòrpach air tasgadh deatamach a thabhann do mhòran de dh’eaconamaidhean ar coimhearsnachdan.    Tha an EU air a bhith, agus faodaidh e leantainn air a bhith, na dhaingneach de dhòchas airson mion-chanain ar dùthchannan.  

Chan eil beachdachadh fiosraichte air a bhith air a dhèanamh aig puing sam bith san deasbad a tha a’ dol an-dràsta mu ‘Brexit’ mun àm ri teachd airson mion-chànain dùthchasach nan eileanan seo.  Tha eagal oirnn gum biodh an t-àm ri teachd neo-thèarainte do ar coimhearsnachdan, mar chunnacas leis an dòigh anns an do chuir Riaghaltas na RA casg air maoineachadh do chànan na Cùirn.  Tha a bhith mar phàirt de dh’Aonadh Eòrpach a tha ioma-sheòrsach le coithional calma de mhion agus de mhòr chultaran a’ toirt cothrom tuigse agus dìon nas fheàrr a bhith ann do na cànain againn.  

Dh’fhaodadh  a’ bhuaidh neo-dhìreach a tha aig Brexit air ar cànain sgrios mòr a dhèanamh.  Tha seasmhachd agus comas obrachaidh ar cànain ceangailte gu mòr ri slàinte eaconamach nan coimhearsnachdan a tha a’ bruidhinn nan cànain sin.  Às aonais eaconamaidh làidir a tha a’ toirt  cothrom cosnaidh do dhaoine a tha a’ fuireach ann an coimhearsnachdan dùthchasach mion chànain, bidh mòran luchd-labhairt a’ fàgail nan coimhearsnachdan sin gus obair agus dachaighean ùra fhaotainn.  Tha an trend seo ri fhaicinn sa Chuimrigh, is iad a’ call nam mìltean de luchd-labhairt Cuimris gach bliadhna mar thoradh air daoine a bhith a’ fàgail na dùthcha. Tha pàtrain coltach ri seo anns na ceàrnaidhean de dh’Èirinn anns a bheil Gaeilge air a bruidhinn agus sna ceàrnaidhean ann an Alba far a bheilear a’ bruidhinn na Gàidhlig.  

Tha grunnan cheàrnaidhean anns a bheilear a’ bruidhinn mion chànain a tha fo uachdranas na RA air taic mhòr fhaighinn bho maoin structarail an Aonaidh Eòrpaich a tha air a bhith air a stiùireadh ann am pàirt gus eaconamaidh a leithid seo de cheàrnaidhean a leasachadh.  Airson an ama 2014-2020 tha iad sin a’ gabhail a-steach PEACE IV ann an Èirinn a Tuath agus Crìochan na h-Èirinn, Prògram Fàs a’ Chùirn agus Eileanan Scilly, prògraman Taobh Siar na Cuimrigh agus na Glinn agus Taobh Sear na Cuimrigh agus mu EUR 174 millean bhon ERDF agus ESF airson Gàidhealtachd agus Eileanan na h-Alba.  Tha maoin an Aonaidh Eòrpaich airson raointean leithid nan oilthighean (Horizon 2020, Erasmus+) agus àiteachas (EAFRD) cuideachd a’ cur ri eaconamaidh roinnean anns a bheilear a’ bruidhinn mion chànain agus mar sin gu dìreach a’ cur ri maireannachd nan cànain sin.   Chan eil comharra sam bith gum faigheadh ar nàiseanan na h-aon ìrean tasgaidh bho Riaghaltas na RA.  

Tha sinne mar riochdairean nam mion-chànain dùthchasach sna h-eileanan seo, mar sin, air a thighinn chun cho-dhùnadh gum feum sinn fantainn taobh a-staigh an Aonaidh Eòrpaich gus a bhith cinnteach à sàbhailteachd agus soirbheas ar cànain is ar coimhearsnachdan, a bhith a’ cur ri bhith a’ dèanamh tuilleadh leasachaidh air ann an spiorad an Aonaidh Eòrpaich mar phròiseact còraichean daonna, mar urrasair air sìth, ceartas sòisealta, co-obrachadh agus cothrom co-ionann airson nan daoine a tha beò nar mòr-thìr, agus airson Roinn Eòrpa a tha aonaichte ann an iomadachd.

Leis gach dùrachd

Davyth Hicks, European Language Equality Network (ELEN)

Garry Nicholas, Llywydd y Llys, Eisteddfod Genedlaethol Cymru

Dòmhnall MacNèill, Comunn na Gàidhlig

Loveday Jenkin, Kowethas An Yeth Kernewek

Maureen Pierce, Kesva An Taves Kernewek

Michael Hance, Scots Language Centre

Dr Gwenllian Lansdown Davies, Mudiad Meithrin

Dr Hywel Glyn Lewis, Cathraiche, Education Society of the European Regions (A’ Chuimrigh)

Hanna Medi Merrigan, Llywydd UMCA

Liam Ó Flannagáin, Comhairle na Gaelscolaíochta

Jamie Bevan, Cadeirydd, Cymdeithas yr Iaith Gymraeg

An open letter from the minoritised indigenous linguistic communities under the jurisdiction of the UK Government

Our language communities benefit from our European Union membership

We, as representatives of the indigenous lesser-used languages in Britain and Ireland under the jurisdiction of the UK Government, release this statement in the sense of shared kinship and in the belief that European Union membership benefits our communities and contributes towards the vitality of our languages.

We represent many of the minoritised commonwealth of these islands, including Kernewek, Gàidhlig, Gaeilge, Cymraeg, and Scots. These islands have comprised, since time immemorial, diverse language communities. We, as equal citizens of these islands, are often overlooked by Government policy makers and have been so far in the ‘Brexit’ debate, despite harbouring a cultural wealth that is only found in these islands.

Our languages are one of the bedrocks of the varied cultures of these islands. Encapsulating our collective experience, social interactions, humour and world view, these languages are used, as are other modern languages of Europe, in education, business, community life and beyond.

Our indigenous languages, like other endangered world languages, require support and protection enshrined as rights. They are recognised under the Council of Europe’s European Charter for Regional or Minority Languages (ECRML) and the Framework Convention for National Minorities (FCNM). The European Union Lisbon Treaty and the attached Charter of Fundamental Rights means that respect for linguistic and cultural diversity and the prohibition of discrimination on the grounds of language is European Union primary law. Many of us are also members of the European Language Equality Network (ELEN), which operates across the Continent to ensure that language rights become an inalienable human right within the European Union. Following recent directives on other equality matters, we are making the case for a Language Equality Directive and for infringement proceedings to be opened in cases of anti-regional language discrimination.

If our countries left the European Union, we would be excluded from the rights shared by European citizens. We would furthermore be at the mercy of governments that have shown neither the interest nor the desire to protect and promote the rights of speakers of our nations and regions’ languages, and have throughout much of our shared history conducted aggressive language policies designed to eradicate our languages. Neither would we have access to European language project funding, which would be detrimental to non-governmental and educational bodies. Leaving would impede our young people’s prospects and employability; European funding has offered vital investment for many of our communities’ economies. The EU has been, and can be further still, a great bastion of hope for the minoritised languages of our countries.

At no point under the current ‘Brexit’ debate has there been any informed deliberation concerning the future of the lesser used indigenous languages of these islands. We fear that Brexit would lead to an insecure future for our communities, as the UK Government’s recent abolition of funding for the Cornish language demonstrates. Being a part of a heterogeneous European Union with its robust congregation of minority and majority cultures allows for a better understanding and protection of our own languages.

The indirect effect of Brexit on our languages is potentially disastrous. The continued sustainability and viability of our languages is closely linked to the economic health of the communities which speak these languages.  Without a flourishing economy which provides gainful employment to those living in autochthonous minority language communities, these communities see a loss of speakers due to outmigration as people leave to find work and affordable housing. This trend can be seen in Wales, which loses thousands of Welsh speakers a year due to out-migration.  Similar patterns are seen in the Irish-speaking areas of Ireland and Gaelic-speaking areas of Scotland.

Several minority language speaking areas in the UK’s jurisdiction have received significant investment of European Union structural funds which has been partly directed to develop the economy of such areas. For the period 2014-2020 these include PEACE IV in the North of Ireland and the Border Region of Ireland, the Cornwall and Isles of Scilly Growth Programme, the West Wales and the Valleys and East Wales programmes in Wales and funding for the Highlands and Islands of Scotland. European Union funding for areas such as universities (Horizon 2020, Erasmus+) and agriculture (EAFRD) also contribute to the economy of minority language speaking regions and therefore indirectly benefit the survival of these languages. There is no indication that our nations would receive similar levels of investment from the UK Government.

We, as representatives of indigenous lesser-used language communities in these islands, therefore conclude that in order to ensure the safety and prosperity of our languages and their communities we must remain within the European Union, contribute towards its further development in the spirit of the European Union as a human rights project, as a guarantor of peace, social justice, cooperation, and equal opportunity for the peoples of our continent, and for a Europe united in diversity.

Yours

Davyth Hicks, European Language Equality Network

Garry Nicholas, Llywydd y Llys, Eisteddfod Genedlaethol Cymru (National Eisteddfod)

Dòmhnall MacNèill, Comunn na Gàidhlig (The Scots Gaelic Society)

Loveday Jenkin, Kowethas An Yeth Kernewek (The Cornish Language Society)

Maureen Pierce, Kesva An Taves Kernewek (The Cornish Language Board)

Michael Hance, Scots Language Centre

Dr Gwenllian Lansdown Davies, Mudiad Meithrin

Dr Hywel Glyn Lewis, Chairman, Education Society of the European Regions (Wales)

Hanna Medi Merrigan, Llywydd UMCA (Aberystwyth Welsh Student Union) President

Liam Ó Flannagáin, Comhairle na Gaelscolaíochta (Council of Irish-medium education)

Jamie Bevan, Cadeirydd, Cymdeithas yr Iaith Gymraeg