Llythyr at Gomisiynydd y Gymraeg - pryderon am y system gwyno

 

Comisiynydd y Gymraeg

Siambrau'r Farchnad

5–7 Heol Eglwys Fair

Caerdydd

CF10 1AT

22 Gorffennaf 2013

Annwyl Gomisiynydd,

 

Ysgrifennaf atoch ar ran Cymdeithas yr Iaith Gymraeg er mwyn mynegi pryderon ynglŷn â’ch system gwyno.

Yn ddiweddar, mae nifer o bobl wedi cysylltu â’r Gymdeithas i fynegi eu rhwystredigaeth gyda natur anfoddhaol eich system gwyno. Dyma sôn am dair enghraifft benodol sy’n dangos y mathau o rwystrau mae pobl yn eu hwynebu wrth geisio cwyno am ddiffyg gwasanaethau Cymraeg.

I. Achos Gwion Schiavone

Yn gyntaf, hoffwn dynnu eich sylw at ymateb Ffreuer Jones ar eich rhan chi (25 Mai, 2013) i gŵyn a gafodd ei gwneud i chi gan Gwion Schiavone ynglŷn â gwrthodiad cwmni yswiriant Admiral i ddarparu gwasanaeth Gymraeg dros y ffôn, er bod aelod o staff y cwmni oedd yn medru’r Gymraeg ar gael. Credwn fod yr achos hyn yn enghraifft amlwg lle dylech fod wedi defnyddio eich pwerau newydd i gynnal ymchwiliad.  

Yn ôl yr ymateb a gawsom gennych, nid oedd modd i chi gynnal ymchwiliad o dan adran 6, Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 - “Rhyddid i Ddefnyddio’r Gymraeg” - i mewn i gŵyn Mr Schiavone am nad oedd tystiolaeth gadarn bod R - sef, yn yr achos hwn, aelod o staff Admiral sy’n medru’r Gymraeg ac oedd yn bresennol yn y ganolfan alwadau yn ystod y cyfnod dan sylw - yn dymuno cynnal sgwrs neu gyfathrebiad trwy gyfrwng y Gymraeg gyda Mr Schiavone.

Nid yw’r Mesur yn gosod baich ar yr achwynydd i brofi a oedd R yn dymuno siarad Cymraeg neu beidio. Pe byddai baich y profi ar yr achwynydd, credwn na fyddai nifer o achosion o dramgwyddo ar ryddid pobl i ddefnyddio Cymraeg ymysg ei gilydd byth yn cael eu datrys, yn enwedig yn y gweithle lle byddai nifer o unigolion yn gyndyn iawn o fynegi eu dymuniad i’w defnyddio. Credwn fod eich dehongliad o’r Mesur yn anghywir ac yn anghyfiawn i’r rhai sydd yn dioddef oherwydd sefyllfaoedd o’r fath.

Gofynnom am gopi o’ch meini prawf mewnol a ddefnyddiwch wrth i’ch swyddogion asesu ac ystyried sut dylent ymdrin ag achosion o’r fath. Cawsom ein siomi’n fawr wrth ddod i ddeall y byddech yn ein gorfodi i wneud cais rhyddid gwybodaeth i ddarganfod sut mae’r cwynion yn cael eu hasesu. Wedi’r cwbl, yr hyn rydym yn ceisio ei wneud fel mudiad yw cynorthwyo pobl sydd am ddefnyddio’r Gymraeg a defnyddio’r gyfraith i’w llawn potensial i’w cynorthwyo.

II. Cyngor Torfaen

Yn ail, hoffem dynnu eich sylw at achos Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen, sydd wedi derbyn llu o gwynion gan bobl yn ceisio defnyddio gwasanaethau Cymraeg.

Credwn fod yr achosion yn amlygu problemau mawrion ynglŷn â chydymffurfiaeth y Cyngor â’i gynllun iaith. Er i chi dderbyn nifer fawr o cwynion, nid yw’n ymddangos eich bod wedi ystyried cynnal ymchwiliad i mewn i’r Cyngor. Wrth ymateb i gais Rhanbarth Morgannwg Gwent am ymchwiliad, ymateb eich swyddfa oedd gofyn i ni aros am ymateb y Cyngor yn gyntaf, er i’r cwynion fod yn rhai hanesyddol sydd eisoes wedi eu cyfeirio atoch. Profiad sydd yn awgrymu mai prif bwrpas eich system gwyno yw eu rheoli yn hytrach na gweithredu arnynt er mwyn eu datrys.

III. Grwpiau Chwarae Sir y Fflint

Yn olaf hoffwn godi’r achos o gŵyn y clywsom ni amdani yn ddiweddar ac - fel yr ydym yn deall - a gafodd ei chyflwyno i chi ac i Gyngor Sir Fflint yn ddiweddar ynglŷn â diffyg clybiau Cymraeg i blant a’r toriad i’r rhai Cymraeg. Credwn yn gryf fod y broses fiwrocrataidd o ddelio gyda’r gŵyn, yn yr achos yma, wedi amharu ar hawl yr achwynydd i gyfleusterau yn y Gymraeg trwy rwystro unrhyw newidiadau ym mholisïau ieithyddol y Cyngor. Cydnabyddwn fod angen cadw at reolau'r system derbyn cwynion, ond ni fedrwn weld pam oedd angen gofyn caniatâd yr achwynydd cyn mynd ati i ddelio â’r Cyngor yn uniongyrchol. Yn debyg i achos Torfaen rydym yn gweld hyn fel enghraifft arall o fethiant yn y system derbyn cwynion sydd yn rhwystro pobl rhag mwynhau eu hawliau ieithyddol yn llawn.

Camau nesaf

Rhaid pwysleisio taw enghreifftiau yw’r tri achos uchod, ac rydym wedi cael gwybodaeth gan aelodau’r Gymdeithas am achosion eraill hefyd. Mae’r achosion hyn yn codi cwestiynau mawr am drefn cwynion y Comisiynydd, ac am eich swyddogaeth fel eiriolwr i siaradwyr Cymraeg. Mae’r Gymdeithas wedi dadlau ers blynyddoedd dros greu Comisiynydd y Gymraeg, ond mae’n rhaid i’r swyddogaeth honno fod yn un sy’n ymateb yn gadarnhaol i bryderon siaradwyr Cymraeg ac yn mynd ati yn rhagweithiol i ddefnyddio’i phwerau i’w llawn botensial. Credwn fod Adran 3 Mesur y Gymraeg 2011 yn rhoi rheidrwydd arnoch i ymddwyn mewn ffordd benodol, a gofynnwn i chi ailasesu a yw eich systemau mewnol yn cydymffurfio â’r Adran honno neu beidio.

Yn sgil yr achosion hyn yn benodol rydym yn galw arnoch i weithredu er mwyn sicrhau y newidiadau canlynol:-

-          Rhyddhau’r meini prawf rydych yn defnyddio wrth ystyried sut y dylid ymdrin â chwynion;

-          Cynnal adolygiad o’r system derbyn a delio gyda chwynion.

-          Datgan na fydd dyletswydd ar yr achwynydd o hyn ymlaen i brofi fod person R yn dymuno siarad Cymraeg mewn achosion o ymyrryd â rhyddid i ddefnyddio’r Gymraeg;

-     Bod yn llawer mwy rhagweithiol wrth ymdrin â chwynion gan ddefnyddio eich pwerau llawn o dan Ddeddf Iaith 1993 i orfodi newid yn y sefydliadau nad ydynt yn cydymffurfio â’u cynlluniau iaith;

-     Ystyried eich dyletswyddau o dan Adran 3 Mesur y Gymraeg 2011 yn eich holl waith.

Rydym yn bwriadu codi’r pwyntiau uchod yn ystod ein trafodaeth â chi ddydd Mercher yn y Sioe Fawr, a gobeithiwn yn fawr y byddwch yn ystyried o ddifrif y pwyntiau hyn, fel y gallwn barhau â thrafodaethau adeiladol.

 

Yr eiddoch yn gywir,

Siân Howys,

Cadeirydd Grŵp Hawliau

Cymdeithas yr Iaith Gymraeg