Llythyr at UEFA - sylwebaeth Gymraeg ar Sky

Annwyl Walid Bensaoula 

Ysgrifennaf ar ran Cymdeithas yr Iaith Gymraeg i gwyno am benderfyniad Sky i ddiddymu'r sylwebaeth Gymraeg ar ei ddarllediadau gemau pêl-droed cenedlaethol Cymru.   

Mae'r iaith Gymraeg yn iaith swyddogol yng Nghymru. Credwn fod gan bobl Gymru'r hawl i wylio'r gemau hyn yn Gymraeg. Mae BSkyB yn gwneud ymhell dros £1 biliwn mewn elw yn flynyddol, felly nid oes esgus ganddynt ni allant fforddio cost darlledu'r gemau yn Gymraeg. Mae'r penderfyniad yn dangos mor wan yw ymlyniad y sianel at bêl-droed Cymru ac mor ddirmygus yw ymerodraeth Sky o iaith fel y Gymraeg. 

Mae Sky yn honni mai diffyg defnydd yw'r rheswm nad ydynt yn parhau â'r gwasanaeth, ond rhaid nodi nad oedd sylwebaeth Gymraeg ar gael ar wasanaethau Sky arlein, nag ychwaith ar wasanaeth clirlun (HD) y sianel. Mae angen gwasanaeth Cymraeg sydd wedi ei hyrwyddo'n dda yn ogystal ag ar gael yn ddirwystr i'r defnyddiwr. Mae'n gwbl glir bod gan Sky hen ddigon o adnoddau i gyflawni hynny, pe bai'r ewyllys ganddynt  

Hoffem erfyn arnoch i ymyrryd er mwyn sicrhau bod Sky yn adfer y gwasanaeth ac i ail-edrych ar eich cytundebau gyda darlledwyr teledu a radio fel bod ieithoedd lleiafrifoledig a hawliau eu siaradwyr yn cael eu diogelu o fewn y drefn honno.  

Yn gywir, 

Greg Bevan,  

Grwp Digidol, Cymdeithas yr Iaith Gymraeg

Dear Walid Bensaoula 

I'm writing on behalf of Cymdeithas yr Iaith Gymraeg to complain about Sky Sports's decision to stop providing Welsh language commentary on their coverage of Wales' international football matches.

The Welsh language is an official language in Wales. We believe the people of Wales have the right to watch these matches in Welsh. BSkyB currently makes an annual profit of over £1 billion a year, so they have no genuine case to argue they cannot afford the costs of broadcasting matches in Welsh. The decision demonstrates how weak the channel's commitment to Welsh football is and Sky's disrespectful attitude towards the Welsh language as a corporation.

Sky claims lack of use of the service is the reason they are not continuing with the service, but it should be noted that Welsh language commentary was not available on Sky's online nor its high definition service. A Welsh language service needs to be promoted properly and available expeditiously to the user. It's perfectly clear that Sky has enough resources to deliver that, if they had the will to do so.

We urge you to intervene to ensure that Sky resumes the Welsh language commentary and to look again at your agreements with TV and radio broadcasters and ensure that minority languages and the rights of their speakers are protected.                                                            

Yours, 

Greg Bevan,  

Grwp Digidol, Cymdeithas yr Iaith Gymraeg

cc: Carwyn Jones, Prif Weinidog Cymru 

John Griffiths, Gweinidog Cyfoeth Naturiol, Diwylliant a Chwaraeon, Llywodraeth Cymru 

Jeremy Darroch, Prif Weithredwr, Sky 

Ian Jones, Prif Weithredwr, S4C 

Ian Gwyn Hughes, Cymdeithas Pêl-droed Cymru 

Meri Huws, Comisiynydd y Gymraeg